Safon ansawdd tai Cymru
Safon darged Llywodraeth Cymru ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru yw safon ansawdd tai Cymru (SATC).
I fodloni'r safon, rhaid i dai:
- fod mewn cyflwr da
- bod yn saff ac yn ddiogel
- cael eu gwresogi'n ddigonol, bod yn effeithlon o ran tanwydd a bod wedi'u hinswleiddio'n dda
- cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
- bod wedi'u rheoli'n dda (o ran tai wedi'u rhentu)
- bod wedi'u lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
- bod yn addas ar gyfer anghenion penodol y rheini sy'n byw ynddynt, os yw hynny'n bosibl, er enghraifft pobl ag anableddau
Rhaid cynnal y safonau hyn hefyd.
Ariannu'r gwaith
Darperir y cyllid gan gyfuniad o incwm rhent tai cyngor ac arian a fenthycwyd. Rhoddir rhan o'r buddsoddiad hwn i ni fel grant Lwfans Atgyweirio Sylweddol gan Lywodraeth Cymru.
Yn 2022/23 byddwn yn derbyn £9,283,000 gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cael ei wario ar gynlluniau gwella SATC. Mae'r grant hwn yn helpu i wella bywydau'r rheini sy'n byw mewn tai cyngor, yn ogystal â darparu buddion cymunedol. Ar y cyfan, yn 2022/23 byddwn yn gwario £46.139m ar welliannau SATC.
Mae rhagor o wybodaeth am yr arian grant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gael ar ei gwefan yn: Safon ansawdd tai Cymru (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Cydymffurfio â SATC
Cydymffurfir â SATC pan ystyrir bod holl elfennau SATC o ansawdd rhesymol a'u bod yn perfformio fel a fwriadwyd. Mesurir lefel y cydymffurfio trwy arolygon cyflwr tai a diweddariadau pan fydd atgyweiriadau a gwelliannau wedi'u cwblhau.
Mae'r cyfleuster i nodi elfennau fel 'methiant derbyniol' yn nogfen arweiniad SATC. Mae'r ddogfen yn cydnabod efallai na fydd yn bosib sicrhau bod yr holl elfennau'n bodloni'r safon a gall landlordiaid adrodd am y rhain fel un o'r categorïau methiant derbyniol canlynol: cost y gwelliant; amserlen y gwelliant; dewis y preswylwyr; a chyfyngiadau ffisegol. Bydd yr elfennau hynny na ellid sicrhau eu bod yn bodloni SATC yn parhau i gael eu cynnal a'u cadw a'u hatgyweirio er mwyn sicrhau bod cartrefi'n parhau i fod yn ddiogel.
Gellir gweld lefel cydymffurfio â SATC Abertawe ar wefan Stats Cymru: Cydymffurfiaeth gyffredinol â SATC (Stats Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)