Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymunwch â ni ar gyfer gorymdaith Bataliwn 1af y Cymry Brenhinol yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn.

Bydd milwyr o Fataliwn 1af y Cymry Brenhinol yn arfer eu hawl i orymdeithio drwy ganol y ddinas ddydd Sadwrn.

royal welsh regt stock pic

Dyfarnwyd Rhyddfraint i'r Cymry Brenhinol, catrawd hynaf Cymru, a byddant yn gorymdeithio yn eu lifrau ffurfiol ddiwrnodau'n unig ar ôl i'w Fawrhydi'r Brenin gytuno i ddod yn Brif Gyrnol y gatrawd.

Yn dilyn archwiliad yn Rotwnda Neuadd y Ddinas, bydd y gatrawd yn gorymdeithio drwy'r ddinas i'r LC ar hyd St Helen's Road, Stryd Rhydychen, Sgwâr y Santes Fair a Princess Way. Bydd rhaglen dreigl o gau ffyrdd ar waith yn yr ardal rhwng 10am ac 1pm. Bydd Francis Street, rhan ogleddol Guildhall Road a Rotwnda Neuadd y Ddinas ar gau o 6am i 1.30pm.

Close Dewis iaith