Toglo gwelededd dewislen symudol

Safleoedd gwarchodedig yn Abertawe

Mae 'safleoedd gwarchodedig' yn ardaloedd o dir neu fôr (neu weithiau'r ddau) a warchodir ar gyfer yr amgylchedd. Gwarchodir rhai safleoedd gan y gyfraith (statudol) ond nid eraill (anstatudol), ac mae rhai wedi'u dynodi am eu pwysigrwydd i gadwraeth natur yn genedlaethol neu'n rhyngwladol tra dynodir eraill am eu pwysigrwydd yn lleol.

Heb ystyried y gwahaniaethau hyn, mae pob safle gwarchodedig yn allweddol i ddarparu rhwydwaith ar gyfer natur ledled Abertawe a'r tu hwnt i ffin y sir.

Safleoedd Gwarchodedig Statudol

Safleoedd yw'r rhain sy'n cael eu gwarchod gan ddeddf neu ddeddfau arbennig. Mae gennym enghreifftiau o'r holl fathau o safleoedd gwarchodedig statudol yn Abertawe  sy'n gorchuddio tua 21% o arwynebedd tir Abertawe (Yn agor ffenestr newydd), gan gynnwys:

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (Yn agor ffenestr newydd) (SoDdGA) - Mae'r rhain yn cynrychioli rhai o'r enghreifftiau gorau o natur yn genedlaethol. Gellir eu dynodi am eu nodweddion biolegol (e.e. planhigion neu anifeiliaid a/neu ddaearegol (e.e. creigiau a/neu dirffurfiau). Mae gennym 36 SoDdGA yn Abertawe.

Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (Yn agor ffenestr newydd) (AGA) - Safleoedd o bwys Ewropeaidd yw'r rhain a ddynodir i warchod cynefin adar mudol a rhywogaethau adar eraill sydd mewn perygl. Mae gennym ddwy AGA yn Abertawe.

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (Yn agor ffenestr newydd) (ACA) - Dynodir y rhain i warchod cynefinoedd arbennig a/neu rywogaethau sydd o bwys penodol yn Ewropeaidd. Mae gennym saith ACA yn Abertawe.

Safleoedd Ramsar (Yn agor ffenestr newydd) - Safleoedd gwlypdir o bwys rhyngwladol yw'r rhain. Mae gennym ddau safle Ramsar yn Abertawe.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (Yn agor ffenestr newydd) (GNGau) - Safleoedd yw'r rhain sy'n cael eu sefydlu i warchod bywyd gwyllt, cynefinoedd neu nodweddion daearegol o bwysigrwydd arbennig, a chaniatáu i bobl eu hastudio. Heddiw, mae'r rhan fwyaf o'n gwarchodfeydd natur yn agored i bawb eu harchwilio, dysgu amdanynt a'u mwynhau. Mae gennym bedair GNG yn Abertawe. 

Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLau) - Safleoedd yw'r rhain a ddynodir ar gyfer natur sy'n bwysig yn lleol. Maent hefyd yn fannau pwysig i bobl brofi natur a dysgu amdani.

O'r holl safleoedd a warchodir gan y gyfraith, mae Cyngor Abertawe yn gyfrifol am ddynodi pob GNL, a hyd yma, mae'r cyngor wedi dynodi chwe safle yn y sir yn GNLau, sy'n cwmpasu amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys coetiroedd, rhostiroedd, clogwyni arfordirol a chorsydd. Mae'r safleoedd hyn yn elfen bwysig o rwydwaith ecolegol Abertawe, ond yn wahanol i safleoedd eraill a warchodir gan y gyfraith, dynodir GNLau yn benodol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Felly, yn ogystal â bod yn safleoedd allweddol ar gyfer cadwraeth natur, mae'r chwe GNL yn Abertawe yn adnodd lleol ar gyfer addysg amgylcheddol ac yn rhoi cyfle i bobl ddysgu am natur neu ei mwynhau.

 I gael rhagor o wybodaeth am GNLau, e-bostiwch nature.conservation@abertawe.gov.uk.

Safleoedd Gwarchodedig Anstatudol

Safleoedd yw'r rhain nad ydynt wedi'u gwarchod gan y gyfraith, ond maent wedi'u gwarchod rhywfaint rhag datblygu drwy bolisi cynllunio lleol, gan y bwriedir i'w dynodiad gynyddu ymwybyddiaeth a rhoi ystyriaeth ddyledus i natur yn y system cynllunio defnydd tir . Mae gan y safleoedd hyn sawl enw gwahanol yn y DU, ond yn Abertawe fe'u gelwir yn  Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SBCN). Dynodir SBCNau yn aml gan yr awdurdod lleol ac yn Abertawe dynodir 154 SBCN ar hyn o bryd sy'n gorchuddio tua 22% o arwynebedd tir Abertawe (Yn agor ffenestr newydd), gan gynnwys amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. Dewiswyd y safleoedd hyn yn unol â chanllawiau cenedlaethol ar adnabod a dethol SBCNau.

Mae SBCNau yn rhan hanfodol o natur yn Abertawe. Fe'u dynodir am eu pwysigrwydd i natur yn lleol, yn ogystal ag ar gyfer rhai cynefinoedd a rhywogaethau go arbennig, y'u hadwaenir fel cynefinoedd a rhywogaethau Adran 7 (Yn agor ffenestr newydd).

Mae'r rhwydwaith ecolegol a ffurfir gan SBCNau ar draws y sir o bwys enfawr i gadwraeth natur, yn ogystal â'r rhwydwaith o safleoedd dynodedig yn Abertawe a warchodir gan y gyfraith.

I gael rhagor o wybodaeth am SBCNau, e-bostiwch nature.conservation@abertawe.gov.uk.