Toglo gwelededd dewislen symudol

Saesneg fel Iaith Ychwanegol

Beth yw'r gwasanaeth? Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAU) yn Abertawe yn wasanaeth addysg canolog a ddarperir gan yr awdurdod lleol â'r nod o godi safonau a mynd i'r afael â'r risg o ddisgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn tangyflawni, yn enwedig y rhai sy'n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY).

Mae gan EMAU dîm mawr o athrawon arbenigol a chynorthwy-wyr addysgu dwyieithog sy'n cefnogi ysgolion Abertawe â darpariaeth ar gyfer disgyblion sy'n dysgu SIY.

Prif rôl y cynorthwy-wyr addysgu dwyiethog yw darparu cefnogaeth yn yr ystafell ddosbarth i ddisgyblion sydd ar gamau cynnar dysgu Saesneg, gan gynnwys cyfieithu deunyddiau ac adnoddau cwricwlaidd. Mae'r cynorthwy-wyr addysgu dwyieithog yn siarad 10 iaith rhyngddynt. Yn ogystal, mae cynorthwy-wyr addysgu dwyiethog yn hwyluso cysylltiadau cartref-ysgol o ddydd i ddydd a rhieni/gofalwyr, drwy gyfieithu llythyrau ysgol er enghraifft.

Darperir cefnogaeth gan athrawon arbenigol i ddysgwyr SIY penodol y bernir eu bod yn y perygl mwyaf o dangyflawni yn yr ysgol. Mae gan yr athrawon arbenigol rol allweddol wrth ddarparu cyngor, arweiniad a hyfforddiant i staff ysgol fel y gall ysgolion ddatblygu eu harbenigedd eu hunain wrth ddiwallu anghenion arbennig ac amrywiol dysgwyr lleiafrifoedd ethnig ac yn fwy penodol, dysgwyr SIY.

Mae dysgwyr SIY sydd newydd gyraedd sy'n cael eu hatgyfeirio i'r gwasanaeth yn cael eu hatgyfeirio i'r gwasanaeth yn cael eu hasesu gan athrawon arbenigol. Darperir gwybodaeth berthnasol a strategaethau priodol i athrawon dosbarth fel y gallant gefnogi'r disgybl. Ar brydiau, gall cynorthwy-wyr addysgu dwyieithog gynnal asesiad iaith yr aelwyd.

Mae'r gwasanaeth yn cydlynu gwasanaethau dehongli a chyfieithu ar gyfer addysg fel y gall rhieni/gofalwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig gymryd rhan yn llawn yn addysg eu plant. Mae'r cynorthwy-wyr addysgu dwyiethog yn gweithredu fel dehonglwyr a lle nad yw ieithoedd ar gael yn fewnol, defnyddir Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru (WITS).

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Mai 2021