Toglo gwelededd dewislen symudol

Maes Llafur Cytunedig Abertawe ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg 2022

'Children must be taught how to think, not what to think' (Margaret Mead 1928, 1961).

1.    Rhagair - Cyfarwyddwr Addysg
2.    Rhagair gan CYSCGM Abertawe
3.    CGM o fewn y Cwriwcwlwm i Gymru
4.    Gofynion cyfreithiol
5.    Canllawiau CGM Llywodraeth Cymru
6.    Cyfrifiad 2011
7.    Cyd-awduro'r Maes Llafur cytunedig
8.    Nodau CGM
9.    Canllawiau awgrymedig ar ddyrannu amser
10.  Amcanion y Maes Llafur Cytunedig
11.  Addysgu a dysgu yn CGM
12.  Cynhwysiant
13.  Siarter y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
14.  Cymru Wrth-hiliol
15.  Cynefin
16.  Datblygiad Ysbrydol
17.  CGM rhwng 3 ac 16 oed
       Argymhellion ar gyfer syniadau a gwybodaeth allweddol
18.  GCM rhwng 14 ac 16 oed
19.  CGM rhwng 16 a 19 oed
20.  Cynnydd ac asesu
       Rhestr Termau
       Enghrefftiau o unedau CGM i gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru
       Cydnabyddiaeth

 

1. Rhagair - Cyfarwyddwr Addysg

Mae'n bleser gennyf gyflwyno maes llafur cytunedig newydd Abertawe ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru yn ogystal ag arweiniad CGM Llywodraeth Cymru.

Lluniwyd y maes llafur hwn ar y cyd â rhanddeiliaid ar draws Abertawe, gan gynnwys athrawon a disgyblion yn ogystal â chynrychiolwyr o gymunedau crefyddol ac anghrefyddol.

Bydd maes llafur CGM cytunedig Abertawe, ar y cyd ag arweiniad LlC ar gyfer CGM yn cefnogi ysgolion ac athrawon wrth iddynt ddefnyddio eu hymreolaeth a'u cyfrifolaeth i ddatblygu eu cwricwlwm CGM pwrpasol eu hunain sy'n addas ar gyfer eu dysgwyr a'u lleoliad. Ni fwriedir iddo gael ei ddefnyddio fel cwricwlwm neu fel cynllun dysgu ond fe'i dyluniwyd i ddarparu rhagor o arweiniad wrth ddatblygu CGM gwrthrychol, plwraliaethol a beirniadol.

Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn elfen orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer disgyblion 3- 16 oed. Rwy'n gobeithio y bydd y maes llafur hwn yn cefnogi pob ysgol wrth iddi geisio dylunio ei chwricwlwm CGM, o fewn Maes Dysgu Dyniaethau y Cwricwlwm i Gymru. Gan ddefnyddio pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru fel yr ysgogwr ar gyfer adeiladu maes llafur cytunedig Abertawe, rwy'n rhagweld y bydd y maes llafur cytunedig hwn yn helpu i ddatblygu disgyblion sy'n gyfarwydd â chrefydd sydd â gwybodaeth ddofn a dilys am grefydd a bydolygon, sydd â chyfleoedd i gymryd rhan yn y cwestiynau mawr ac sy'n gallu myfyrio ar eu gwerthoedd nhw, a gwerthoedd pobl eraill hefyd, a'u trafod. Dyluniwyd y maes llafur hwn i alluogi ein dysgwyr yn Abertawe i fod yn fwy moesol wybodus ac i allu bod yn aelodau gweithredol sy'n cyfrannu ac yn cymryd rhan yn ein byd amrywiol, aml-grefyddol ac aml-seciwlar.

Helen Morgan-Rees
Cyfarwyddwr Addysg

 

2. Rhagair gan CYSCGM Abertawe

Annwyl holl ysgolion Abertawe,

Mae cael maes llafur cytunedig yn hanfodol wrth sicrhau bod CGM yn cael y parch a'r statws y mae'n ei haeddu mewn ysgolion gwladol. Bydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer CGM yn dod yn rhan hanfodol o'r cynllunio ym Maes Dysgu'r Dyniaethau ac ni fydd yn 'rhywbeth ychwanegol'. Bydd y maes llafur cytunedig hwn yn cefnogi cydweithwyr wrth iddynt gynllunio CGM fel pwnc ac fel rhan o Faes Dysgu'r Dyniaethau (MD). At hynny, mae'n sicrhau bod parhad pendant rhwng ysgolion Ffydd a Gwladol yn eu darpariaeth o CGM plwraliaethol, gwrthrychol a beirniadol.

Er nad yw'n statudol, mae'r maes llafur cytunedig yn darparu llwyfan diogel i ymarferwyr weithio ohono wrth godi proffil CGM yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru, gan roi ystyriaeth ofalus i sut mae hyn yn bodloni'r Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig' a'r Pedwar Diben Craidd Addysg.

Rydym yn dymuno'r gorau i chi wrth i chi gynllunio eich cwricwlwm CGM ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i'ch cefnogi ar eich taith CGM gyda'ch dysgwyr.

 

3. CGM o fewn y Cwriwcwlwm i Gymru

(Canllawiau CGM Llywodraeth Cymru) Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn un o ofynion statudol Cwricwlwm i Gymru ac yn fandadol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Mae CGM yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad (MDPh) y Dyniaethau. Mae'r Maes hwn yn cwmpasu Astudiaethau Busnes, Daearyddiaeth, Hanes, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac Astudiaethau Cymdeithasol. Mae'r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o'r un themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy, ac yn cynnwys eu gwybodaeth a'u sgiliau gwahanol eu hunain hefyd.

Gall CGM o fewn y Cwricwlwm i Gymru wneud cyfraniad unigryw tuag at gyflawni'r (https://hwb.gov.wales/curriculum-for-wales/designing-your-curriculum/developing-a-vision-for-curriculum-design/#curriculum-design-and-the-four-purposes) i bob dysgwr. Fel y cyfryw, mae'r maes llafur hwn yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddatblygu darpariaeth ar gyfer CGM sy'n paratoi dysgwyr yng Nghymru ar gyfer bywyd a gwaith, fel dinasyddion cyfrifol a gwybodus, mewn byd amrywiol sy'n newid yn gyflym.

Lleolir canllawiau CGM o fewn Maes y Dyniaethau ac maent yn ymgorffori amrywiaeth o ddulliau disgyblaethol y gall ddysgwyr eu defnyddio i ymgysylltu'n feirniadol ag amrywiaeth eang o gysyniadau crefyddol ac anghrefyddol. Er enghraifft, gallai ddulliau disgyblaethol sy'n berthnasol i CGM gynnwys astudiaethau crefyddol, athroniaeth, diwinyddiaeth, cymdeithaseg, seicoleg ac anthropoleg. Hefyd ceir cydberthnasau cadarn rhwng CGM a'r disgyblaethau eraill ym Maes y Dyniaethau, a gyda Meysydd eraill yn ogystal.

Mae cysyniadau yn bwysig mewn CGM am eu bod yn syniadau canolog sy'n helpu dysgwyr i ddeall a dehongli profiadau dynol, y byd naturiol a'u lle eu hunain ynddo. Caiff dysgwyr gyfleoedd i archwilio cysyniadau CGM drwy amrywiaeth o is-lensys sy'n cyfuno i ffurfio lens ddisgyblaethol CGM. Mae'r cysyniadau a'r is-lensys hyn wedi'u nodi yn y canllawiau CGM hyn.

O fewn y Cwricwlwm i Gymru, mae CGM yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol, o ran cynnwys ac addysgeg; nid oes a wnelo'r pwnc â gwneud dysgwyr yn 'grefyddol' neu'n 'anghrefyddol'. Daw'r ymadrodd 'gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol' o gyfraith achosion y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn sicrhau ei bod yn rhaid i bob dysgwr gael cynnig cyfleoedd drwy CGM i ymwneud â gwahanol grefyddau ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn eu hardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach.

 

4. Gofynion cyfreithiol

(Canllawiau CGM Llywodraeth Cymru)

Ceir crynodeb o'r ddeddfwriaeth yma: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/crynodeb-o-r-ddeddfwriaeth/#religion,-values-and-ethics.

Datblygwyd Maes Llafur Cytunedig Abertawe yn unol â'r ddeddfwriaeth o'r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ynghyd â'r Ddeddf Addysg 1996.

Mae Maes Llafur Cytunedig Abertawe ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn adlewyrchu credoau crefyddol yn ogystal â chredoau anghrefyddol sy'n argyhoeddiadau athronyddol yn unol ag ystyr Erthygl 2 Protocol 1 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (E2P1). Mae'r rhain yn cynnwys credoau megis dyneiddiaeth, anffyddiaeth a seciwlariaeth. Dim ond enghreifftiau o'r math o gredoau sydd o fewn cwmpas CGM yw'r rhain, yn hytrach na rhestr hollgynhwysfawr. Mae'r newidiadau hyn yn nodi'n glir beth sydd eisoes yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn perthynas ag addysg CGM blwraliaethol.

Ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol heb gymeriad crefyddol

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu, sy'n cwmpasu CGM, fod wedi cael ei chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig. (Y "maes llafur cytunedig" yng nghyd-destun yr Atodlen yw'r Maes Llafur CGM a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 375A y Ddeddf 1996 sydd i'w ddefnyddio mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod). Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth CGM hon fod ar gael i bob dysgwr.

Ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol

I'r ysgolion hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu, sy'n cwmpasu CGM, fod wedi cael ei chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig.

Fodd bynnag, yn achos yr ysgolion hyn, ceir gofyniad ychwanegol a fydd ond yn berthnasol os nad yw'r ddarpariaeth a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig yn cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol.

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol

I'r ysgolion hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu, mewn perthynas â CGM, sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol.

Eto, ceir gofyniad ychwanegol. Ar gyfer ysgolion o'r math hyn, mae'r gofyniad ychwanegol ond yn berthnasol os nad yw'r ddarpariaeth a gynlluniwyd (hynny yw, sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth neu ddaliadau crefydd neu enwad crefyddol yr ysgol) yn cyd-fynd â'r maes llafur cytunedig. Yn yr achos hwn, rhaid i gwricwlwm yr ysgol gynnwys hefyd darpariaeth ar gyfer CGM sydd wedi'i chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig

CGM Ôl-16

O 2027 ymlaen, ni fydd CGM ôl-16 yn fandadol mwyach mewn ysgolion, yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf. Yn unol ag adran 61 y Ddeddf, bydd pob dysgwr dros 16 oed bellach yn gallu optio i mewn i CGM, lle'r oedd gofyniad o'r blaen i bob dysgwr yn y chweched dosbarth astudio addysg grefyddol. Os bydd dysgwr yn dewis optio i mewn i CGM, yna rhaid i'r ysgol neu'r coleg ddarparu CGM sy'n wrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol. Mae'r dull hwn o weithredu yn gyson â'r egwyddor y dylai dysgwyr sy'n ddigon aeddfed allu gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'u dysgu eu hunain.

Pan fo dysgwr yn gofyn am CGM yn unol ag adran 61 y Ddeddf, rhaid cynllunio'r CGM fel ei fod yn:

  • adlewyrchu'r ffaith bod y traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn rhai Cristnogol ar y cyfan tra'n ystyried dysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
  • adlewyrchu hefyd y ffaith bod ystod o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol eraill i'w cael yng Nghymru.

Nid yw Adran 61 y Ddeddf yn atal ysgol rhag gosod gofyniad i bob dysgwr yn ei chweched dosbarth gymryd dosbarthiadau CGM gorfodol; ac nid yw ychwaith yn atal ysgol sy'n mabwysiadu'r drefn hon rhag darparu CGM gorfodol i'r chweched dosbarth sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol ("CGM enwadol"). Mae cynnwys CGM enwadol o'r fath yn parhau i fod yn fater i'r ysgol gyda'r cwricwlwm wedi'i gynllunio'n unol â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd.

Mae'r maes llafur hwn yn cyfeirio at CGM ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed. Os bydd dysgwyr ôl-16 yn gofyn am ddarpariaeth CGM ac mae angen cymorth, cysylltwch â CYSCGM Abertawe (education@abertawe.gov.uk) a gallant gynghori, os oes angen.

Yr hawl i dynnu'n ôl yn y Cwricwlwm i Gymru

O fis Medi 2022, ni fydd hawl gan rieni i dynnu'n ôl mewn perthynas â phob dysgwr hyd at a chan gynnwys blwyddyn 6, gan fydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei weithredu gan bob ysgol a lleoliad cynradd o'r dyddiad hwn. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i ddysgwyr ym mlwyddyn 7 y mae eu hysgolion wedi mabwysiadu'r Cwricwlwm i Gymru. Yna caiff ei weithredu wrth i'r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno i grwpiau blwyddyn dilynol

Cysylltwch â CYSCGM Abertawe (education@swansea.gov.uk) am eglurhad neu gymorth os oes angen.

 

5. Canllawiau CGM Llywodraeth Cymru

(Canllawiau CGM Llywodraeth Cymru)

Mae'r canllawiau i'w gweld yma: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/y-dyniaethau/cynllunio-eich-cwricwlwm/#religion,-values-and-ethics-guidance. Mae'r maes llafur hwn i'w ddarllen ar y cyd â'r canllawiau CGM ac i'w ddefnyddio ochr yn ochr â'r rheini.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar CGM sydd wedi'u cynnwys o fewn y Maes Dyniaethau yn statudol ac wedi'u cyhoeddi o dan adran 71 Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf) ac fe'u cynlluniwyd i gynorthwyo'r rhai sy'n gyfrifol o dan y Ddeddf am gynllunio'r maes llafur CGM fel rhan o gwricwlwm yr ysgol.

 

6. Cyfrifiad 2011

Sylwer: Caiff hyn ei ddiweddaru pan fydd data 2021 data ar gael.

Mae gan Abertawe boblogaeth amrywiol. Yng Nghyfrifiad 2011, nododd 55% o'r ymatebwyr eu bod yn Gristion, 2.27% Moslem, 0.4% Bwdaidd, 0.3% Hindŵ, 0.1% Sîc a 0.07% Iddewig. O'r boblogaeth sy'n weddill, nododd 34% nad oedd ganddynt unrhyw grefydd, 0.43% crefydd arall ac nid oedd 7.46% wedi ymateb. Mae dros 140 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yn ysgolion Abertawe. Felly, mae ysgolion Abertawe'n amrywiol iawn, ac mae'n bwysig bod ysgolion yn gwerthfawrogi'r amrywiaeth a'r gwahaniaethau hyn yn y broses o ddylunio cwricwlwm CGM.

Cyfrifiad
CrefyddLloegr a Chymru %Cymru %Sir Benfro %
Bwdhaidd0.40.30.4
Cristnogol59.357.655.0
Hindŵaidd1.40.30.3
Iddewig0.50.10.07
Mwslimaidd4.81.52.27
Dim Crefydd25.132.134.0
Sikhaidd0.80.10.1
Unrhyw grefydd arall0.40.40.43
Ni atebwyd7.27.67.46

 

7. Cyd-awduro'r Maes Llafur cytunedig

Yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn: https://www.unicef.org.uk/what-we-do/un-convention-child-rights/ defnyddiwyd llais disgyblion i gefnogi datblygiad, a helpu llunio, Maes Llafur Cytunedig Abertawe ar gyfer CGM. Mae CYSAG Abertawe hefyd wedi archwilio anghenion ysgolion ac ymarferwyr CGM ac wedi cynnig cyfleoedd i gynrychiolwyr ffydd CYSAG rannu eu barn am yr hyn 'nad yw'n agored i drafodaeth' a'u gwybodaeth graidd am eu ffydd. Felly mae hwn yn Faes Llafur ar gyfer CGM sydd yn wirioneddol wedi'i gyd-awduro a'i gytuno'n lleol.

 

8. Nodau CGM

CGM a'r pedwar diben

Wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru y mae'r pedwar diben: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cynllunio-eich-cwricwlwm/datblygu-gweledigaeth-ar-gyfer-cynllunio-cwricwlwm/#curriculum-design-and-the-four-purposes sy'n allweddol i lywio'r broses o gynllunio'r cwricwlwm ac, fel y cyfryw, dylid canolbwyntio arnynt ym mhob agwedd ar ddatblygu'r cwricwlwm. Mae'r pedwar diben yn nodi'r dyheadau ar gyfer pob dysgwr.

Erbyn iddynt gyrraedd 16 oed, dylent fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • gyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
  • unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Ym Maes y Dyniaethau, mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn cyfrannu at gyflawni pedwar diben y cwricwlwm. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  1. Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
  2. Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
  3. Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi'i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
  4. Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw'n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
  5. Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Bydd CGM rhagorol yn cefnogi llythrennedd crefyddol disgyblion. Mae diffinio llythrennedd crefyddol yn gymhleth ac yn ddadleuol. At ddibenion y maes llafur, rydym yn canolbwyntio ar lythrennedd crefyddol fel sy'n caniatáu i ddisgyblion fynediad i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o argyhoeddiadau/safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol athronyddol Abertawe, Cymru a'r byd: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/crynodeb-o-r-ddeddfwriaeth/#religion,-values-and-ethics . Trwy gynllunio effeithiol, dylunio ac addysgu cwricwlwm o ansawdd uchel, bydd disgyblion nid yn unig yn cael y cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth am grefydd ac argyhoeddiadau/ safbwyntiau athronyddol anghrefyddol, ond hefyd yn dysgu sut i gynnal sgyrsiau a barn cytbwys a gwybodus. Bydd disgyblion sy'n grefyddol lythrennog yn cael eu galluogi i gymryd eu lle yn hyderus o fewn ein cymdeithas aml-grefyddol ac aml-seciwlar amrywiol, byddant yn gallu meddwl yn annibynnol, bod yn adfyfyriol a gallu gwerthuso mewn modd teg a beirniadol. Byddant yn ddinasyddion gwybodus a moesegol sydd â'r gallu i gymryd rhan weithredol a chyfrannu fel aelodau o'u cymunedau boed yn lleol, yn genedlaethol neu'n fyd-eang.

 

9. Canllawiau awgrymedig ar ddyrannu amser

Mae gan ysgolion gyfrifolaeth dros gynllunio eu cwricwlwm. Mae'n benderfyniad i bob ysgol ei wneud ynghylch sut y caiff CGM ei gyflwyno. Mae'r opsiynau'n cynnwys:

a)  CGM wedi'i ymgorffori'n llawn ym Maes Dysgu'r Dyniaethau.
b)  CGM a gyflwynir drwy themâu trawsgwricwlaidd neu ryngddisgyblaethol;
c)  Archwilio synergedd CGM â phynciau eraill o fewn y cwricwlwm tra'n cynnal presenoldeb ar wahân fel pwnc penodol hefyd.

Pa ddull bynnag a ddefnyddir gan ysgolion unigol, dylai'r cwricwlwm ar gyfer CGM gael ei brofi drwy ddull o'i weithredu sy'n wrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol a dylai sicrhau bod CGM yn cael cydraddoldeb â'r pynciau eraill ym maes y Dyniaethau.

CGM
GwrthrycholBeirniadolPlwraliaethol
Dylai CGM archwilio realiti ffeithiau sy'n ymwneud â chrefydd a chredoau yn Abertawe, Cymru a'r byd heddiw. Ni ddylid cael ei ddylanwadu gan deimladau na chredoau personol neu sefydliadol.Dylai CGM annog dysgwyr i feddwl yn ddwys a llunio barn fedrus yn y ffordd y maent yn archwilio gwirionedd.Dylai CGM helpu dysgwyr i archwilio a gwerthfawrogi ystod amrywiol o syniadau, credoau, arferion a thraddodiadu.

 

10. Amcanion y Maes Llafur Cytunedig

Nid yw'r Maes Llafur Cytunedig wedi'i gynllunio i fod yn gynllun gwaith, ond yn hytrach i fod yn ganllaw defnyddiol a phwynt cyfeirio cyfreithiol ar gyfer ysgolion i'w cefnogi i gynllunio cwricwlwm priodol a pherthnasol i'w dysgwyr, sy'n cynnwys CGM o fewn Maes y Dyniaethau. Bwriedir i'r maes llafur hwn gael ei ddefnyddio ar y cyd â'r canllawiau CGM. Mae dull gweithredu Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn seiliedig ar egwyddor cyfrifolaeth ac, fel y cyfryw, mae'r Maes Llafur Cytunedig yn cydnabod ac yn adlewyrchu ymreolaeth pob ysgol a lleoliad wrth iddynt wireddu eu cwricwlwm eu hunain.

Mae'r Maes Llafur Cytunedig wedi'i ysgrifennu i rymuso a chefnogi athrawon ac ysgolion i wneud darpariaeth ar gyfer pob disgybl nid yn unig i fodloni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, ond hefyd i baratoi dysgwyr ar gyfer bywyd yn ein byd aml-grefyddol ac aml-seciwlar. Mae'r Maes Llafur Cytunedig yn cydnabod er y dylai'r prif grefyddau a'u traddodiadau yn Abertawe a Chymru gael eu haddysgu ym mhob ysgol, mae credoau eraill (gan gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol megis dyneiddiaeth ac anffyddiaeth) bellach yn rhan gydnabyddedig o fywyd o fewn ardaloedd lleol yng Nghymru a thu hwnt. Adlewyrchir hyn yn y Ddeddf sy'n datgan bod rhaid i'r Maes Llafur Cytunedig:

  • Adlewyrchu'r ffaith mai traddodiadau Cristnogol yw'r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf, gan ystyried ar yr un pryd ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru.
  • Hefyd adlewyrchu'r ffaith bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.

Mae'r rhai sy'n gyfrifol am gynllunio'r cwricwlwm ar gyfer CGM yn gyfrifol am sicrhau bod y CGM a ddarperir yn eu lleoliad yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon. Gall CYSCGM Abertawe gynghori os oes angen.

 

11. Addysgu a dysgu yn CGM

Wrth ddatblygu'r cwricwlwm CGM a chyfleoedd addysgu a dysgu i ddysgwyr o fewn CGM, dylid ystyried:

  1. Atal dysgwyr rhag datblygu camsyniadau am grefydd ac argyhoeddiadau/safbwyntiau athronyddol anghrefyddol. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm fod yn seiliedig ar astudiaeth academaidd ac ysgolheictod.
  2. Datblygu cwricwlwm sy'n caniatáu i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth yn ddigon manwl ac sy'n osgoi ymdriniaeth arwynebol o'r cynnwys a ddewisir.
  3. Creu cwricwlwm sydd wedi'i strwythuro a'i drefnu mewn modd a fydd yn cefnogi dysgwyr yn eu datblygiad drwy'r camau dilyniant.

 

12. Cynhwysiant

(Canllawiau CGM Llywodraeth Cymru)Dylai pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gael cymorth i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a gwireddu ei botensial llawn mewn CGM. Dylai ysgolion a lleoliadau sy'n cynnig addysg i ddysgwyr ag ADY, gan gynnwys y rhai ag anawsterau dwys a lluosog, ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion pob dysgwr wrth gynllunio a chynnig cyfleoedd dysgu effeithiol mewn CGM.

Gallai'r ystyriaethau hyn gynnwys, er enghraifft:

  • dulliau gweithredol ac amlsynnwyr o gyflwyno pethau newydd i'w dysgu mewn CGM, gan ystyried gwahanol ddulliau dysgu ac anghenion emosiynol pob dysgwr.
  • cyfleoedd cynhwysol i ddysgwyr brofi rhyfeddod mewn amrywiaeth o amgylcheddau.
  • defnyddio amrywiaeth o ysgogiadau, megis arteffactau crefyddol ac anghrefyddol a chyddestunau.
  • pob dysgwr yn cymryd rhan yn llawn, gan gynnwys y rhai sy'n cyfathrebu drwy ddulliau heblaw siarad.
  • gweithgareddau sy'n cynnwys pob dysgwr o fewn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi, er enghraifft, wrth ymweld â mannau addoli lleol a lleoedd arbennig ac arwyddocaol eraill.

Wrth weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, dylai ymarferwyr a gofalwyr fod yn ymwybodol o ddull gweithredu'r ysgol neu'r lleoliad mewn perthynas â CGM o fewn Maes y Dyniaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am ADY, gweler canllawiau Ar Drywydd Dysgu a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/ar-drywydd-dysgu

Addysg mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Dylai darpariaeth addysg CGM mewn lleoliad meithrin a ariennir nas cynhelir gael ei hystyried fel rhan o ddull cyfannol cyffredinol mewn perthynas â dysgu a datblygu. Mae adran 'Cynllunio eich cwricwlwm ar gyfer CGM' y canllawiau hyn yn cynnig rhagor o wybodaeth am CGM i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed, er mwyn helpu ymarferwyr yn y lleoliadau hyn gyda'r dull cyfannol hwn.

Mae chwilfrydedd dysgwyr ifanc yn ddi-ben-draw; maen nhw'n mwynhau archwilio ac ymchwilio ar eu pen eu hunain ac ar y cyd ag eraill, ac maen nhw'n naturiol yn gofyn cwestiynau am fywyd a'r byd o'u cwmpas. Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol ac integredig sy'n ennyn eu diddordeb o fewn y cyfnod dysgu hwn, gall dysgwyr ddechrau dysgu mwy amdanyn nhw eu hunain, am bobl eraill ac am y byd ehangach.

Dylai addysgeg effeithiol sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy'n ymatebol, yn ddeinamig ac wedi'i gwreiddio mewn cydberthnasau cryf, fod wrth wraidd y broses o ddatblygu darpariaeth CGM mewn lleoliad. Drwy chwarae, gall dysgwyr ddatblygu eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gyda dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd. Gall hyn helpu i lywio'r ffordd y maen nhw'n gweld y byd. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol dysgwyr, yn ogystal â'u lles. Mae bod yn yr awyr agored hefyd yn eu helpu i ddod yn ymwybodol o'r angen i ddangos gofal a pharch tuag at bethau byw.

Yn ystod y cyfnod dysgu hwn, mae dysgwyr yn dechrau deall y cysyniad o 'wahaniaeth'. Dylai ymarferwyr eu hannog i rannu eu gwybodaeth am eu credoau, eu treftadaeth a'u traddodiadau eu hunain, yn ogystal â rhai pobl eraill, ynghyd â'u profiadau ohonyn nhw (er enghraifft, drwy ganeuon, straeon a chwarae rôl). Gall hyn helpu dysgwyr ifanc i ddeall mwy amdanyn nhw eu hunain, ac am brofiadau a safbwyntiau a all fod yn wahanol i'w rhai eu hunain.

Gall amgylchedd meithrin, cefnogol helpu dysgwyr i ddechrau meithrin cydberthnasau llawn parch ac ymdeimlad o gyfrifoldeb. Mewn amgylchedd o'r fath gall dysgwyr ddysgu am yr hyn sy'n wahanol ac yn debyg rhwng ei gilydd. Gallan nhw ddechrau archwilio iaith hawliau a dechrau deall eu hawl i gredu pethau gwahanol a dilyn credoau gwahanol. Drwy hyn, gall dysgwyr ddechrau sylweddoli a deall sut y gall eu gweithredoedd effeithio ar eraill, a dysgu sut i fyfyrio ar eu safbwyntiau eu hunain a'u hailystyried, fel y bo'n briodol, a hynny o oedran cynnar.

Ar gyfer pob dysgwr ym mhob lleoliad, rhaid i gynllun y cwricwlwm CGM sicrhau bod CGM yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol.

Addysg heblaw yn yr ysgol

Mae gan bob dysgwr hawl i gael addysg. Wrth ystyried y ffyrdd gorau o ddiwallu anghenion eu dysgwyr, mae'n ofynnol i ddarparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, ystyried elfennau mandadol y cwricwlwm, sy'n cynnwys CGM, a sicrhau darpariaeth ar eu cyfer i'r graddau a fyddai'n rhesymol bosibl ac yn briodol i'r dysgwr unigol.

Dylai profiadau dysgwyr eu galluogi i archwilio cysyniadau CGM drwy'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ym Maes y Dyniaethau, gan ddefnyddio is-lensys amrywiol o fewn CGM sydd wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn. Nid yw'n ofynnol i leoliadau o'r fath ddilyn y maes llafur cytunedig. Fodd bynnag, rhaid i'r addysg CGM a ddarperir yn y lleoliadau hyn fodloni'r gofyniad plwraliaethol o hyd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y gofynion deddfwriaethol i unedau cyfeirio disgyblion a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol yn yr adran ar ddeddfwriaeth yn Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/crynodeb-o-r-ddeddfwriaeth/

13. Siarter y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn cynnwys 'dyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn a phobl ag anableddau'. Mae'n hanfodol, pan fydd ysgolion yn datblygu eu cwricwlwm CGM, eu bod nid yn unig yn cynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am hawliau dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD), ond hefyd bod dysgwyr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cynllunio'r cwricwlwm. Mae'r themâu trawsgwricwlaidd ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm, sydd i'w gweld yma: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cynllunio-eich-cwricwlwm/themau-trawsgwricwlaidd-ar-gyfer-cynllunio-eich-cwricwlwm/#human-rights yn categoreiddio tair elfen o addysg hawliau dynol, y dylid ymgorffori pob un o addysg hawliau dynol, y dylid ymgorffori pob un ohonynt yn y cwricwlwm CGM:

  1. Dysgu am hawliau dynol, sy'n ymgorffori dealltwriaeth o hawliau dynol a ffynonellau'r hawliau hynny, gan gynnwys CCUHP a UNCRPD.
  2. Dysgu drwy hawliau dynol - sy'n ymwneud â datblygu gwerthoedd, agweddau ac ymddygiadau sy'n adlewyrchu gwerthoedd hawliau dynol.
  3. Dysgu ar gyfer hawliau dynol - sy'n ymwneud â chymell gweithredu cymdeithasol a grymuso dinasyddiaeth weithredol i hyrwyddo parch at hawliau pawb.

Mae'r maes llafur hwn wedi'i gynllunio gyda'r ystyriaethau hyn o hawliau dynol mewn golwg.

 

14. Cymru Wrth-hiliol

Dylai cynllun y cwricwlwm CGM sicrhau ei fod yn cadw at Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol er mwyn caniatáu i ddysgwyr yn Sir Benfro ymgysylltu â gwahanol brofiadau hanesyddol, hiliol, diwylliannol ac ethnig: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-06/cynllun-gweithredu-cymru-wrth-hiliol_1.pdf  Dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddysgu am straeon Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn eu gwersi CGM a dylid eu cefnogi gyda chwricwlwm sy'n dangos dealltwriaeth o wrthhiliaeth ac sy'n herio stereoteipiau a normau niweidiol.

 

15. Cynefin

Mae 'Cynefin' wedi'i nodi o fewn fframwaith Cwricwlwm Llywodraeth Cymru fel naratif a ddylai gwau drwy'r holl brofiadau dysgu a ddarperir i ddysgwyr. Nid dim ond man yn yr ystyr daearyddol mo Cynefin, ond lleoliad o bwysigrwydd diwylliannol, cymdeithasol a hanesyddol sydd wedi ffurfio ac sy'n parhau i ffurfio'r gymuned sy'n trigo yno. Ceir llawer o gyfleoedd cyfoethog i wau llinyn cynefin drwy gwricwlwm CGM/Y Dyniaethau. Byddai'r rhain yn cynnwys ogof orllewinol Twll yr Afr (un o ogofâu Pen-y-fai), Maen Ceti (Carreg Arthur) a Phen Pyrod yn Abertawe. Mae nifer o adnoddau ar gael i'ch cefnogi gyda hyn, gan gynnwys Ffordd Bererindod Gŵyr - Gower Ministry Area (https://gowerma.org/gower-pilgrimage-way/ ) a https://www.landoflegends.wales/

Bydd darparu cyfleoedd i ddysgwyr archwilio eu hardaloedd lleol yn cynnig dealltwriaeth gyfoethog a gwerthfawr o'u 'cynefin' ac yn dangos sut y mae'r mythau, chwedlau a'r safleoedd sanctaidd a diwylliannol wedi helpu i lunio eu cymuned a'i rhyngweithio â chymunedau ehangach, y genedl a'r byd. Un dull a argymhellir i ddatblygu cysyniad 'cynefin' o fewn Abertawe yw'r dull 'traed, cam, naid' a fydd yn caniatáu i ddysgwyr ddeall eu diwylliant uniongyrchol a'u cyd-destun lleol a sut y Page 13 of 38 mae'n berthnasol i'r cyd-destun ehangach. Cysylltwch â CYSCGM Abertawe am gyngor os oes angen: education@abertawe.gov.uk.

 

16. Datblygiad Ysbrydol

Bydd datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol (YMCD) yn cael ei ddatblygu drwy'r cwricwlwm cyfan a gynlluniwyd ac a fabwysiadwyd gan bob ysgol unigol. Ynghyd â phob maes arall y cwricwlwm, bydd disgwyl i CGM gyfrannu at ddatblygiad YMCD, nid yw'n ddyletswydd nac yn gyfrifoldeb penodol CGM yn unig.

Mae'r canllawiau CGM yn egluro sut y gall CGM gyfrannu at hyn yma: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/y-dyniaethau/cynllunio-eich-cwricwlwm/#religion,-values-and-ethics-guidance

 

17. CGM rhwng 3 ac 16 oed

Yr hyn sy'n bwysig yn y dyniaethau

Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig o fewn MDPh y Dyniaethau yn fandadol a rhaid eu hymgorffori nid yn unig o fewn cynllun y cwricwlwm ar gyfer CGM a'r Dyniaethau ond hefyd o fewn y cyfleoedd a'r profiadau addysg a dysgu a ddatblygir ar gyfer dysgwyr. Mae'r cod i'w weld: https://hwb.gov.wales/curriculum-for-wales/humanities/statements-of-what-matters.

  1. Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.
  2. Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
  3. Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi'i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.
  4. Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw'n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.
  5. Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Cynllunio cwricwlwm gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol

Rhaid i gynllun y cwricwlwm CGM fod yn unol â'r ddeddfwriaeth, a dylai ystyried canllawiau CGM Llywodraeth Cymru yn ogystal â'r Maes Llafur Cytunedig Abertawe hwn: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/crynodeb-o-r-ddeddfwriaeth/#religion,-values-and-ethics

Er mwyn sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu llythrennedd crefyddol ac yn tyfu i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Abertawe, Cymru a'r byd, dylai bod ganddynt fynediad at wybodaeth a sgiliau craidd fel y nodir yn y tablau cryno. Datblygwyd y rhain i sicrhau y gall ysgolion gynllunio eu cwricwla CGM i ganiatáu dysgu sbiral a chyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu mewn modd systematig eu sgema eu hunain. Bydd gan ysgolion gyfrifolaeth o ran cynnwys y wybodaeth graidd yng nghynllun eu cwricwlwm ac yn eu cynlluniau.

I gefnogi'r broses o gynllunio'r cwricwlwm, dylai ysgolion a lleoliadau ystyried y pwyntiau canlynol wrth gynllunio eu cwricwlwm ar gyfer CGM.

  • Dylai CGM rhagorol fod yn cynnwys argyhoeddiadau/safbwyntiau crefyddol ynghyd â rhai athronyddol anghrefyddol a rhaid iddynt gael eu cynrychioli mewn modd teg a chywir.
  • Mae cyd-destun lleol yn bwysig yn CGM. Mae hyn yn cynnwys cyd-destun yr ysgol a'r ardal leol yn ogystal â gwybodaeth a phrofiad disgyblion ac athrawon. Mae gan ysgolion gyfrifolaeth h.y. y rhyddid i wneud dewisiadau cwricwlwm yn unol â'u lleoliad penodol.
  • Bydd CGM rhagorol wedi'i ddilyniannu ar draws pob cyfnod ysgol er mwyn caniatáu i ddysgwyr wneud cynnydd cyson drwy gydol eu hamser yn yr ysgol.

Syniadau allweddol a argymhellir a thablau cryno gwybodaeth

Dylid defnyddio'r syniadau allweddol a argymhellir a'r tablau cryno gwybodaeth ochr yn ochr â phedwar diben y cwricwlwm a datganiadau o'r hyn sy'n bwysig y Dyniaethau i greu'r cwricwlwm CGM. Bydd y wybodaeth graidd, alluogi hon nid yn unig yn datblygu llythrennedd crefyddol yn ein dysgwyr, ond bydd hefyd yn eu cefnogi i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus o Abertawe, Cymru a'r byd.

Mae'r argymhellion ar syniadau a gwybodaeth allweddol wedi'u cadw i'r nifer lleiaf posibl er mwyn caniatáu i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm CGM eu hunain, sy'n gweddu i'w cyd-destun ac sy'n bodloni anghenion eu dysgwyr, ac yn sicrhau dealltwriaeth drylwyr o gysyniadau, dysgeidiaethau, credoau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol. Nid yw'r syniadau allweddol a argymhellir a'r tablau cryno gwybodaeth wedi'u cynllunio i'w defnyddio fel cynllun gwaith cyflawn neu rannol, dim ond fel pwynt cyfeirio i gyfeirio ato wrth gynllunio'r cwricwlwm CGM. Bydd hyn yn sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad at wybodaeth grefyddol gyfoethog a phwerus. Gall ysgolion arfer cyfrifolaeth a chreu eu syniadau a'u gwybodaeth allweddol eu hunain yn seiliedig ar eu cwricwlwm eu hunain a gynlluniwyd ar gyfer CGM. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i ysgolion sicrhau bod y wybodaeth graidd yn cael ei chyflwyno gydag o leiaf yr un trylwyredd academaidd â'r rhai a argymhellir yma.

  • Mae llythrennedd crefyddol yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu bodloni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, a chyda hyn mewn golwg, mae'r disgwyliadau canlynol felly yn rhan annatod o'r maes llafur hwn. Erbyn iddynt gyrraedd 14 oed, byddai dysgwyr wedi datblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o amrywiaeth eang o grefyddau a chredoau sy'n cwmpasu'r ffyddau Abrahamig a'r traddodiadau Dharmig yn ogystal â mathau eraill o gredoau crefyddol, yn enwedig y rhai sy'n berthnasol i gymunedau Abertawe.
  • Amrywiaeth o safbwyntiau/argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol.

Dylai'r cwricwlwm a'r dewisiadau a wneir adlewyrchu traddodiadau'r ysgol, y gymuned leol a Chymru, tra hefyd yn ystyried y byd yn ehangach yn ogystal. Gweler pwynt 1o am grynodeb deddfwriaethol.

Gan fod gan y Cwricwlwm i Gymru ddisgwyliadau sy'n gysylltiedig â chyfnodau, yn hytrach nag oedran, bydd cwricwlwm pob ysgol yn gwbl gynhwysol (yn seiliedig ar ganllawiau CGM Llywodraeth Cymru yn ogystal â'r Maes Llafur Cytunedig hwn). Rhaid i'r cwricwlwm gael ei gynllunio i sicrhau bod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu CGM cyfoethog a chadarn sy'n caniatáu pob disgybl i wneud cynnydd drwy gwricwlwm sbiral 3-16.

Disgwylir i athrawon ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd gydweithio a chyd-awduro'r hawl hon i ddilyniant mewn dysgu ar gyfer pob disgybl.

Nodir syniadau a gwybodaeth allweddol ar gyfer Cristnogaeth, pum prif grefydd Bwdhaeth, Hindŵaeth, Islam, Iddewiaeth a Sikhiaeth, un argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol (Dyneiddiaeth) ac un argyhoeddiad athronyddol (Feganiaeth Foesegol) yn ogystal â Gwerthoedd a Moeseg. Nid yw hyn yn atal unrhyw grefyddau neu argyhoeddiadau athronyddol eraill rhag cael eu hastudio.

Mae Maes Llafur Lleol Cytunedig Abertawe yn gofyn am y canlynol, yn unol â deddfwriaeth:

  • Dylid astudio Cristnogaeth ar draws yr holl gamau cynnydd.
  • Dylid astudio'r prif grefyddau eraill a gynrychiolir yn Abertawe ac yn genedlaethol (nodir yma fel Bwdhaeth, Hindŵaeth, Islam, Iddewiaeth a Sikhiaeth) ar draws y camau cynnydd.
  • Dylid astudio argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, megis dyneiddiaeth, anffyddiaeth ac amheuaeth ar draws y camau cynnydd.
  • Dylid astudio argyhoeddiadau athronyddol, megis feganiaeth moesegol a heddychiaeth ar draws y camau cynnydd.
  • Gellir hefyd astudio crefyddau a bydolygon eraill a gynrychiolir yn Abertawe ac yn genedlaethol, megis ffydd Bahaiaidd, Jainiaeth a Zoroastriaeth.

Cysylltwch â CYSCGM Abertawe am unrhyw gefnogaeth y mae ei hangen arnoch ar gyfer gwybodaeth am bwnc, adnoddau a/neu addysgeg.

Ochr yn ochr â dogfennau Cwricwlwm i Gymru, bydd y syniadau allweddol a'r tablau cryno gwybodaeth yn cynnig sylfaen i ysgolion ac ymarferwyr lunio a datblygu eu cwricwlwm CGM gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol, a'u cynlluniau dysgu.

 

Argymhellion ar gyfer syniadau a gwybodaeth allweddol

Bwriedir i'r argymhellion hyn fod yn gymorth i gynllunio cwricwlwm CGM lle mae dysgwyr yn caffael gwybodaeth a dealltwriaeth gynyddol soffistigedig am gredoau, arferion a gwerthoedd crefyddol ac anghrefyddol. Ni fwriedir iddynt fod yn rhagnodol nac yn gynhwysfawr, ac ni ddylid eu defnyddio fel cynllun dysgu. Gall y rhai sydd â chyfrifoldeb am gynllunio'r cwricwlwm CGM ddefnyddio'r argymhellion hyn mewn modd hyblyg neu gynllunio model dilyniant sydd o leiaf yn gyfwerth yn nhermau lefel yr her a thrylwyredd academaidd.

Mae'r argymhellion yn caniatáu archwilio'r 7 is-lens CGM. Efallai bydd y rhai sy'n cynllunio'r ddarpariaeth CGM yn dymuno bod yn ymwybodol o'r is-lensys fel y'u nodir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru ar CGM: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/y-dyniaethau/cynllunio-eich-cwricwlwm/#religion,-values-and-ethics-guidance

Cynnydd cam 1 - 3

Crefyddau Abrahamig - Syniadau a gwybodaeth allweddol a argymhellir
 Cynnydd cam 1Cynnydd cam 2Cynnydd cam 3
Cristnogaeth
  • Beth yw ystyr y term 'Cristion'
  • Un Duw - holl-wybodus, hollgariadus, holl-bwerus
  • Duw fel Creawdwr
  • Iesu fel Mab Duw (ymgnawdoliad)
  • Adfent a'r Nadolig
  • Eglwysi yn y gymuned leol (cysylltiadau posibl ag Astudiaethau Cymdeithasol)
  • Yr Eglwys - pwysigrwydd fel lle i addoli, ymgynnull a chynnal y gymuned - nodweddion allweddol, e.e. allor, bedyddfaen - gwahanol fathau o eglwys
  • Syniad sylfaenol o'r Drindod
  • Y Beibl
  • Defodau newid byd - Bedydd, Ewcharist
  • Dysgeidiaethau allweddol yr efengylau, e.e. damhegion a gwyrthiau Iesu
  • Agape (cariad diamod bu Iesu yn ei addysgu)
  • Addoli a gweddïo Cristnogol.
  • Cefndir syml i Gristnogaeth yng Nghymru (cysylltiadau cryf â Hanes yn MDPh y Dyniaethau), er enghraifft Tyddewi, Yr Adfywiad Cymreig (Casllwchwr)
  • Creadigaeth a Chwymp yn Genesis 1 a dehongliadau
  • Wythnos Sanctaidd gan gynnwys y Swper Olaf, croeshoeliad, atgyfodiad
  • Y Grawys a'r Pasg
  • Pentecost a rôl yr Ysbryd Sanctaidd
  • Yr Eglwys fel Corff Crist - cymuned fyd-eang o Gristnogion
  • Enghreifftiau o ddysgeidiaethau a gwerthoedd Cristnogol ar waith
  • Deall bod llawer o wahanol ffyrdd o fod yn Gristion (enwadau).
Islam
  • Beth yw ystyr y term 'Mwslim'
  • Un Duw annisgrifiadwy - Allah
  • Muhammad fel y proffwyd olaf a mwyaf mawreddog (o 25)
  • Eid ul Fitr ac Eid ul Adha
  • Y lleuad a'r seren a'i symbolaeth ar gyfer Mwslimiaid
  • Y mosg yn y gymuned leol
  • Y Mosg fel canolbwynt addoli pwysig, nodweddion allweddol, e.e. wal Quibla, y Minarét
  • Y Quran, ei ddatguddiad i'r Proffwyd Muhammad a'i bwysigrwydd i Fwslimiaid
  • Bywyd a dysgeidiaethau Muhammad
  • Cefndir syml i Islam yng Nghymru (cysylltu â Hanes yn MDPh y Dyniaethau)
  • Defodau newid byd - Aqiqah, Bismillah
  • Proffwydi Islam, gan gynnwys Adam, Abraham, Iesu a Muhammad
  • Rôl a phwysigrwydd yr ummah
  • Pum piler Islam a'u rôl canolog ym mywydau Mwslimiaid
  • Y jihadi mwy a llai
  • Gwahanol grwpiau o Fwslimiaid - Sunni, Shi'a a Sufi Islam
Iddewiaeth
  • Beth yw ystyr y term 'Iddew'
  • Duw fel creawdwr
  • Abraham a Sarah - y cyfamod â Duw
  • Seren David a hunaniaeth Iddewig
  • Channukah
  • Y Synagog - gwahanol ddibenion ar gyfer y gymuned, a nodweddion allweddol, e.e., Arch, Bimah
  • Moses, yr alltud a'r deg gorchymyn
  • Y Torah - Duw fel rhoddwr y gyfraith
  • Joseff a llwythau Israel
  • Y Pasg Iddewig/ Pesach
  • Gweddïo Iddewig - y shema/ tefillin/ talith
  • Defodau newid byd - brit milah, bar a bat mitzvah
  • Cefndir syml i Iddewiaeth yng Nghymru (cysylltiadau â Hanes a Daearyddiaeth)
  • Straeon a phroffwydi Iddewig allweddol - Jacob, y Brenin David, Isaiah a Daniel
  • Purim a dewrder Ruth
  • Shabbat (traddodiadau, defodau ac ystyr) - Havdalah
  • Rhagfarn, gwahaniaethu a gwrth-Semitiaeth (cysylltiadau â Hanes)
  • Cofio a Beth Shalom
  • Deall bod gwahanol ffyrdd o fod yn Iddewig (rhyddfrydol/diwygiedig/ uniongred/ Chasidig/secwlar)
Unedau CGM a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiolBlwyddyn 1: Defnyddio straeon Cristnogol i ddatblygu dealltwriaeth o werthoedd allweddol. Sut y mae Cristnogion yn dysgu gan Iesu am ofal, maddeuant, cymuned a dilyn Duw? Blwyddyn 2: Dathliadau/Gwyliau (Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid) Blwyddyn 3: Symbolau ffydd ac arwyddion o berthyn: Pam y maent yn bwysig? (Yn perthyn i Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid) Blwyddyn 5: Gwerthoedd: beth sydd o'r pwys mwyaf i Ddyneiddwyr a Christnogion?
Diweddbwynt - llythrennedd crefyddolY disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy'n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai'r cwricwlwm a'r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau'r ysgol, y gymuned leol a Chymru.

 

Crefyddau Dharmig - Syniadau a gwybodaeth allweddol a argymhellir
 Cynnydd cam 1Cynnydd cam 2Cynydd cam 3
Bwdhaeth
  • Beth yw ystyr y term 'Bwdhydd'
  • Bywyd Bwdha (Gautama Siddhartha) a'r Pedwar Arwydd
  • Teml/ vihara yng Nghymru a lleoedd eraill - enghraifft leol os yn bosib - cyflwyniad i rai nodweddion a symbolau allweddol ynghyd â'r hyn sy'n digwydd yno.
  • Pwysigrwydd Dharma/dhamma - dysgeidiaethau'r Bwdha
  • Wesak - gŵyl cofio bywyd Bwdha, ei oleuo a'i farwolaeth
  • Y tri marc o fodolaeth: - dukkha (heb fod yn foddhaol) - anicca (heb fod yn barhaus - mae popeth yn newid) -anatta (dim hunan parhaus)
  • Bwdha fel meddyg/ffisigwr sy'n cynnig diagnosis o'r hyn sy'n achosi dioddefaint - tanha (blys/chwant) ac yn cynnig triniaeth - e.e. cydnabod nad yw popeth yn parhau, diffyg ymlyniad, meta (datblygu a chynnal caredigrwydd cariadus) a gwerthfawrogi bod pob peth yn gyd-gysylltiedig o bob peth sy'n fyw
  • Y 4 Gwirionedd Nobl.
  • Sangha Bwdhaidd - asgetigion a phobl leyg yng Nghymru a lleoedd eraill
  • Y Llwybr Wythblyg
  • Amrywiaeth mewn Bwdhaeth - y prif enwadau, Theravada a Mahayana
  • Myfyrio
  • Boddhisatva
  • Samsara a karma - cylchred ail-fyw
Hindŵaeth
  • Beth yw ystyr y term 'Hindŵ'
  • Teml/mandir yng Nghymru a lleoedd eraill - enghraifft leol os yn bosib - cyflwyniad i rai nodweddion a symbolau allweddol ynghyd â'r hyn sy'n digwydd yno
  • Brahman - un Duw/Bod Goruchaf/Realiti Eithaf
  • Divali
  • Sanatan Dharma, y 'Ffordd Dragwyddol', dharma fel dyletswydd neu ffordd o fyw - Hindŵaeth fel ffordd o fyw
  • Trimurti: Brahma (Creawdwr); Vishnu (Ceidwad); Shiva (Dinistrydd)
  • Duwiau a duwiesau fel mynegiant o Brahman
  • Ahimsa - yr egwyddor o beidio â niweidio unrhyw beth sy'n fyw
  • Testunau allweddol fel ffynonellau doethineb, e.e. Vedas, Bhaghavad Gita
  • Ailymgnawdoliad - samsara, karma, moksha
  • Cysyniad atma
  • Addoli yn y cartref ac yn y mandir
  • Cysegrau a murtis
  • Defodau newid byd, e.e. seremonïau trywydd sanctaidd
  • Lleoedd sanctaidd a phererindod e.e., Dyffryn Skanda
Sikhiaeth
  • Beth yw ystyr y term 'Sikh'
  • Cred mewn Un Duw (Ik Onkar) y mae Sikhiaid yn ei alw'n Waheguru
  • Bywyd Guru Nanak
  • Gurdwara yn y gymuned leol
  • Tri philer Sikhiaeth: -Kirat Karni (byw'n onest) -Vand Chakna (rhannu gydag eraill) -Naam Japna (ffocws ar Dduw).
  • 10 Guru dynol a'r Guru Granth Sahib
  • Gurdwara yng Nghymru a lleoedd eraill - enghraifft leol os yn bosib - cyflwyniad i rai nodweddion a symbolau allweddol ynghyd â'r hyn sy'n digwydd yno
  • Sewa - gwasanaethu eraill yn anhunanol
  • Langar
  • Sikh sangat yng Nghymru a lleoedd eraill
  • Mool Mantar
  • Addoli yn y gurdwara ac yn y cartref
  • Croesawu baban newydd
  • Cymryd amrit, bod yn amritdhari
  • Sefydlu'r Khalsa ym 1699 gan Guru Gobind Rai (a ddaeth yn Guru Gobind Singh)
  • Y 5 K a'u symbolaeth fel mynegiant o hunaniaeth Sikh, e.e. Sarika Singh
  • Dathliadau Vaisakhi
Unedau CGM a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiolBlwyddyn 2: Dathliadau/Gwyliau (Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid) Blwyddyn 3: Symbolau ffydd ac arwyddion o berthyn: Pam y maent yn bwysig? (Yn perthyn i Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid)
Diweddbwynt - llythrennedd crefyddolY disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy'n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai'r cwricwlwm a'r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau'r ysgol, y gymuned leol a Chymru

 

Safbwyntiau Anghrefyddol - Syniadau a gwybodaeth allweddol a argymhellir
 Cynnydd cam 1Cynnydd cam 2Cynnydd cam 3
Mae'r argymhellion hyn yn seiliedig ar Ddyneiddiaeth. Dylai'r rhai sy'n cynllunio cwricwlwm fod yn ymwybodol bod safbwyntiau anghrefyddol yn amrywiol a dylid ystyried dysgu amrywiaeth o safbwyntiau/argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol fel y nodir yng nghrynodeb deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau hefyd yn cyfeirio at anffyddiaeth, agnosticiaeth a sgeptigaeth, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
  • Dyneiddiaeth
  • Beth yw Dyneiddiwr?
  • Credoau Dyneiddiaeth o garedigrwydd a helpu ein gilydd.
  • Archwilio sut gall ein gweithredoedd wneud i eraill deimlo.
  • Y nod eithaf o hapusrwydd.
  • Credoau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Dechrau archwilio ein byd naturiol a'n cyfrifoldebau i ofalu amdano.
  • Hawliau dynol i bawb
  • Y canolbwynt Dyneiddiaeth ar gyfrifoldeb personol.
  • Cyfiawnder cymdeithasol i bawb.
  • Amrywiaeth a goddefgarwch yn ein cymdeithas/ byd cyfoes.
  • Ymreolaeth, moesoldeb a hunan-barch.
  • Penderfynu beth sy'n gywir a beth sy'n anghywir - y Rheol Euraidd
  • Credoau Dyneiddiaeth am darddiad
  • Cyfrifoldeb personol am stiwardiaeth a gofalu am y byd naturiol.
  • Credoau Dyneiddiaeth o empathi, cydymdeimlad a rhyddid dewis a'r effaith ar ddewisiadau bywyd (gan ddefnyddio rhesymu a rhesymeg yn hytrach na dysgeidiaeth ac athrawiaeth)
  • Pwysigrwydd bod yn chwilfrydig, y meddwl ymholi ac addysg i bawb
  • Hapusrwydd unigol, dathlu a gwobrwyo.
  • Anffyddiaeth a Dyneiddiaeth. Cydnabod arwydd y Dyneiddiwr Hapus
Unedau a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiolBlwyddyn 5: Gwerthoedd: beth sydd o'r pwys mwyaf i Ddyneiddwyr a Christnogion?
Diweddbwynt - llythrennedd crefyddolY disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy'n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai'r cwricwlwm a'r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau'r ysgol, y gymuned leol a Chymru.

 

Argyhoeddiadau Athronyddol - Syniadau a gwybodaeth allweddol a argymhellir
 Cynnydd cam 1Cynnydd cam 2Cynnydd cam 3
Mae'r argymhellion hyn yn seiliedig ar Feganiaeth Foesegol. Dylai'r rhai sy'n cynllunio cwricwlwm fod yn ymwybodol bod argyhoeddiadau athronyddol yn amrywiol a dylid ystyried dysgu amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol fel y nodir yng nghrynodeb deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau hefyd yn cyfeirio at heddychiaeth a gwrthwynebiad egwyddorol i wasanaeth milwrol, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
  • Feganiaeth Foesegol
  • Beth yw fegan?
  • Feganiaeth fel cred sy'n seiliedig ar arfer
  • Credoau ynghylch peidio â niweidio anifeiliaid
  • Dechrau archwilio ein cyfrifoldebau tuag at bethau byw
  • Arfer Feganiaeth Foesegol gan y rhai sydd â ffydd
  • Beth yw ystyr feganiaeth foesegol?
  • Sut y mae feganiaeth yn wahanol i feganiaeth foesegol?
  • Y dewisiadau a wneir gan feganiaid moesegol.
  • Feganiaeth foesegol fel ffordd o fyw.
  • Penderfynu beth sy'n gywir a beth sy'n anghywir - y Rheol Euraidd. A yw'n berthnasol i bobl ac i anifeiliaid?
  • Stiwardiaeth, arglwyddiaeth a pherthynas pobl ag anifeiliaid
  • Rhesymau dros feganiaeth - gwyddonol/ crefyddol/ moesegol.
  • Twf feganiaeth foesegol ac ystyried y rhesymau dros y twf.
  • Cywirdeb y portread o feganiaeth foesegol.
  • Cred feganiaeth foesegol fod y rheol euraidd yn berthnasol i bob peth byw.
  • Feganiaeth foesegol fel safbwynt
Unedau a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiolI ddilyn
Diweddbwynt - llythrennedd crefyddolY disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy'n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai'r cwricwlwm a'r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau'r ysgol, y gymuned leol a Chymru.

 

Cynnydd cam 4 - 5

Crefyddau Abrahamig - Syniadau a gwybodaeth allweddol a argymhellir
 Cynnydd cam 4Cynnydd cam 5
  Er nad oes gofyniad cyfreithiol i sefyll arholiad cyhoeddus na dilyn cwrs CGM allanol, dylai disgyblion gael y cyfle, cyn belled ag y bo modd, i gael yr hyn a ddysgwyd yn CGM wedi'i achredu. Os defnyddir darpariaeth amgen ym mlwyddyn 10 ac 11, rhaid cymryd gofal i sicrhau bod y cwricwlwm yn cyflawni'r pedwar diben, y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'i fod yn darparu CGM sy'n wrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol.
Cristnogaeth
  • Y Beibl fel ffynhonnell doethineb ac awdurdod, ac effaith y Beibl ar arferion a ffyrdd o fyw Cristnogol
  • Archwilio ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol eraill mewn Cristnogaeth, e.e. y gydwybod, arweinyddion crefyddol
  • Ffyrdd Cristnogol o fyw a moeseg
  • Amrywiaeth Cristnogol - enwadau, e.e. Catholig, Anglicanaidd, Eglwysi Rhydd, ac ati, gan gynnwys archwilio safbwyntiau Cristnogol rhyddfrydol a cheidwadol, e.e., diwinyddiaeth rhyddhad - Jose Cifuentes
  • Eciwmeniaeth
  • Arwyddocâd Cristnogaeth yng Nghymru yn hanesyddol ac yn yr oes bresennol (cysylltiadau cryf â Hanes ac Astudiaethau Cymdeithasol), e.e., Ffordd Pererindod y Gŵyr, taith gerdded pererindod Sir Benfro
  • Cristnogaeth ar waith - cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang (cysylltiadau â Daearyddiaeth ac Astudiaethau Busnes o bosib), e.e. Caffi Matt
  • Maddeuant a chymodi
  • Credoau a litwrgi
  • Natur Duw mewn Cristnogaeth, gydag ystyriaeth o faterion a dadleuon sy'n codi o'r credoau hyn
  • Priodas - ystyr, diben a seremonïau priodas
  • Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â'r byd naturiol a phethau byw - stiwardiaeth

Dylid ei seilio'n fras ar fanylebau TGAU Archwilio sut y gallai Cristnogion gymhwyso eu credoau a'u gwerthoedd i gwestiynau sy'n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a'r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i'r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.

Islam
  • Y Quran, yr Hadith a'r Sunnah fel ffynonellau doethineb ac awdurdod a'u heffaith ar arferion a ffyrdd o fyw Mwslimaidd
  • Y cod moesol Mwslimaidd - rhinweddau personol, cymeriad da, helpu eraill
  • Natur Duw a'r 99 enw hardd
  • Pum rheol cyfraith sharia
  • Credoau Mwslimaidd o tawhid, risalah ac akhirah
  • Arwyddocâd Islam yng Nghymru yn hanesyddol ac yn yr oes bresennol (cysylltiadau cryf â Hanes ac Astudiaethau Cymdeithasol)
  • Priodas a rolau'r rhywiau o fewn Islam
  • Symbolaeth mewn Islam a gwaith celf Islamaidd
  • Islam ar waith - cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang
  • Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â'r byd naturiol a phethau byw - pobl fel khalifahs

Dylid ei seilio'n fras ar fanylebau TGAU.

Archwilio sut y gallai Mwslimiaid gymhwyso eu credoau a'u gwerthoedd i gwestiynau sy'n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a'r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i'r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.

Iddewiaeth
  • Y Tenakh a'r Talmud fel ffynonellau awdurdod i Iddewon mewn cymdeithas gyfoes
  • Midrash a Mishnah mewn darparu gwerthoedd a moeseg i Iddewon
  • Saith cyfraith Noah
  • Credoau am y Meseia
  • Rosh Hashanah a Yom Kippur a phwysigrwydd y shofar
  • Priodas (diben a defodau) a'r chuppah
  • Kabbalah a'i chynnydd mewn poblogrwydd yn y gymdeithas gyfoes
  • Schul (cysylltiadau clir â Hanes a MDPh eraill)
  • Cynnydd Seioniaeth a'i hymateb i wrth-Semitiaeth.
  • Gostyngiad ym mhoblogaeth Iddewig Cymru (cysylltiadau â Daearyddiaeth ac Astudiaethau Cymdeithasol), e.e., Canolfan Treftadaeth Iddewig Cymru
  • Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â'r byd naturiol a phethau byw - stiwardiaeth, tikkun olam (trwsio'r byd)

Dylid ei seilio'n fras ar fanylebau TGAU.

Archwilio sut y gallai Iddewon gymhwyso eu credoau a'u gwerthoedd i gwestiynau sy'n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a'r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i'r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.

Unedau a awgrymir / ymholiadau enghreifftiolBlwyddyn 7: Beth yw crefydd? A fydd crefyddau'n tyfu neu'n darfod yn y 50 mlynedd nesaf? (Hindŵaidd, Cristnogol, Mwslimaidd, Safbwyntiau Anghrefyddol) Blwyddyn 9: A yw crefydd yn bŵer dros heddwch neu'n achos o wrthdaro? Safbwyntiau Cristnogol, Mwslimaidd a Sikh gan gyfeirio at Safbwyntiau Anghrefyddol.
Diweddbwynt - llythrennedd crefyddolY disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy'n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai'r cwricwlwm a'r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau'r ysgol, y gymuned leol a Chymru.

 

Traddodiadau Dharmig - Syniadau a gwybodaeth allweddol a argymhellir
 Cynnydd cam 4Cynnydd cam 5
Bwdhaeth
  • Y tair gem
  • Y tri gwenwyn
  • 5 egwyddor ar gyfer lleygwyr a 10 egwyddor ar gyfer mynaich a lleianod
  • Lleoedd pererindod
  • Ffynonellau doethineb Bwdhaidd
  • Cynrychiolaethau o'r Bwdha - y Bwdha yn niwylliant modern (gellid cysylltu â'r celfyddydau gweledol, astudiaethau cymdeithasol)
  • Priodas - ystyr a diben, seremonïau priodas
  • Arweinyddion crefyddol allweddol - e.e. Dalai Lama, Thich Nhat Hanh
  • Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â'r byd naturiol a phethau byw.

Dylid ei seilio'n fras ar fanylebau TGAU.

Archwilio sut y gallai Bwdhyddion gymhwyso eu credoau a'u gwerthoedd i gwestiynau sy'n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a'r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i'r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.

Hindŵaeth
  • Pedwar cam ashramas - myfyriwr, deiliad tŷ, meudwy/preswyliwr y goedwig, ymwrthodwr/asgetig crwydrol
  • Hindŵiaid yn y gymuned leol, er enghraifft, Tŷ Krishna
  • Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â'r byd naturiol a phethau byw.
  • Ahimsa a thrin anifeiliaid, parchedigaeth arbennig tuag at wartheg
  • Credoau ac arferion Hindŵaidd fel y maent yn berthnasol i faterion o gydraddoldeb
  • Diwylliant poblogaidd a Hindŵaeth (Hindŵaeth mewn ffilmiau, dawns, y celfyddydau gweledol)
  • Arweinyddion Hindŵaidd allweddol, e.e. Gandhi, Dr Vandana Shiva

Dylid ei seilio'n fras ar fanylebau TGAU.

Archwilio sut y gallai Hindŵiaid gymhwyso eu credoau a'u gwerthoedd i gwestiynau sy'n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a'r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i'r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.

Sikhiaeth
  • Yr egwyddor o gydraddoldeb, rhwng rhywiau, hiliau a dosbarthiadau cymdeithasol a sut y mynegir hyn drwy ddysgeidiaethau, straeon, arferion crefyddol a ffyrdd o fyw Sikhaidd
  • Lleoedd pererindod, e.e. Harimandir Sahib
  • Gurumurkh - byw bywyd â Duw yn ganolog iddo
  • Y Guru Granth Sahib fel ffynhonnell doethineb ac awdurdod
  • Anand karaj - priodas Sikhaidd, y seremoni ac ystyr a phwrpas priodas i Sikhiaid
  • Gwerthoedd a moeseg mewn perthynas â'r byd naturiol a phethau byw
  • Amrywiaeth yn ymarferol, e.e. barn ar wisgo'r 5 K, byw fel Sikh Khalsa, gwahanol safbwyntiau ynghylch materion megis llysieuaeth.

Dylid ei seilio'n fras ar fanylebau TGAU.

Archwilio sut y gallai Sikhiaid gymhwyso eu credoau a'u gwerthoedd i gwestiynau sy'n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a'r amgylchedd, gan gyfeirio at ffynonellau doethineb ac awdurdod allweddol. Dylid annog dysgwyr i ymgysylltu â meddwl academaidd a chymhwyso eu gwybodaeth flaenorol i'r trafodaethau a dadleuon moesegol hyn.

Unedau a awgrymir / ymholiadau enghreifftiolBlwyddyn 7: Beth yw crefydd? A fydd crefyddau'n tyfu neu'n darfod yn y 50 mlynedd nesaf? (Hindŵaidd, Cristnogol, Mwslimaidd, Safbwyntiau Anghrefyddol) Blwyddyn 9: A yw crefydd yn bŵer dros heddwch neu'n achos o wrthdaro? Safbwyntiau Cristnogol, Mwslimaidd a Sikh gan gyfeirio at Safbwyntiau Anghrefyddol.
Diweddbwynt - llythrennedd crefyddolY disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy'n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai'r cwricwlwm a'r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau'r ysgol, y gymuned leol a Chymru.

 

Safbwyntiau Anghrefyddol - Syniadau a gwybodaeth allweddol a argymhellir
 Cynnydd cam 4Cynnydd cam 5
Mae'r argymhellion hyn yn seiliedig ar Ddyneiddiaeth. Dylai'r rhai sy'n cynllunio cwricwlwm fod yn ymwybodol bod safbwyntiau anghrefyddol yn amrywiol a dylid ystyried dysgu amrywiaeth o safbwyntiau/argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol fel y nodir yng nghrynodeb deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau hefyd yn cyfeirio at anffyddiaeth, agnosticiaeth a sgeptigaeth, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
  • Dyneiddiaeth
  • Dealltwriaeth o le tystiolaeth sy'n seiliedig ar ffeithiau a chynnydd gwyddoniaeth yn ein hardal leol, yng Nghymru a'r byd.
  • Mathau o anffyddiaeth, 'yr anffyddwyr newydd', gwrth-theistiaid
  • Secwlariaeth, sgeptigaeth.
  • Datblygu ein safbwynt personol ar faterion gwleidyddol a moesol cyfredol ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Ymreolaeth foesegol a moeseg sefyllfa
  • Anffyddwyr dylanwadol - Richard Dawkins, Stephen Fry.

Archwilio sut y gallai Dyneiddwyr gymhwyso eu credoau a'u gwerthoedd i gwestiynau sy'n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a'r amgylchedd.

Archwilio enghreifftiau pellach o safbwyntiau anghrefyddol (gweler chwith)

Unedau a awgrymir / ymholiadau enghreifftiolBlwyddyn 7: Beth yw crefydd? A fydd crefyddau'n tyfu neu'n darfod yn y 50 mlynedd nesaf? (Hindŵaidd, Cristnogol, Mwslimaidd, Safbwyntiau Anghrefyddol) Blwyddyn 9: A yw crefydd yn bŵer dros heddwch neu'n achos o wrthdaro? Safbwyntiau Cristnogol, Mwslimaidd a Sikh gan gyfeirio at Safbwyntiau Anghrefyddol.
Diweddbwynt - llythrennedd crefyddolY disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy'n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai'r cwricwlwm a'r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau'r ysgol, y gymuned leol a Chymru.

 

Argyhoeddiadau Athronyddol - Syniadau a gwybodaeth allweddol a argymhellir
 Cynnydd cam 4Cynnydd cam 5

Mae'r argymhellion hyn yn seiliedig ar Feganiaeth Foesegol. Dylai'r rhai sy'n cynllunio cwricwlwm fod yn ymwybodol bod argyhoeddiadau athronyddol yn amrywiol a dylid ystyried dysgu amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol fel y nodir yng nghrynodeb deddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau hefyd yn cyfeirio at heddychiaeth a gwrthwynebiad egwyddorol i wasanaeth milwrol, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr

  • Feganiaeth Foesegol
  • Dealltwriaeth o le feganiaeth foesegol yn ein hardal leol, yng Nghymru a'r byd.
  • Datblygu ein safbwynt personol ar feganiaeth foesegol fel ffordd o fyw.
  • Effaith byw bywyd fegan moesegol
  • Archwilio dylanwad feganiaeth foesegol yn ein hardal leol, yng Nghymru a'r byd.
  • Feganiaeth foesegol a'r ffyddau Abrahamig
  • Feganiaeth foesegol a'r ffyddau Dharmig
  • Feganiaid moesegol dylanwadol - Ellen DeGeneres, Joaquin Phoenix, Serena a Venus Williams
  • Rhywogaethiaeth (Peter Singer) - pam bod rhai rhywogaethau'n cael eu trin yn wahanol i eraill, er gwaethaf patrymau deallusrwydd ac ymddygiad tebyg?

Archwilio sut y gallai Feganiaid Moesegol gymhwyso eu credoau a'u gwerthoedd i gwestiynau sy'n gysylltiedig â dadleuon moesegol, er enghraifft, erthyliad, ewthanasia, rhyfel, hawliau anifeiliaid a'r amgylchedd.

Archwilio enghreifftiau pellach o argyhoeddiadau athronyddol (gweler chwith).

Unedau a awgrymir / ymholiadau enghreifftiolI ddilyn.
Diweddbwynt - llythrennedd crefyddolY disgwyliad o fewn y maes llafur hwn yw y bydd disgyblion erbyn diwedd ysgol gynradd, wedi astudio amrywiaeth o gredoau a thraddodiadau crefyddol sy'n cynnwys ffyddau Abrahamig, traddodiadau Dharmig, argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, yn ogystal ag argyhoeddiadau athronyddol. Dylai'r cwricwlwm a'r dewisiadau adlewyrchu traddodiadau'r ysgol, y gymuned leol a Chymru.

 

Gwerthoedd a moeseg

Gwerthoedd a moeseg - cynnydd
 Cynnydd cam 1 - 5 oedCynydd cam 2 - 8 oedCynnydd cam 3 - 11 oedCynnydd cam 4 - 14 oedCynnydd cam 5 - 16 oed
Mae gwerthoedd a moeseg yn sail i'r holl syniadau a gwybodaeth allweddol a nodwyd fel argymhellion. Ni fwriedir i'r crynodeb hwn gael ei ddefnyddio fel uned waith ar wahân, dim ond fel pwynt cyfeirio i'r rhai sy'n cynllunio cwricwlwm CGM ei gyfeirio ato fel enghreifftiau o ffyrdd y byddai dysgwyr yn gwneud cynnydd mewn gwerthoedd a moeseg.

Pa bethau sydd gan ddisgyblion yn eu bywydau sy'n bwysig?

Pa fath o bethau efallai gwnânt i ddangos eu bod yn bwysig?

A oes gan ddisgyblion y geiriau i fynegi eu gwerthoedd?

A all disgyblion adnabod ac adfyfyrio ar werthoedd pobl eraill?

Hanes gwerthoedd

A all disgyblion adnabod bod gwerthoedd eu hysgolion yn deillio o werthoedd Cristnogol?

Sut y gallai'r rhain fod yn wahanol i werthoedd Mwslimaidd/ Hindŵaidd/ Dyneiddiol?

A all disgyblion ddarllen ac adfyfyrio ar werthoedd a gwybod pa bethau sydd wedi dylanwadu'r gwerthoedd hyn?

A all disgyblion adnabod bod Cristnogaeth wedi llunio gwerthoedd Cymru heddiw?

Materion astudiaethau achos i archwilio gwerthoedd a moeseg, er enghraifft ecolegol/ feganiaeth/ rhyddid i siarad/ hunaniaeth/ rhywedd/ ffeministiaeth. CGM gorfodol yn yr ysgol.

A all disgyblion adfyfyrio ar faterion moesegol o gefndir crefydd0l/ anghrefyddol gwahanol?

A all disgyblion ddadlau achos moesegol?

Cwestiynau athronyddol

A yw moeseg bob tro yn oddrychol?

A yw'n bosib cael moeseg wrthrychol?

Beth yw moeseg?

A oes angen Duw er mwyn bod yn foesegol?

Perthynolaeth foesol ac absoliwtiaeth foesol.

Profiadau taith ddysgu Is-lensDylai gwerthoedd a moeseg gael eu hymgorffori i'r teithiau dysgu CGM (gweler y canllawiau) ac/ neu i'r unedau a awgrymir/ ymholiadau enghreifftiol (gweler yr atodiad).
Diweddbwynt - llythrennedd crefyddolDylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o grefyddau, ac argyhoeddiadau athronyddol a gallu cynnal sgyrsiau a thrafodaethau cytbwys a gwybodus. Bydd disgyblion sy'n grefyddol lythrennog wedi'u galluogi i gymryd eu lle'n hyderus o fewn ein cymdeithas aml-grefyddol ac aml-seciwlar amrywiol, byddant yn gallu meddwl yn annibynnol, bod yn adfyfyriol a gallu gwerthuso'n deg ac yn feirniadol.

 

18. CGM rhwng 14 ac 16 oed

Mae CGM yn fandadol ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 a 16 oed. Rhaid cynnig darpariaeth CGM ym mlwyddyn 10 ac 11 i alluogi dysgwyr i ddatblygu llythrennedd crefyddol digonol er mwyn cyflawni pedwar diben y cwricwlwm. Er nad oes gofyniad cyfreithiol i sefyll arholiad cyhoeddus na dilyn cwrs CGM allanol, dylai disgyblion gael y cyfle, cyn belled ag y bo modd, i gael yr hyn a ddysgwyd yn CGM wedi'i achredu. Byddai cymhwyster TGAU CBAC yn bodloni dibenion y cwricwlwm yn ogystal â sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu llythrennedd crefyddol drwy dderbyn CGM gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol. Os defnyddir darpariaeth amgen ym mlwyddyn 10 ac 11, rhaid cymryd gofal i sicrhau bod y cwricwlwm yn cyflawni'r pedwar diben, y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'i fod yn darparu CGM sy'n wrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol.

 

19. CGM rhwng 16 a 19 oed

Nid yw Adran 61 o'r Ddeddf yn atal ysgol rhag gosod gofyniad i bob dysgwr yn ei chweched dosbarth gymryd dosbarthiadau CGM gorfodol; ac nid yw ychwaith yn atal ysgol sy'n mabwysiadu'r drefn hon rhag darparu CGM chweched dosbarth gorfodol sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol ("CGM enwadol"). Mae cynnwys CGM enwadol o'r fath yn parhau i fod yn fater i'r ysgol gyda'r cwricwlwm wedi'i gynllunio yn unol â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd.

Lle darperir CGM, dylid cynllunio'r cwricwlwm i fwyhau ac ehangu'r cyfleoedd addysgol a dysgu i bob myfyriwr. Byddai amrywiaeth o gyfleoedd o fudd i'r ddarpariaeth astudiaeth ôl-16, gan ddibynnu ar anghenion a gofynion yr ysgol. Dylid cynnig cwrs achrededig, megis Astudiaethau Crefyddol UG a Safon Uwch. Dylai myfyrwyr gael y cyfle i gyd-awduro eu dysgu eu hunain a allai cwmpasu crefydd ac argyhoeddiadau/safbwyntiau athronyddol, ochr yn ochr ag ymgysylltu â phynciau moesegol ac athronyddol. Gellir eu cyflwyno drwy gyfrwng gwersi wedi'u hamserlennu, cynadleddau, gweithgareddau cyfoethogi neu brosiectau.

 

20. Cynnydd ac asesu

Mae cynnydd dysgwr yn ffactor pwysig wrth ddylunio eich cwricwlwm. Adlewyrchir hyn yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ac yn y disgrifiadau dysgu ar gyfer y dyniaethau, sy'n helpu i ddarparu arweiniad manylach i ymarferwyr.

Mae'r Côd Cynnydd yn rhoi egwyddorion trosgynnol a fydd yn sail i gynnydd ar draws yr holl Feysydd Dysgu. Gan gyfeirio at y Dyniaethau, mae'r egwyddorion cynnydd canlynol yn darparu gofyniad gorfodol o sut y bydd cynnydd yn edrych ar gyfer dysgwyr:

a)  Cynyddu effeithiolrwydd fel dysgwr.
b)  Cynyddu ehangder a chwmpas gwybodaeth.
c)  Gwella dealltwriaeth o'r syniadau a disgyblaethau o fewn Meysydd
ch)  Mireinio a gwella soffistigedigrwydd wrth ddefnyddio sgiliau.
e)  Gwneud cysylltiadau a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau newydd.

Bydd cwricwlwm CGM trwyadl sydd wedi'i strwythuro'n ofalus ac yn llawn gwybodaeth a sgiliau yn sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd dros amser. Felly dylai asesu fod yn rhan hanfodol o ddylunio'r cwricwlwm ac addysgeg. Mae'r arweiniad CGM yn awgrymu llwybrau dysgu ar gyfer pob un o'r is-lensys CGM a fydd yn cefnogi gyda dilyniannu'r cwricwlwm i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud.

Rhestr Termau

Maes Llafur Cytunedig

Y ddogfen sy'n nodi'r hyn y dylid ei ddysgu o fewn Addysg Grefyddol (AG)/ CGM o fewn awdurdod lleol. Cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol yw creu a monitro Maes Llafur Cytunedig ar gyfer AG/ CGM.

MDPh

Maes dysgu a phrofiad. Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys chwe MDPh, sef Y Celfyddydau Mynegiannol; Iechyd a Lles; Y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Mathemateg a Rhifedd; Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Safon Uwch

Cymhwyster sy'n seiliedig ar bwnc sydd fel arfer (er nad bob amser) yn cael ei astudio ym mlwyddyn olaf yr ysgol/ coleg.

Safon UG

Mae Safon UG yn gymhwyster uwch y gall myfyrwyr ei astudio ar ôl cwblhau eu harholiadau TGAU.

TGAU

Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd.

CGM

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

CYSAG

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol sy'n bennaf gyfrifol am oruchwylio Addysg Grefyddol yn yr awdurdod lleol.

CYSCGM

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg - enw newydd CYSAG o fis Medi 2022.

YMCD

Datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol.

CBAC

Cyd-bwyllgor Addysg Cymru - y bwrdd arholi sy'n darparu arholiadau, adnoddau a dysgu proffesiynol i ysgolion ac athrawon yng Nghymru.

DHB

Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig - y gofynion mandadol ar gyfer y rhai sy'n cynllunio eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu.

 

Enghrefftiau o unedau CGM i gyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru

Mae pob uned wedi cael ei mapio, gan ddefnyddio pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, y Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig a chamau cynnydd MDPh y Dyniaethau, ac yn cynnig cyfleoedd i ymgorffori'r themâu trawsgwricwlaidd. Nid yw'r unedau'n rhagnodol ond byddant yn cynnig enghreifftiau o gynlluniau o ansawdd uchel a fydd yn cefnogi CGM gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol ac maent wedi'u hysgrifennu i alinio gyda Maes Llafur Cytunedig Sir Benfro ar gyfer CGM.

Cewch fynediad i'r gyfres o gynlluniau ac adnoddau dysgu yma

Taith ddysgu - Blwyddyn 1: Defnyddio straeon Cristnogol i ddatblygu dealltwriaeth o werthoedd allweddol. Sut y mae Cristnogion yn dysgu gan Iesu am ofal, maddeuant, cymuned a dilyn Duw?

Taith ddysgu - Blwyddyn 2: Dathliadau/Gwyliau (Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid)

Taith ddysgu - Blwyddyn 3: Symbolau ffydd ac arwyddion o berthyn: Pam y maent yn bwysig? (Yn perthyn i Hindŵiaid, Cristnogion, Mwslimiaid)

Taith ddysgu - Blwyddyn 5: Gwerthoedd: beth sydd o'r pwys mwyaf i Ddyneiddwyr a Christnogion?

Taith ddysgu - Blwyddyn 7: Beth yw crefydd? A fydd crefyddau'n tyfu neu'n darfod yn y 50 mlynedd nesaf? (Hindŵaidd, Cristnogol, Mwslimaidd, Safbwyntiau Anghrefyddol)

Taith ddysgu - Blwyddyn 9: A yw crefydd yn bŵer dros heddwch neu'n achos o wrthdaro? Safbwyntiau Cristnogol, Mwslimaidd a Sikhaidd gan gyfeirio at Safbwyntiau Anghrefyddol.

 

Cydnabyddiaeth

Dyma'r aelodau CYSAG sydd wedi cyfrannu at Gynhadledd y Maes Llafur Cytunedig ac sydd wedi cyfrannu at drafodaethau bywiog a blaengar:

Pwyllgor A
Mr John Meredith
Revd Dr Jonathon Wright
Mr Paul White
Mrs Adele Thomas
Dr Minkesh Sood
Mr Roland Jones
Mr Brian Cainen
Mrs Rita Green

Pwyllgor B
Mr Jeffrey Connick
Mrs Alison Lewis
Mrs Rachel Bendall
Mrs Bev Phillips
Mrs Heather Hansen
Ms Briony Knibbs

Pwyllgor C
Councillor Yvonne Jardine
Councillor Lyndon Jones
Councillor Mary Jones
Councillor Jess Pritchard
Councillor Sam Pritchard

Aelodau Cyfetholedig
Mrs Ruth Jenkins
Mrs Tanya Long

Ymgynghorydd yr ALI
Mrs Jennifer Harding-Richards

Swyddog yr ALI
Mrs Nikki Hill

Ymgynghorydd Allanol
Mrs Angela Hill

Mae'r cydweithwyr canlynol wedi cefnogi gyda deunyddiau cefnogol a/neu gyngor ar gyfer y maes llafur cytunedig
Prof Linda Woodhead MBE
Mr Lat Blaylock

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mehefin 2023