Ysgolion yn cael eu cydnabod am ddiwylliant cynhwysol a chroesawgar
Mae disgyblion a staff sy'n cynrychioli ysgolion yn Abertawe wedi bod i seremoni i gydnabod y gwaith y maent yn ei wneud i greu diwylliant diogel, cynhwysol a chroesawgar i bawb gan gynnwys ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Mae Ysgol Gynradd San Helen, Ysgol Gynradd Christchurch ac Ysgol Gyfun yr Esgob Vaughan i gyd wedi ennill statws Ysgolion Noddfa ac fe'u gwahoddwyd i'r digwyddiad yn Arena Abertawe ddydd Gwener i ddathlu eu cyflawniadau.
Mae Ysgol Gadeiriol San Joseff hefyd wedi cael ei hailachredu ac wedi cymryd rhan hefyd.
Mae'r pedair ysgol yn ymuno ag ysgolion yr Hafod, Brynmill, Waun Wen a Heol y Teras a enillodd y statws y llynedd a Phentrehafod a gafodd ei hailachredu fel Ysgol Noddfa ar ôl bod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill y wobr fwy na deng mlynedd yn ôl.
Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Hoffwn longyfarch y tair ysgol newydd sydd wedi ennill statws Ysgolion Noddfa a hefyd ganmol y rheini sy'n parhau i ddal y teitl.
"Wythnos y Ffoaduriaid yw hi'r wythnos hon - dathliad rhyngwladol o gyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy'n ceisio noddfa - ac roedd digwyddiad ddydd Gwener yn Arena Abertawe yn rhagflaenydd addas iawn."