Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad gwerth miliynau ar y gweill i uwchraddio ysgolion

Ysgolion yn bennaf fydd yn elwa o fuddsoddiad sy'n werth bron £3.8m gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru mewn gwelliannau cynnal a chadw ac adeiladu hanfodol yn y ddinas yn ystod y flwyddyn sy'n dod.

New Tirdeunaw School

Gofynnir i Gabinet y Cyngor gymeradwyo'r rhaglen waith bwysig pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf.

Mae tua £1.7m yn cael ei gyfeirio at fwy na dwsin o ysgolion er mwyn cynnal gwaith i adnewyddu neu atgyweirio toeon, gwaith uwchraddio trydanol a gwelliannau eraill.

Mae £600,000 hefyd wedi'i glustnodi ar gyfer argyfyngau yn ogystal ag arian i gynnal adeiladau rhestredig, gan gynnwys cofebau rhyfel Abertawe y mae'r Cyngor wedi addo eu cynnal ar ran cyn-filwyr.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Er gwaethaf gostyngiad sylweddol yn swm yr arian sy'n cael ei roi i ni gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y math hwn o waith ar gyfer y flwyddyn i ddod, rydym unwaith eto yn buddsoddi symiau sylweddol mewn gwelliannau cynnal a chadw hanfodol ar gyfer ein hysgolion a'n hadeiladau cyhoeddus.

"Mae'r rhaglen yn ystyried ymrwymiad y Cyngor i leihau ei ôl-troed carbon a lleihau costau ynni."

Close Dewis iaith