Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Prisiau prydau ysgol yn cael eu rhewi i helpu gyda chostau byw

Mae prisiau prydau ysgol yn Abertawe wedi cael eu rhewi am flwyddyn arall i helpu rhieni a gofalwyr gyda'r argyfwng costau byw.

school meals generic

Mae hyn yn golygu y bydd teuluoedd sy'n dewis defnyddio'r gwasanaeth yn parhau i dalu £2.40 y dydd a dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i ni rewi'r prisiau, er gwaethaf pwysau sylweddol o ran costau.

Meddai'r Cyng. Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, "Rydym yn ymwybodol iawn o'r pwysau sydd ar deuluoedd ar hyn o bryd ac yn edrych ar opsiynau ar draws y cyngor er mwyn eu helpu."

"Lluniodd y cyngor gyfres o ymrwymiadau polisi ym mis Mehefin i gefnogi ein cymunedau. Un ohonynt oedd yr ymrwymiad i rewi prisiau prydau ysgol, ac rydym yn falch iawn ein bod yn cyflawni hynny."

Ychwanegodd y Cynghorydd Smith, "Mae rhieni neu ofalwyr sy'n derbyn nifer o fudd-daliadau'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n credu y gallent fod yn gymwys i ymweld â'r wefan yn www.abertawe.gov.uk/prydauysgolamddim i wirio. Gall y rheini nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd ffonio'r cyngor ar 01792 635353.