Cynlluniau traffig arfaethedig (CON29R-3.6)
List of proposed traffic schemes.
3.6 d | |
Allanfa Heol y Brenin SA1 | Allanfa o Heol y Brenin i Ffordd Fabian i'w chyfyngu i wasanaethau bysys yn unig. Caiff hyn ei reoli gan fonitro â chamerâu a thâl cosb awtomatig. Byddai pob traffig datblygu arall yn SA1 yn gallu gadael yr ardal o gyffordd Ffordd Fabian/Heol Langdon. Ni fydd y newidiadau'n effeithio ar yr holl draffig sy'n dod i mewn i SA1 o fynedfa Heol y Brenin. Ni raglenwyd y gwaith eto. |
3.6 i | |
Uwchraddio Cyffordd A483 Parc Penllergaer | Gwelliannau telematig i reoli galw o'r gyffordd yn well. Byddai lonydd ymuno i'r chwith hefyd yn lleihau'r oedi i'r traffig sy'n llifo ar yr A483. |
Uwchraddio A483 Heol Pontarddulais / Ffordd Cynore | Mae'r gyffordd hon wedi profi tagfeydd cynyddol o ganlyniad i gynnydd traffig cyffredinol, yn ogystal â datblygu sylweddol mewn ardaoedd cyfagos. Bydd gwelliannau i'r gyffordd yn ceisio cyflawni llif traffig gwell a fydd yn debygol o gynnwys newidiadau i wella rheolaeth telematig a gwelliannau i ffyrdd ymadael a allai ganiatáu symud nad yw wed'i reoli gan arwyddion traffig. Gellir hefyd ystyried datrysiadau ar lefelau gwahanol yn y tymor hwy. |
A484 Gwelliannau i Gylchfannau | Gwella llif ar gyffyrdd ar hyd yr A484, gan gynnwys lonydd ymadael neilltuedig a gosodiadau telematig lle bo'n briodol. |
Gwelliannau i'r B4296 Gorseinon i Bontarddulais | Gwelliannau llif i ddarparu gyfer gyfer cynnydd poblogaeth rhagweledig ym Mhontarddulais. Disgwylir ehangu lleol a gwelliannau telematig. |
Uwchraddio Llif B4296 Heol Fictoria | Ehangu lleol a gwelliannau telematig er mwyn cyflwyno gwelliannau o ran llif traffig. |
Gwelliannau Llif Traffig Pont Balwin | Adeiledd ar lefelau gwahanol posib arfaethedig i ddarparu ar gyfer datblygu lleol a chynnydd mewn traffig. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Gwelliannau Llif Traffig Crwys Brynhyfryd | Gwelliannau i lif traffig arfaethedig i liniaru tagfeydd yn ystod oriau prysuraf. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Uwchraddio Cylchfan Bryntywod (Cyffordd 46) | Cynllun i hyrwyddo cysylltedd gwell i Fryntywod ac oddi yno i Gyffordd 46 yr M4 er mwyn hyrwyddo cysylltedd â Pharc Busnes Strategol Felindre a pharc diwydiannol llai ym Mhryntywod. |
Cyswllt Heol Caerfyrddin i G46 yr M4 | Gwelliannau llif a chysylltedd arfaethedig. Gwelliant sylweddol i ddarparu cysylltedd ffordd er mwyn annog traffig nad yw'n mynd tua'r ddinas i ddefnyddio llwybrau amgen y tu allan i ardal y sir, er budd datblygu a thwf canol y ddinas. Cynigir integreiddio datblygiad tai 1200 uned gan Llanmoor Homes ar dir rhwng Heol Penplas a Heol Abertawe, Llangyfelach. Ni chyllidwyd na rhaglenwyd eto. |
Gwelliannau i Lif Traffig Cylchfan Cyswllt Dros y Cwm | Gwelliannau i lif traffig arfaethedig i liniaru tagfeydd yn ystod oriau prysuraf. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Gwelliannau Heol Crymlyn | Gwella'r briffordd i alluogi llif traffig cerbydau gwell i Abertawe o Sgiwen, Castell-nedd a Gellifedw i leihau effaith y teithiau hyn ar briffyrdd a chyffyrdd strategol. |
Gwelliannau i Lif Traffig Cyffordd Dyfatty | Datrysiadau ar lefelau gwahanol bosib arfaethedig i gynnal a hyrwyddo llif traffig heb rwystrau Mae'r cynllun hwn yn ddyhead. Nid oed cyllid ar ei gyfer ac mae'n anhebygol o symud ymlaen yn y tymor byr i ganolog. |
Coridor Ffordd Fabian | Mae hyn yn gynllun aml-elfen mawr i wella cysylltedd ar hyd y coridor hwn sy'n safle o ddatblygu strategol. Bydd y cynllun cyffredinol yn cyflawni canlyniadau Asesiad Trafnidaeth Ffordd Fabian a ddablygwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gymeradwywyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Dinas a Sir Abertawe. Bydd y cynlluniau yn cael eu cyflwyno cam wrth gam wrth i ddatblygiadau gael eu terfynu a rhagwelir y byddai swm sylweddol o arian cyfatebol hefyd yn cael ei godi drwy gyfraniadau gan Ddatblygwyr. Mae'r cynllun yn cynnwys: Parcio a Theithio, lonydd bysys yn unig, gwelliannau i gyffyrdd, cyfnewidfeydd, cysylltiadau beicio a cherdded. |
Gwelliannau i Ffyrdd Gogleddol Parc Busnes Strategol Felindre | Gwelliannau i ddarparu ar gyfer lefelau uwch o draffig a grëwyd gan ddatblygiad newydd a sefydlwyd ym Mharc Busnes Strategol Felindre a datblygiad preswyl mawr posib sy'n gyfagos iddo (yn amodal ar gymeradwyaeth CDLl). |
Gwelliannau i Lif Traffig Crwys Fforest-fach | Gwelliannau llif traffig arfaethedig i liniaru tagfeydd yn ystod oriau prysuraf. Ni ddyluniwyd eto ac nid oes manylion am ehangder y gwaith. |
Cysylltiad rhwng y Glais a'r Gellifedw | Llwybr aml-ddefnydd i'w adeiladu rhwng cymunedau'r Glais a'r Gellifedw i hyrwyddo teithio llesol a chyflawni llwybr cerdded diogel i'r ysgol |
Cynllun Gwella Troetffordd Ffordd Gŵyr | Troetffordd ar yr ochr ddeheuol yn ymylu ar rifau 51 i 91. Ni raglenwyd ar hyn o bryd. Wedi'i rannol adeiladu drwy ailddatblygu eiddo parhaus. Am ragor o wybodaeth, ysgrifennwch i'r Grŵp Gwelliannau, Drwy law Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN |
Estyniad Parcio a Theithio Glandŵr | Estyniad arfaethedig i'r safle presennol i'r maes parcio gorlif cyfagos. |
Gwelliant Cyffordd Stryd Lime / Heol y Mynydd | Cynllun gwell llif traffig a gymeradwywyd, rhan o raglen tymor canolog a hir y cynllun trafnidiaeth lleol 2020-2030. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Cynllun Troetffyrdd Heol Lone (Rhif 2-14) | Cynllun troetffyrdd arfaethedig ar Heol Lone a gwaith cysylltiedig o amgylch y gyffordd â Heol Eithrim. Ni chyllidwyd na raglenwyd eto. |
Gwelliannau Llif Traffig C47 yr M4 | Gwelliannau arfaethedig i liniaru tagfeydd a symudiadau strategol yn ystod oriau prysuraf. |
Safleoedd Parcio a Rhannu Cyffordd yr M4 | Cynllun i ddarparu cyfleuster parhaol ar gyfer defnyddwyr Parcio a Rhannu sy'n gyfagos â choridor yr M4 a disodli'r cyfleuster dros dro a rennir â'r DVLA ym Mharc Busnes Strategol Felindre. |
Cynllun Troetffordd Gyffredin Heol Mayals Clun | Troetffordd â defnydd a rennir arfaethedig ar draws ochr ddeheol comin Clun rhwng cymunedau Mayals a'r Gellifedw i hyrwyddo teithio llesol a chyflwyno 'Llwybrau Diogelach i'r Ysgol'. Ni raglenwyd na chyllidwyd ar hyn o bryd. |
Cynllun Troetffordd Lôn Mill. | Adeiladu troetffordd newydd arfaethedig ar ochr ogleddol Heol y Mwmbwls i Erddi Mill |
Gwelliannau llif traffig Stryd Mill/Heol Gorwydd/Heol Fictoria | Gwelliannau arfaethedig i liniaru tagfeydd a symud strategol yn ystod oriau prysuraf i ogledd penrhyw Gŵyr. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Gwelliannau Cyffordd Heol y Mumbles / Heol Fairwood | Gwelliannau i wella reolaeth telematig wrth y gyffordd brysur hon. Newidiadau posib i alluogi lonydd troi neilltuedig hefyd i'w harchwilio. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Gwelliannau Cyffordd Heol y Mumbles / Heol Mayals | Gwelliannau i wella reolaeth telematig wrth y gyffordd brysur hon. Newidiadau posib i alluogi lonydd roi neilltuedig hefyd i'w harchwilio. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Gwelliannau i Lif Traffig Heol Mynydd Garnllwyd / Heol Llangyfelach | Gwelliannau llif traffig arfaethedig i liniaru tagfeydd yn ystod oriau prysuraf. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Croesfannau i gerddwyr a beicwyr ar Ffordd Fabian | Isadeiledd i hyrwyddo cysylltedd ar draws Ffordd Fabian rhwng cymunedau St Thomas/Port Tennant a datblygiad y Glannau SA1. Bydd yr isadeiledd hwn yn gymysgedd o ymryiadau un-lefel a lefelau gwahanol. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Uwchraddio Cylchfan Peniel Green (C 44) | Gwelliannau llif traffig i ddarparu llif mwy o gerbydau modur. Disgwylir y bydd hyn ar ffurf gwelliannau telematig a systemau rheoli cysylltiedig. |
Gwelliant Heol Pont y Cob | Mae'r ffordd hon yn ffurfio cyswllt gwydnwch hollbwysig i draffig modur os bydd probleau ar y rhwydwaith priffordd strategol cyfagos. Gallai gwelliannau llif traffig i'r ffordd hon helpu i leihau pwysau ar gyffyrdd a phriffyrdd prysur yn yr ardaloedd hyn, yn enwedig ar gyfer traffig sy'n teithio tuag at ogledd Gŵyr ac oddi yno drwy Dre-gŵyr i Gorseinon, Llwchwr a chyrchfannau'r gorllewin. Mae'r ffordd hon yn ffurfio unig adran ar yr heol Llwybr 4 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn Ninas a Sir Abertawe a bydd darpariaeth oddi ar yr heol yn cynnig gwelliant sylweddol. |
Gwelliannau Llif Traffig Crwys Sgeti | Gwelliannau llif traffig arfaethedig i ddatrys tagfeydd oriau prysur a sicrhau gwelliant cyffredinol llif cerbydau. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Cysylltiad Lôn Sgeti i Gampws y Bae | Cysylltiad cerdded a beicio yn bennaf i hyrwyddo teithio rhwng Campws y Bae, canol y ddinas a champws Singleton, ond hefyd er gwelliant cyffredinol Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sydd hefyd yn dilyn yr aliniad hwn. |
Gwelliannau Llif Traffig Lôn Sgeti i Grwys Fforest-fach | Gwelliannau llif traffig a chysylltedd arfaethedig i ddarparu cysylltedd ffordd er mwyn annog traffig nad yw'n mynd tua'r ddinas i ddefnyddio llwybrau amgen y tu allan ardal y sir, er budd datblygu a thwf canol y ddinas. Ni ddyluniwyd eto ac nid oes manylion am ehangder y gwaith. |
manylion am ehangder y gwaith | Cynllun i ddarparu llwybr cerdded a beicio oddi ar y ffordd, heb draffig rhwng Sgiwen a'r Gwellifedw i gysylltu â darpariaethau yn Sgiwen ar gyfer teithio i gyrchfannau dwyreiniol a gorllewinol. |
Cynllun Gwella Gwelededd Southgate | Ehangu arfaethedig y briffordd rhwng rhifau 57 ac 80 Heol Pennard. Ni raglenwyd ar hyn o bryd. |
Coridorau Bysys Strategol o amgylch Abertawe | Cyfres o welliannau ar lwybrau bysus prysur iawn o amgylch Abertawe a fydd yn gallu gwella dibynadwyedd amser teithio, amseroedd teithio gwell a chyfleusterau aros i deithwyr (rhaglen tymor byr Cynllun Trafnidiaeth Lleol 2015-2020). Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Pecyn Ansawdd Aer Abertawe | Cyfres o fesurau Rheoli Traffig i wella ansawdd aer mewn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) (cylchfan Normandy i Stryd y Bont - 1.1km) Cynllun Tymor Byr 2015-2020 |
Safle Parcio a Theithio Cwm Tawe | Cynllun i sefydlu safle parcio a rhannu / parcio a theithio Bro Abertawe ger Heol Spine Bro Abertawe. Bydd y swyddogaethau parcio a theithio yn gwasanaethu Stadiwm Swansea.com a busnesau lleol yn y Parc Menter yn bennaf. Nodwyd safle a ffefrir y mae'r cyngor yn berchen arno. |
Gwelliant Heol Spine Bro Abertawe | Gwelliannau i hyrwyddo llif arwyddion yn y ffordd ddosbarthu bwysig hon. Efallai y bydd ehangu lleol ac ymyriadau telematig mewn pwyntiau sy'n profi tagfeydd yn ofynnol. |
Coridor Bysus Cwm Tawe i Ganol y Ddinas | Cyfres o welliannau ar y llwybr bysys rhwng Cwm Tawe i Abertawe a fydd yn gwella dibynadwyedd amser teithio, amseroedd teithio gwell a chyflesuterau aros i deithwyr (o'r Mond, Clydach i Heol Tywysog Cymru - 9km) cynllun tymor byr 2015-2020. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Cynllun Coridor Bysys Abertawe-Caerfyrddin | Cyfres o welliannau ar lwybr bysys Caerfyrddin i Abertawe a fydd yn gwella dibynadwyedd amser teithio, amseroedd teithio gwell a chyflesuterau aros i deithwyr. Cynllun tymor byr 2015-2020. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Parcio a Theithio'r Gorllewin | Cynllun gwelliannau cludiant cyhoeddus arfaethedig. Safle parcio a theithio newydd a mesurau blaenoriaeth i fysys i wella cysylltedd cludiant cyhoeddus i ganol y ddinas a'r Mwmbwls. Ni ddyluniwyd na chyllidwyd eto. |
Cynllun Troetffordd Coetiroedd | Ehangu arfaethedig gyda throetffordd, cilfannau a mannau pasio. Ni raglenwyd na chyllidwyd y cynllun ar hyn o bryd. |
3.6 K | |
Llwybr Beicio Gorseinon i Dreforys drwy Benllergaer | Llwybr beicio neilltuedig i ddarparu cysylltedd rhwng Gorseion a Threforys drwy Benllergaer a Llangyfelach. Disgwylir i'r llwybr hwn fod oddi ar y ffordd a heb draffig ac mae'n debygol o ddilyn aliniad yr A48 cymaint â phosib. Rhaglen tymor hir y CTLl 2020-2030 |
Llwybr Beicio Tre-gŵyr i Fforest-fach | Llwybr beicio neilltuedig a fydd yn darparu cysylltedd rhwng Tre-gŵyr a Fforest-fach. Rhaglen tymor hir y CTLl 2020-2030. |
Cyswllt Beicio Pontybrenin | Byddai'r cynllun hwn yn darparu cyswllt coll yn y rhwydwaith beicio rhwng Tre-gŵyr a Phontybrenin gan groesi Comin Stafford drwy ddefnyddio hen aliniad rheilffordd. |
Llwybr beicio Heol Canol i Orsaf y Stryd Fawr | Llwybr beicio neilltuedig a fydd yn darparu cysylltedd rhwng Fforest-fach a Gorsaf y Stryd Fawr. Rhaglen tymor hir y CTLl 2020-2030. |
Llwybr Beicio Penllergaer i Fforest-fach | Llwybr beicio neilltuedig a fydd yn darparu cysylltedd rhwng Penllergaer a Fforest-fach. Rhaglen tymor hir y CTLl 2020-2030. |
Llwybr Beicio Glannau Tawe | Cynllun i sefydlu llwybr oddi ar y ffordd, heb draffig ar hyd glannau gorllewinol Afon Tawe rhwng Pontydd Tawe a'r Garreg Wen. Bydd hyn yn manteisio ar ddatblygu glannau'r afon dros y blynyddoedd i ddod ac yn atgyfnerthu'r ddarpariaeth ar lannau dwyreiniol yr afon. Rhaglen tymor hir y CTLl 2020-2030. |
3.61 | |
Cynllun Pont Newydd Pont-y-Lon | Pont newydd ehangach gyda gwaith priffordd a throetffordd cysylltiedig ar y ddwy ochr. Ni raglenwyd y cynllun eto. |
Cynllun Pont Droi Pwynt Abertawe | Pont groesi newydd o ochr loc i ochr loc ar fynedfa ddeheuol y doc oddi ar Afon Tawe. Wedi'i gymeradwyo ond ni sicrhawyd cyllid. |