Toglo gwelededd dewislen symudol

Bydd miliynau'n cael eu buddsoddi mewn ffyrdd yn y flwyddyn i ddod

Bydd y rhaglen ailwynebu ffyrdd cymunedol hynod boblogaidd, PATCH, yn cael hwb fel rhan o'r buddsoddiad gwerth bron i £15m mewn ffyrdd ar draws y ddinas yn y flwyddyn i ddod.

road resurfacing

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo rhaglen o waith er mwyn atgyweirio ffyrdd, uwchraddio llwybrau troed a gwella goleuadau stryd ar draws pob cymuned yn y ddinas.

Bydd y pecyn o fesurau, gan gynnwys bron i £6m yn y 12 mis nesaf gyda symiau tebyg i ddilyn yn y ddwy flynedd sy'n dilyn yn gweld ffyrdd yn cael eu hatgyweirio a gwaith i atal ffyrdd mewn cyflwr da rhag dirywio.

Eleni bydd tua £700,000 yn cael ei fuddsoddi yn y cynllun PATCH, gydag £1.1m pellach yn cael ei wario ar ailwynebu ffyrdd cerbydau yn ogystal ag adnewyddu ac atgyweirio llwybrau troed. Rhoddir £250,000 er mwyn atgyweirio goleuadau stryd a £400,000 ar gyfer draenio ac atal llifogydd yn ystod glaw trwm.

Yn ogystal â hynny bydd tua £2m wedi'i neilltuo ar gyfer prosiectau ailwynebu priffyrdd a llwybrau troed ac £800,000 i atgyweirio Cwlfert y Morfa.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y gronfa briffyrdd yn fuddsoddiad sylweddol er mwyn gwella ffyrdd a llwybrau troed yng nghymunedau'r ddinas.

Meddai,"Mae ein rhaglen atgyweirio ffyrdd PATCH wedi bod ar waith ers rhai blynyddoedd ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth fynd i'r afael ag atgyweiriadau sy'n fwy na thwll yn y ffordd.

"Dylai pawb yn y ddinas weld budd i'r ardal lle maent yn byw am ein bod yn cynllunio'r gwaith fel bod ein timau cynnal a chadw priffyrdd yn ymweld â phob ward ac yn targedu rhannau gwaethaf y ffyrdd a nodwyd yn ystod ein harchwiliadau rheolaidd."