Toglo gwelededd dewislen symudol

Dros £6.5m wedi'i neilltuo ar gyfer gwelliannau ffyrdd a thrwsio tyllau yn y ffordd

Mae'r cynllun ailwynebu bach hynod boblogaidd yn disgwyl hwb fel rhan o fuddsoddiad gwerth dros £6.5m mewn priffyrdd, trwsio tyllau yn y ffordd a ffyrdd ar draws y ddinas yn y flwyddyn sydd i ddod.

Highways staff fixing a pothole

Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe gymeradwyo rhaglen o waith yr wythnos nesaf er mwyn atgyweirio ffyrdd, gwella systemau draenio, uwchraddio llwybrau troed a gwella goleuadau stryd ar draws pob cymuned yn y ddinas.

Eleni bydd tua £1.2m yn cael ei fuddsoddi yn y cynllun ail-wynebu bach (CAB), gyda £3.6m pellach yn cael ei wario ar ail-wynebu ffyrdd cerbydau yn ogystal ag adnewyddu ac atgyweirio llwybrau troed. Rhoddir £450,000 er mwyn atgyweirio goleuadau stryd a £700,000 ar gyfer systemau draenio ac atal llifogydd yn ystod glaw trwm.

Dywedodd Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, fod y gronfa briffyrdd yn fuddsoddiad sylweddol er mwyn gwella ffyrdd a llwybrau troed yng nghymunedau'r ddinas.

Meddai, "Ers mis Ebrill y llynedd rydym wedi llenwi dros 6,500 o dyllau yn y ffordd - yr oedd 95% ohonynt wedi'u llenwi o fewn 48 awr o aelodau'r cyhoedd yn adrodd amdanynt. Cânt eu hatgyweirio gan ddefnyddio deunydd atgyweirio pob tywydd a ddyluniwyd i'w ddefnyddio ar gyfer atgyweiriadau parhaol cyflym.

"Mae 2,000 o atgyweiriadau diogelwch pellach wedi cael eu gwneud gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.  Yr adeg hon o'r flwyddyn mae ein timau bob amser yn brysur oherwydd effaith tywydd rhewllyd a gwlyb y gaeaf, a phwysau'r traffig yn creu craciau ar arwynebau'r ffordd.

"Hefyd, ni yw'r unig gyngor yng Nghymru sydd wedi gwneud yr addewid trwsio o fewn 48 awr, sy'n golygu bod ein timau atgyweirio'n brysurach na'r rhan fwyaf o dimau eraill."

Meddai'r Cynghorydd Stevens, "Eleni mae cynghorau eraill wedi cymryd camau gweithredu llym ac wedi lleihau buddsoddiad yn eu ffyrdd er mwyn cael deupen llinyn ynghyd. Rydym wedi penderfynu peidio â dilyn eu hesiampl nhw yn y flwyddyn i ddod ac, mewn gwirionedd, rydym wedi dod o hyd i ffordd o gynyddu'r gyllideb."