Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhyddfreinwyr ar y Tir / Ceidwaid heddwch (neu hawliau tebyg)

Gwybodaeth am pam nad yw hawliau 'Rhyddfreinwyr ar y Tir' / 'Ceidwaid heddwch' yn cael unrhyw effaith ar atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor.

Mae'n ymddangos bod y mudiad 'Rhyddfreinwyr ar y Tir' a grwpiau tebyg yn credu bod pobl yn rhwymedig i gontractau a chyfreithiau y rhoddwyd caniatâd ar eu cyfer yn unig. Mae hyn yn anghywir. Nid yw cyfraith contract a hawliau honedig dan gyfraith gyffredin yr un peth â deddfwriaeth sy'n ymwneud â gweinyddu, gorfodi a chasglu Treth y Cyngor.

Y sefyllfa gyfreithiol yw nad oes gennych ddewis a ydych yn atebol i dalu Treth y Cyngor ac nid yw disgrifio eich hun fel 'Rhyddfreiniwr ar y Tir' yn eithrio unrhyw un rhag talu Treth y Cyngor. 

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Y Ddeddf") a'r rheoliadau a wnaed dan y Ddeddf honno sy'n pennu pwy sy'n atebol am dalu Treth y Cyngor. Crëwyd y statud hon gan senedd y Deyrnas Unedig a etholwyd yn ddemocrataidd, sydd wedi derbyn cydsyniad y Goron ac mae'r Ddeddf a rheoliadau statudol dilynol yn nodi hawliau awdurdod lleol i godi a chasglu Treth y Cyngor i ariannu ei wasanaethau.

Nid yw'r atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor yn dibynnu ar gydsyniad, ac nid oes ei angen, neu fodolaeth perthynas gontractiol â'r cyngor. Mae unrhyw honiad o'r fath i'r gwrthwyneb yn anghywir ac nid oes unrhyw sail gyfreithiol i wneud y ddadl hon.

Ar adegau, mae rhai pobl yn argyhoeddi eu hunain, neu'n cael eu hargyhoeddi gan eraill, bod defnyddio hen gyfraith yn golygu nad oes angen iddynt dalu Treth y Cyngor. Eto, mae hyn yn anghywir ond, yn anffodus, mae llawer o erthyglau a thempledi camarweiniol/anghywir ar y rhyngrwyd ynglŷn â chyfreithlondeb Treth y Cyngor.

Nid oes unrhyw sail gyfreithiol i'r cyfeiriadau canlynol:

  • Person nad yw wedi rhoi caniatâd i dalu Treth y Cyngor
  • Nid oes perthynas gontractiol rhwng y cyngor a'r preswylydd
  • 'Gwrthryfel cyfreithiol'
  • Erthygl 61 (neu unrhyw ran arall) o'r Magna Carta
  • Deddf Llw'r Coroni 1688
  • 'Heddwch y bobl'
  • Dychmygiadau cyfreithiol, 'dynion gwellt' a 'Rwyf fi, X o deulu Y' 
  • Cyfraith forol neu'r morlys
  • Côd Masnachol Unffurf

Dylai unrhyw un sy'n ystyried defnyddio'r rhain fel amddiffyniad yn erbyn atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor neu ffordd o osgoi talu Treth y Cyngor y maent yn atebol amdani, fod yn ofalus a gofyn am gyngor cyfreithiol priodol cyn gwneud hynny. Ni ddylent ddibynnu ar ffynonellau rhyngrwyd na datganiadau fforwm a allai fod yn anghywir neu'n gamarweiniol. Cymerir camau gorfodi yn erbyn unrhyw berson atebol sy'n atal taliad yn seiliedig ar ddadleuon o'r fath.

Mewn achosion eithafol gallai hyn arwain at ddedfryd o garchar. Ystyriodd a dyfarnodd y llys yn achos Llys Ynadon Manceinion yn erbyn McKenzie (2015) lle gwrthodwyd amddiffyniad 'rhyddfreiniwr ar y tir' a chafodd yr unigolyn ei garcharu am 40 niwrnod.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch bilio neu godi Treth y Cyngor, gofynnwch am gyngor cyfreithiol annibynnol. Peidiwch â dibynnu ar ffynonellau rhyngrwyd, tystiolaeth ail law neu ddatganiadau fforwm a all fod yn anghywir neu'n gamarweiniol.

Deddfwriaeth

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n cwmpasu Treth y Cyngor ar gael am ddim ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:

Sylwer:

Er y bydd tîm Treth y Cyngor yn gwneud eu gorau i ateb yr holl ymholiadau perthnasol am Dreth y Cyngor ac y byddant bob amser yn ceisio helpu cwsmeriaid sy'n cysylltu â ni gan eu bod yn cael anhawster, rydym yn cadw'r hawl i wrthod ymateb i ymholiadau annilys sy'n aml yn hir ac sy'n canolbwyntio ar ddadleuon damcaniaethol nad oes iddynt sail mewn statud. 

Byddai ymateb dro ar ôl tro i ohebiaeth ffug-gyfreithiol sydd heb unrhyw sail gyfreithiol yn defnyddio ein hadnoddau ar draul trethdalwyr eraill. Mae hyn yn cynnwys llythyrau a hysbysiadau a gyflwynwyd i brif weithredwr y cyngor, neu swyddogion eraill, gyda'r un rhesymu camarweiniol.

Ceisiadau cyffredin ynghylch 'rhyddfreinwyr' / 'ceidwaid heddwch' a'n hymatebion

Mae gennym gyfrifoldeb i anfon biliau Treth y Cyngor a'i chasglu, ond nid yw hyn yn golygu bod perthynas ymddiriedol. Mae rhai o'r cwestiynau cyffredin rydym wedi'u derbyn yn cynnwys:

Darparwch gontract cyfreithiol wedi'i lofnodi gennych chi, sy'n cynnwys llofnodion y ddau ohonom.

Mae rhai preswylwyr yn ystyried bod Treth y Cyngor yn gontract a bod angen contract cyfreithiol a llofnodion yn nodi cytundeb. Fel yr eglurwyd eisoes, mae Treth y Cyngor yn statud, ac nid oes angen contract. Felly, mae unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf Cwmnïau, y Ddeddf Contractau, y Ddeddf Biliau Cyfnewid neu ddeddfau eraill ynghylch cwmnïau neu gontractau yn amherthnasol.

Darparwch dystiolaeth fy mod wedi cytuno â chi y gallwch gasglu dyled honedig gennyf yn gyfreithlon.

Unwaith eto, mae hyn yn amherthnasol gan ni chyfnewidiwyd contractau ac ni chafwyd cytundeb. Nid oes angen y naill na'r llall ar gyfer codi ac adennill Treth y Cyngor.

Darparwch dystiolaeth bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnaf i dalu Treth y Cyngor.

Mae hierarchaeth o bwy a ystyrir y person atebol wedi'i chynnwys yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Nid oes angen cytundeb unigol o hyn er mwyn i atebolrwydd i dalu'r Dreth Gyngor fodoli.

Darparwch gadarnhad bod y ddyled yn bodoli'n gyfreithlon.

Mae cyflwyno Hysbysiad Galw am Dalu Treth y Cyngor (y bil) yn creu'r ddyled. Nid oes angen llofnod neu gytundeb gan breswylydd gan ei bod yn dreth.

Darparwch ddogfennau sy'n cynnwys llofnod inc gwlyb. 

Nid oes angen llofnod ar gyfer bilio Treth y Cyngor ac nid yw llofnod inc gwlyb yn orfodol ar wŷs llys ychwaith. Mae cyfraith achosion blaenorol wedi egluro bod y defnydd o stamp rwber neu lofnod electronig yn ddilys at ddiben y llys yn llofnodi gwŷs.

Rwy'n Rhyddfreiniwr ar y Tir ac nid wyf yn atebol.

Nid yw bod yn Rhyddfreiniwr ar y Tir yn golygu y gall rhywun ddewis pa gyfreithiau y mae'n glynu atynt a pha rai y mae'n yn eu hanwybyddu. Mae hon yn ddadl heb unrhyw sail gyfreithiol ddilys.

Darparwch anfoneb TAW

Ystyrir bod Treth y Cyngor y tu allan i gwmpas TAW ac nid oes angen i ni ddarparu anfoneb TAW.

Nodwch p'un a ydych chi'n gwmni neu'n gorfforaeth.

Mae Cyngor Abertawe'n awdurdod lleol o fewn y Sector Cyhoeddus ac nid oes ganddo rif cwmni.

Nid wyf yn cydsynio i'r deddfau sy'n ymwneud â rhwymedigaethau/casglu Treth y Cyngor felly nid oes rhaid i mi dalu Treth y Cyngor.

Mae deddfau'n cael eu llunio gan Senedd etholedig ar ran y wlad gyfan, felly nid oes angen cydsyniad unigol i wneud deddfwriaeth yn orfodol. Dangoswyd yn y llys ei fod "yn amhosib ac yn amhriodol" cael cydsyniad unigol gan bob dinesydd yn bersonol", er enghraifft yn achos Kofa yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Oldham yn yr Uchel Lys [2024]

Nid yw gorchymyn atebolrwydd a ddyfernir gan Lys Ynadon yn ddilys os na chyhoeddwyd copi papur o'r gorchymyn gan y llys.

Nid yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 yn gofyn am Orchymyn Atebolrwydd ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan lys. Yn achos Uchel Lys 'The Leighton v Bristow & Sutor' roedd y Llys yn fodlon bod rhannau o "restr llys", o'u cymharu â llofnod yn ardystio nifer y Gorchmynion Atebolrwydd a wnaed, yn dystiolaeth ddigonol i'w alluogi i ddod i gasgliad bod Gorchymyn Atebolrwydd yn wir wedi cael ei wneud.

Mae'r Cyngor yn trosglwyddo fy nhaliadau Treth y Cyngor i gyd neu ran ohonynt i Lywodraeth y DU a gall fod yn ariannu terfysgaeth, yn groes i Ddeddf Terfysgaeth 2000 neu Ddeddf Llys Troseddol Rhyngwladol 2001. 

Nid yw cwestiynau ynghylch pryd mae Deddf Terfysgaeth 2000 neu Ddeddf Llys Troseddol Rhyngwladol 2001 yn berthnasol ai peidio yn rhai i Gyngor Abertawe eu hateb. Awgrymwn eich bod yn adolygu'r nodiadau esboniadol a gyhoeddwyd gyda'r ddeddfwriaeth berthnasol i gael gwell dealltwriaeth neu'n ceisio cyngor cyfreithiol priodol.

Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Y Ddeddf") a'r rheoliadau a wnaed dan y Ddeddf honno sy'n pennu pwy sy'n atebol am dalu Treth y Cyngor. Crëwyd y statud hon gan senedd y Deyrnas Unedig a etholwyd yn ddemocrataidd, sydd wedi derbyn cydsyniad y Goron ac mae'r Ddeddf a rheoliadau statudol dilynol yn nodi hawliau awdurdod lleol i godi a chasglu Treth y Cyngor i ariannu ei wasanaethau.

Mae Treth y Cyngor a gesglir mewn perthynas ag eiddo yn ardal Abertawe i'w defnyddio gan Gyngor Abertawe yn ein hardal ac nid yw'r awdurdod yn anfon unrhyw ran ohoni i Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru. Nid yw'r Cyngor yn ariannu gweithredoedd terfysgol ac nid ydyw erioed wedi gwneud hynny. Os ydych yn dymuno gweld ein cyfrifon blynyddol, gallwch wneud hynny yma: Datganiad o gyfrifon

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2024