Rhywogaethau a Chynefinoedd Adran 7
Mae rhywogaethau a chynefinoedd adran 7, sydd o bwysigrwydd mawr, wedi'u dynodi o dan gyfraith o'r enw Deddf yr Amgylchedd Cymru (2016).
Mae'r rhestrau Adran 7 hyn yn cynnwys mathau o rywogaethau a chynefinoedd sydd "o bwysigrwydd mawr" ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Yn aml mae'r rhywogaethau a chynefinoedd ar y rhestr yn brin, dan fygythiad, neu gallant fod wedi dioddef dirywiadau difrifol yn y gorffennol.
Mae'n ofynnol o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd Cymru (2016) fod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi'r rhestrau o rywogaethau a chynefinoedd sydd o bwysigrwydd mawr yng Nghymru. Mae hefyd angen iddyn nhw gymryd yr holl gamau rhesymol i gynnal a gwella'r rhywogaethau a chynefinoedd a gynhwysir yn y rhestrau Adran 7, ac annog eraill i gymryd yr un camau. O'r herwydd, mae'n ofynnol i Gyngor Abertawe ystyried y rhestrau hyn wrth ymgymryd â'i swyddogaethau.
Restr lawn o'r rhywogaethau adran 7 a gofnodwyd yn Abertawe dros yr 20 mlynedd diwethaf (ers 2002)
Mamaliaid
Adar
Pysgod
Ymlusgiaid ac amffibiaid
Infertebratau
Planhigion blodau
Cen
Mwsogl a cwmpanllys
Ffwng
Morol
Mamaliaid
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Llygoden bengron y dŵr | Arvicola amphibius |
Ystlum du | Barbastella barbastellus |
Draenog | Erinaceus europaeus |
Ysgyfarnog | Lepus europaeus |
Dyfrgi | Lutra lutra |
Llygoden yr ŷd | Micromys minutus |
Pathew | Muscardinus avellanarius |
Ffwlbart | Mustela putorius |
Ystlum mawr | Nyctalus noctula |
Ystlum lleiaf | Pipistrellus pipistrellus |
Ystlum lleiaf meinlais | Pipistrellus pygmaeus |
Ystlum hirglust | Plecotus auritus |
Ystlum pedol mwyaf | Rhinolophus ferrumequinum |
Ystlum pedol lleiaf | Rhinolophus hipposideros |
Adar
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Llinos bengoch fach | Acanthis cabaret |
Ehedydd | Alauda arvensis |
Gŵydd dalcen-wen yr Ynys Las | Anser albifrons |
Corhedydd y coed | Anthus trivialis |
Aderyn y bwn | Botaurus stellaris |
Gwydd ddu Siberia | Branta bernicla bernicla |
Troellwr maw | Caprimulgus europaeus |
Cwtiad torchog | Charadrius hiaticula |
Gwylan benddu | Chroicocephalus ridibundus |
Boda tinwyn | Circus cyaneus |
Gylfinbraff | Coccothraustes coccothraustes |
Rhegen yr ŷd | Crex crex |
Cog | Cuculus canorus |
Cnocell fraith leiaf | Dryobates minor |
Bras melyn | Emberiza citrinella |
Bras y cyr | Emberiza schoeniclus |
Cudyll coch | Falco tinnunculus |
Gwybedog brith | Ficedula hypoleuca |
Grugiar goch | Lagopus lagopus |
Cigydd cefngoch | Lanius collurio |
Gwylan y penwaig | Larus argentatus |
Rhostog gynffonfraith | Limosa lapponica |
Llinos | Linaria cannabina |
Llinos y mynydd | Linaria flavirostris |
Troellwr bach | Locustella naevia |
Ehedydd y coed | Lullula arborea |
Môr-hwyaden ddu | Melanitta nigra |
Siglen felen | Motacilla flava |
Gwybedog mannog | Muscicapa striata |
Gylfinir | Numenius arquata |
Aderyn y to | Passer domesticus |
Golfan y mynydd | Passer montanus |
Petrisen | Perdix perdix |
Telor y coed | Phylloscopus sibilatrix |
Cwtiad aur | Pluvialis apricaria |
Titw'r helyg | Poecile montanus |
Titw'r wern | Poecile palustris |
Llwyd y gwrych | Prunella modularis |
Aderyn drycin y Balearig | Puffinus mauretanicus |
Brân goesgoch | Pyrrhocorax pyrrhocorax |
Coch y berllan | Pyrrhula pyrrhula |
Môr-wennol wridog | Sterna dougallii |
Turtur | Streptopelia turtur |
Drudwen | Sturnus vulgaris |
Bronfraith | Turdus pilomelos |
Mwyalchen y mynydd | Turus torquatus |
Cornchwiglen | Vanellus vanellus |
Pysgod
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Llysywen | Anguilla angilla |
Llysywen bendoll yr afon | Lampetra fluviatilis |
Llysywen bendoll y môr | Petromyzon marinus |
Brithyll / Siwin | Salmo trutta |
Ymlusgiaid ac amffibiaid
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Neidr ddefaid | Anguis fragilis |
Llyffant dafadennog | Bufo bufo |
Madfall y tywod | Lacerta agilis |
Neidr y gwair / neidr y glaswellt | Natrix helvetica |
Madfall ddwr gribog | Triturus cristatus |
Gwiber | Vipera berus |
Madfall | Zootoca vivpara |
Infertebratau
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Bidog llwyd | Acronicta psi |
Bidog y tafol | Acronicta rumicis |
Castan leiniog | Agrochola lychnidis |
Cilgant brych | Allophyes oxyacanthae |
Clustwyfyn llygeidiog | Amphipoea oculea |
Ôl-adain lyglwyd | Amphipyra tragopoginis |
Castan Grech | Anchoscelis helvola |
Gwenynen durio | Andrena tarsata |
Brithyn llwydolau | Apamea remissa |
Gwladwr brownddu | Aporophyla lutulenta |
Gwladwr brownddu | Arctia caja |
Pryf llofrudd | Asilus crabroniformis |
Melyn yr onnen | Atethmia centrago |
Corryn neidio | Attulus caricis |
Cimwch dŵr croyw | Austropotamobius pallipes |
Britheg berlog fach | Boloria selene |
Cardwenynen lwydfrown | Bombus humilis |
Cardwenynen y mwsogl | Bombus muscorum |
Cardwenynen goesgoch | Bombus ruderarius |
Gwargwlwm bach | Brachylomia viminalis |
Chwilen ddaear | Carabus monilis |
Gwladwr brith | Caradrina morpheus |
Gwyfyn plu'r gweunydd | Celaena haworthii |
Gwyfyn y banadl | Ceramica pisi |
Rhesen y banadl | Chesias legatella |
Seffyr delltog | Chiasmia clathrata |
Cacynen gynffon ruddem | Chrysis fulgida |
Chwilen deigr groesryw | Cicindela hybrida |
Melyn penfelyn | Cirrhia icteritia |
Mursen Penfro | Coenagrion mercuriale |
Gweirlöyn bach y waun | Coenonympha pamphilus |
Gwyfyn drewllyd | Cossus cossus |
Glesyn bach | Cupido minimus |
Moca tywyll | Cyclophora pendularia |
Cwcwll melynaidd | Dasypolia templi |
Smotyn sgwâr bach | Diarsia rubi |
Corryn rafftio'r ffen | Dolomedes plantarius |
Ffenics bach | Ecliptopera silaceata |
Carpiog Medi | Ennomos erosaria |
Carpiog tywyll | Ennomos fuscantaria |
Carpiog Awst | Ennomos quercinaria |
Brychan y friwydd | Epirrhoe galiata |
Y gwibiwr llwyd | Erynnis tages |
Gwenynen gorniog | Eucera longicornis |
Gwladwr yr hydref | Eugnorisma glareosa |
Brychan cyrens | Eulithis mellinata |
Britheg y gor | Euphydryas aurinia |
Dart y gerddi | Euxoa nigricans |
Dart gwynresog | Euxoa tritici |
Dart deunod | Graphiphora augur |
Clustwyfyn cilgantog | Helotropha leucostigma |
Gwalchwyfyn gwenynaidd ymyl gul | Hemaris tityus |
Emrallt barf yr hen ŵr | Hemistola chrysoprasaria |
Chwimwyfyn rhithiol | Hepialus humuli |
Gweirlöyn llwyd | Hipparchia semele |
Llwyd llyfn | Hoplodrina blanda |
Gwladwr gwridog | Hydraecia micacea |
Chwilen blymio | Hydroporus rufifrons |
Ton sidan | Idaea dilutaria |
Pryf teiliwr chwe smotyn | Idiocera sexguttata |
Tyllwr egin cwrens | Lampronia capitella |
Gweirlöyn y cloddiau | Lasiommata megera |
Gwensgod gwar rhesog | Leucania comma |
Corrach gwridog | Litoligia literosa |
Rhisglyn brith | Lycia hirtaria |
Seffyr y ffyrch | Macaria wauaria |
Gwaswyfyn | Malacosoma neustria |
Misglen berlog yr afon | Margaritifera (Margaritifera) margaritifera |
Gwyfyn dotiog | Melanchra persicariae |
Brychan hardd y calch | Melanthia procellata |
Chwilen olew | Meloe proscarabaeus |
Chwilen olew | Meloe violaceus |
Pali tywyll | Mniotype adusta |
Brychan lletraws | Orthonama vittata |
Crynwr llychlyd | Orthosia gracilis |
Brychan y wermod | Pelurga comitata |
Gwregys y gwair | Perizoma albulata |
Copyn/corryn coes gribog | Phycosoma inornatum |
Gwibiwr brith | Pyrgus malvae |
Gwelltwyfyn mawr | Rhizedra lutosa |
Cranc-gorryn y tywod | Rhysodromus fallax |
Brithribin wen | Satyrium w-album |
Ton arfor | Scopula marginepunctata |
Brychan y calch | Scotopteryx bipunctaria |
Rhesen lydan dywyll | Scotopteryx chenopodiata |
Ermin gwyn | Spilosoma lubricipeda |
Ermin llwydfelyn | Spilosoma lutea |
Llwyd gloyw | Stilbia anomala |
Rhwyll y crawcwellt | Tholera cespitis |
Rhwyll bluog | Tholera decimalis |
Gwyfyn gwythïen goch | Timandra comae |
Teigr y benfelen | Tyria jacobaeae |
Malwen droellog geg gul | Vertigo (Vertilla) angustior |
Bachadain y derw | Watsonalla binaria |
Brychan deusmotiog tywyll | Xanthorhoe ferrugata |
Clai'r rhos | Xestia agathina |
Clai'r waun | Xestia castanea |
Planhigion blodau
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Merllys gorweddol | Asparagus prostratus |
Glas yr ŷd | Centaurea cyanus |
Camri | Chamaemelum nobile |
Brenhinllys y maes | Clinopodium acinos |
Cotoneaster y Gogarth | Cotoneaster cambricus |
Penigan y porfeydd | Dianthus armeria |
Effros Blodau Mawr | Euphrasia officinalis subsp. pratensis |
Mwg y ddaear glasgoch | Fumaria purpurea |
Y Benboeth gulddail | Galeopsis angustifolia |
Crwynllys Cymreig | Gentianella uliginosa |
Haidd y morfa | Hordeum marinum |
Cytwf | Hypopitys monotropa |
Merywen | Juniperus communis subsp. communis |
Gefell-lys y fignen | Liparis loeselii |
Murwyll arfor | Matthiola sinuata |
Tegeirian llosg | Neotinea ustulata |
Tegeirian llydanwyrdd bac | Platanthera bifolia |
Crafanc-y-frân dridar | Ranunculus tripartitus |
Helys pigog | Salsola kali subsp. kali |
Crib Gwener | Scandix pecten-veneris |
Dinodd unflwydd | Scleranthus annuus |
Gludlys amryliw | Silene gallica |
Gwylaeth yr Oen Llyfn | Valerianella rimosa |
Ffacbysen chwerw | Vicia orobus |
Fioled welw | Viola lactea |
Cen
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Cen | Cladonia peziziformis |
Cen | Lecania chlorotiza |
Parmelia ernstiae | Parmelia ernstiae |
Placynthium subradiatum | Placynthium subradiatum |
Punctelia jeckeri | Punctelia jeckeri |
Sticta fuliginosa s. lat. | Sticta fuliginosa s. lat. |
Synalissa ramulosa | Synalissa ramulosa |
Cen | Toninia sedifolia |
Brig-far flodeuog | Usnea articulata |
Cen | Usnea florida |
Mwsogl a cwmpanllys
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Edeufwsogl y Baltig | Bryum marratii |
Edeufwsogl arfor | Bryum warneum |
Llysiau'r afu edafeddog cyfa | Cephaloziella calyculata |
Rheffynfwsogl hardd | Entosthodon pulchellus |
Pocedfwsogl Portiwgal | Fissidens curvatus |
Mwsogl (pluenfwsogl Smith) | Neckera smithii |
Llysiau'r afu petalaidd | Petalophyllum ralfsii |
Mwsogl copr dail tafod | Scopelophila cataractae |
Mwsogl troellog Wilson | Tortula wilsonii |
Mwsogl minfoel Levier | Weissia levieri |
Ffwng
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Tagell binc las fawr | Entoloma bloxamii s. lat. |
Ffwng draenog | Hydnellum concrescens |
Ffwng draenog melfedaidd | Hydnellum spongiosipes |
Menyg Cyll | Hypocreopsis rhododendri |
Tafod daear bach melynwyrdd | Microglossum olivaceum |
Ffwng tail ceffyl mannog | Poronia punctata |
Morol
Enw Cyffredin | Enw Lladin |
---|
Llymrïen | Ammodytes marinus |
Cocosen fawr | Arctica islandica |
Crwban môr pendew | Caretta caretta |
Dolffin cyffredin | Delphinus delphis |
Crwban môr cefnlledr | Dermochelys coriacea |
Morfil pengrwn | Globicephala melas |
Dolffin Risso | Grampus griseus |
Dolffin ystlyswyn | Lagenorhynchus acutus |
Cythraul y môr | Lophius piscatorius |
Morfil cefngrwm | Megaptera novaeangliae |
Gwyniad môr | Merlangius merlangus |
Wystrysen | Ostrea edulis |
Llamhidydd | Phocoena phocoena |
Lleden goch | Pleuronectes platessa |
Morgath styds | Raja clavata |
Eog | Salmo salar |
Macrell | Scomber scombrus |
Marchfacrell | Trachurus trachurus |
Addaswyd diwethaf ar 08 Rhagfyr 2023