Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad o gyfrifon

Y Gyfriflen yw'r Crynodeb statudol o faterion ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a chaiff ei pharatoi'n unol â Chôd Ymarfer Cyfrifeg yr awdurdod lleol (ACOP).

Diben y Gyfriflen yw darparu gwybodaeth glir am gyllid gyffredinol y cyngor ar gyfer etholwyr, trethdalwyr lleol, aelodau'r cyngor ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb, a dangos sut mae cyngor y ddinas wedi defnyddio arian cyhoeddus yn ystod y flwyddyn.

Archwiliad o gyrifon

Hysbysir drwy hyn, yn unol ag Adrannau 30 a 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, fel y'u diwygiwyd -

1. O ddydd Llun 6 Ionawr 2025 i ddydd Gwener 10 Ionawr 2025, ac o ddydd Llun 13 Ionawr 2025 i ddydd Gwener 17 Ionawr 2025, ac o ddydd Llun 20 Ionawr 2025 i ddydd Gwener 24 Ionawr 2025, ac o ddydd Llun 27 Ionawr 2025 i ddydd Gwener 31 Ionawr 2025, rhwng yr oriau o 9.00am a 4.30pm, o dan adran 30(1) o'r Ddeddf uchod caiff unrhyw berson sydd â diddordeb, ar gais i'r Prif Swyddog Cyllid, Ystafell 152, Neuadd y Dref, Abertawe, archwilio a gwneud copïau o Gyfrifon Dinas a Sir Abertawe ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, ynghyd a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau perthnasol sy'n ymwneud â'r cyfrifon.

2. O dan adran 30(2) o'r Ddeddf uchod, neu ar ôl dydd Llun 3 Chwefror 2025 am 10.00am yn Neuadd y Dref, Abertawe, Archwilydd Penodedig y Cyngor, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu ei gynrychiolwyr, ar gais unrhyw Lywodraeth Leol y mae'r cyfrifon yn berthnasol iddi, yn rhoi i'r etholydd neu i gynrychiolydd yr etholydd gyfle i'w holi am y cyfrifon, a gall y cyfryw etholydd neu ei gynrychiolydd ef/hi ymddangos gerbron yr Archwilydd a gwrthwynebu unrhyw rai o'r Cyfrifon.

3. Rhaid i unrhyw Etholwr roi hysbysiad ysgrifenedig ymlaen llaw i'r Archwilwyr o unrhyw wrthwynebiad arfaethedig ac ar ba sail y dylid ei wneud (yn unol â rheoliad 16 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005). Ar yr un pryd, cyflwynir copi ohono i Brif Weithredwr y Cyngor.

4. Nid yw hyn yn rhoi hawl i unrhyw berson archwilio unrhyw gyfrifon neu ddogfennau eraill y cyfeirir atynt ym Mharagraff 1 uchod i'r graddau y mae'r cyfrifon neu'r dogfennau hynny yn cynnwys gwybodaeth bersonol, fel y'i diffinnir gan adran 30(4) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, neu i fynnu bod unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei datgelu mewn ateb i unrhyw gwestiwn.

5. O dan adran 31(1), mae gan Etholwyr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd, yn ystod y cyfnod sydd yn rhedeg o'r diwrnod penodedig hyd at gwblhau'r archwiliad, i wrthwynebu unrhyw fater y gallai'r Archwilydd ei gymryd o dan adran 32 (cais am ddatganiad bod eitem o gyfrif yn groes i'r gyfraith) neu y gallai'r Archwilydd lunio adroddiad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 22 (adroddiadau er budd y cyhoedd).

Dylid anfon yr hysbysiad o wrthwynebiad neu wrthwynebiad posibl at Derwyn Owen, Archwilio Cymru, 1 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ

Dyddiedig y 3 Rhagfyr 2024

Debbie Smith, Dirprwy Brif Swyddog Cyfreithiol (yn gweithredu fel Swyddog Monitro)

Mae'r Gyfriflen ar gyfer sawl blwyddyn ar gael isod.

Oherwydd natur dechnegol y dogfennau hyn, nid ydynt ar gael yn Gymraeg.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Rhagfyr 2024