Rhyddid gwybodaeth
Derbyniwyd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gyda'r bwriad y byddai'n annog awdurdodau cyhoeddus i daenu mwy o oleuni ar yr hyn y maent yn ei wneud gydag arian cyhoeddus a pheidio â chefnogi cyfrinachedd diangen.
Derbyniwyd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y ddeddf), a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2000, yn gosod 2 brif ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus fel Dinas a Sir Abertawe:
- rhaid i'r awdurdod lunio cynllun cyhoeddi
- rhaid i'r awdurdod ddarparu hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth y mae'n ei chadw (yn amodol ar rai categorïau o wybodaeth a eithriwyd)
Cais Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol Cais Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol
Hawl Mynediad Cyffredinol
O 1 Ionawr 2005, gall unrhyw un wneud cais am 'wybodaeth a gofnodwyd' gan yr awdurdod (yn amodol ar eithriadau). Gall gwybodaeth a gofnodwyd fod ar unrhyw fformat e.e. papur, disg, fideo ac mae'n cynnwys fersiynau electronig a phapur o gofnodion fel negeseuon e-bost, adroddiadau, cofnodion cyfarfodydd a chynlluniau llawr.
Mae 23 categori o wybodaeth a eithriwyd yn y ddeddf, sy'n cynnwys eithriadau llwyr ac eithriadau cymwys. Enghreifftiau o eithriadau llwyr yw gwybodaeth sydd ar gael i'r ymgeisydd drwy ffyrdd eraill, rhai mathau o wybodaeth bersonol, gwybodaeth a roddir yn gyfrinachol a chofnodion lle gwaherddir datgelu yn ôl y gyfraith. Os gall eithriad llwyr gael ei ddefnyddio yna nid oes rhaid datgelu'r wybodaeth.
Bydd y rhan fwyaf o eithriadau'n gymwys ac felly maent yn destun prawf budd y cyhoedd h.y. a yw budd y cyhoedd drwy atal gwybodaeth a eithriwyd yn gorbwyso'r budd i'r cyhoedd o'i rhyddhau. Enghreifftiau o eithriadau cymwys yw gwybodaeth i'w chyhoeddi yn y dyfodol fel adroddiadau drafft, materion gorfodi'r gyfraith a deunyddiau sy'n fasnachol sensitif. Rhaid i'r wybodaeth gael ei datgelu os yw o fudd i'r cyhoedd.
Nid yw'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhestru unrhyw berson/bobl a benodir o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Felly, nid yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, y Swyddog Canlyniadau neu unrhyw berson arall a benodir o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 yn destun darpariaethau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mae'r ddeddf yn gwbl ôl-weithredol fel bod yr holl wybodaeth a gofnodwyd sy'n cael ei chadw gan Ddinas a Sir Abertawe'n dod dan gwmpas y ddeddf.
Mae'n drosedd gorfforaethol a phersonol i unrhyw un newid, difwyno, atal, dileu, dinistrio neu gelu unrhyw gofnod a gedwir gan yr awdurdod gyda'r bwriad o atal ei ddatgelu unwaith y bydd ymgeisydd wedi gwneud cais amdano.
Cydymffurfio
Ar ôl derbyn cais ysgrifenedig am wybodaeth a gofnodwyd rhaid hysbysu'r ymgeisydd a yw'r wybodaeth honno gan yr awdurdod ac os felly rhaid ei ddarparu â'r wybodaeth honno, os yn bosib, yn y modd y gofynnwyd amdani.
Rhaid i'r awdurdod ymateb yn brydlon i gais o fewn 20 niwrnod gwaith.
Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn mynd i'r afael â thorri'r Ddeddf hon. Mae ef yn swyddog cyhoeddus annibynnol ac mae'n ateb yn uniongyrchol i'r Senedd. Mae gan y Comisiynydd Gwybodaeth bŵer i roi hysbysiadau am benderfyniadau, hysbysiadau gwybodaeth a hysbysiadau gorfodi er mwyn gwneud i'r awdurdod cyhoeddus gydymffurfio.
Yn gyntaf rhaid i'r ymgeisydd fod wedi dilyn gweithdrefn gwyno fewnol yr Awdurdod i'r eithaf.
Os hoffech wneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, gallwch wneud hyn drwy lenwi'r ffurflen ar-lein neu e-bostio rhyddidgwybodaeth@abertawe.gov.uk.