Rhoi ystafelloedd yn y to
Bydd angen i chi ymgeisio am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu os ydych yn bwriadu rhoi ystafell yn y to.
Bydd gofynion perthnasol y rheoliadau'n cael eu gweithredu i sicrhau, er enghraifft:
- bod sefydlogrwydd adeileddol y llawr arfaethedig yn ddigonol
- nad oes perygl i sefydlogrwydd yr adeilad, (gan gynnwys y to)
- bod dihangfa ddiogel rhag tan
- bod y grisiau i'r llawr newydd wedi'u dylunio'n ddiogel.
Addaswyd diwethaf ar 14 Ebrill 2021