Toglo gwelededd dewislen symudol

Sachau gwastraff masnachol

Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio sachau sbwriel, neu bydd gofyn i chi eu defnyddio, i gadw eich gwastraff masnachol yn hytrach na biniau ag olwynion.

Sachaugwastraff masnachol gwyn

Darperir sachau masnachol gwyn i fusnesau mewn ardaloedd fel canol y ddinas lle nad oes modd i fusnesau gael biniau. 

Gellir defnyddio'r gwasanaeth hwn os:

  • dim ond symiau bach o wastraff a gynhyrchir gennych, hyd at 4 sach yr wythnos, a does dim angen bin arnoch.
  • nad oes gennych le i gadw biniau ar y safle.

Os nad oes lle am fin ar y safle, rhoddir contractau a chodir tâl am yr hyn y mae'r bin yn gallu'i ddal. 

Er enghraifft, mae bin 1100 litr yn dal 15 o sachau 70 litr felly codir tâl ar y cwsmer am fin 1100 litr a rhoddir 15 sach iddo yr wythnos. Ar yr anfoneb, cofnodir bod bin 1100 litr yn cael ei wacáu unwaith yr wythnos. Mae hon yn ffordd ratach o godi tâl na'r gost fesul sach.

Ni chaniateir i fusnesau roi sachau du allan, mae'n rhaid iddynt ddefnyddio'r sachau a ddarparwyd sydd ar gael o'r swyddfa gwastraff masnachol ar gontract yn unig. Y contract lleiaf yw 1 sach yr wythnos.

Caiff sachau gwyn eu dosbarthu bob 6 mis fel arfer, ym mis Mawrth ar gyfer cyfnod anfoneb Ebrill-Medi, ac ym mis Medi ar gyfer cyfnod anfoneb Hydref -Mawrth.
Mae pob rholyn yn cynnwys 10 sach, a chodir tâl arnoch o flaen llaw drwy anfoneb. Os ydych yn defnyddio'r sachau hyn cyn diwedd y cyfnod, rhaid i chi gysylltu â'r swyddfa i gynyddu'ch contract. 

Os dewch chi i ddiwedd y cyfnod Mawrth-Medi ac mae gennych sachau dros ben, gellir defnyddio'r sachau hyn, a byddwn yn parhau i'w casglu y tu hwnt i gyfnod yr anfoneb. Ni chaiff anfonebau pellach eu hanfon ac ni fyddwn yn dosbarthu sachau nes i chi ddefnyddio'r rheini sydd gennych. Rhowch wybod i ni cyn i ni ddosbarthu'r sachau os nad oes angen rhai arnoch chi ac i leihau'ch contract. 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ionawr 2022