Llogi sgipiau ar gyfer gwastraff masnachol
Rydym yn gallu darparu gwasanaeth sgipiau i fusnesau yn yr ardal leol. Mae sgipiau o wahanol feintiau ar gael ar gyfer gwastraff cyffredinol ac ailgylchu.
Gallwn ddarparu sgipiau i ddiwallu pob un o'ch anghenion. Y meintiau sydd ar gael yw 12 llathen giwbig ac 16 llathen giwbig.
Mae taliadau'n seiliedig ar bris codi ynghyd â phwysau'r sgip. Caiff nodyn trosglwyddo dyletswydd gofal ei gynnwys yn y pris. Gall weithiau fod yn rhatach llogi un sgip fawr yn hytrach na dwy fach.
Mae'n bwysig nodi nad ydym ddarparu sgipiau i unigolion.
Pa ddeunyddiau na allaf eu rhoi yn fy sgip?
Ystyrir yr eitemau hyn yn wastraff peryglus; bylbiau golau, batris cerbydau, asbestos, oergelloedd, paent, rhewgelloedd, teiars, setiau teledu/monitorau, poteli nwy, tiwbiau fflwroleuol.
Os ydych chi angen cael gwared ar unrhyw un o'r uchod, ffoniwch ni ar 01792 796886 i wneud trefniadau arbennig.
Sut rwyf yn trefnu i'm sgip gael ei chasglu?
Cysylltwch â ni o leiaf 48 awr ymlaen llaw o'r adeg rydych am i'ch sgip gael ei chasglu. Rhaid symud sgipiau llawn i'w gwacáu cyn gynted â phosib.
Ni ddylid llwytho sgipiau i lefel uwch na'r llinell llwyth lefel, oherwydd diogelwch wrth gludo'r sgip.
Beth sy'n digwydd i'm gwastraff ar ôl i'r sgip gael ei chasglu?
Caiff y sgip ei chludo i'r ganolfan gwaredu gwastraff lle mae staff rheoli gwastraff yn penderfynu a ellir ailgylchu'r gwastraff. Bydd eitemau na ellir eu hailgylchu yn mynd i safle tirlenwi.
Gellir gadael sgipiau ar ddreif preifat neu ar dir preifat ac ni fyddai angen trwydded arnynt. Yn anffodus, ni allwn ddarparu sgipiau i'w defnyddio ar y briffordd gyhoeddus. Mae angen trwydded os ydych yn parcio sgip ar y briffordd gyhoeddus.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 796886 neu cysylltwch â Gwastraff Masnachol ac Ailgylchu.