Toglo gwelededd dewislen symudol

Siopwch yn Lleol, Siopwch yn Nhreforys

Mae gan Dreforys ystod o siopau, o siopau gemwaith, siopau atgyweirio esgidiau, gwerthwyr blodau a siopau anrhegion i siopau trin gwallt os ydych am faldodi'ch hun yn dilyn diwrnod o siopa.

Mae hefyd nifer o siopau coffi ac opsiynau o ran bwyd, felly os ydych chi'n byw neu'n gweithio yn yr ardal, dewch i weld yr hyn sydd ar gael.

Mae nifer o fasnachwyr lleol yn cynnig bag siopa ailddefnyddiadwy 'Siopwch yn Lleol' am ddim felly siopwch yn lleol ac ewch i gasglu eich un chi nawr.

Siopa'n lleol yw un o'r pethau y gall pobl ei wneud i gefnogi eu heconomi leol a sicrhau bod yr ardal yn elwa o swyddi ac arian. Er enghraifft, petai pawb yn Nhreforys yn gwario £5 yn ychwanegol bob wythnos yn eu busnesau annibynnol lleol, byddai hyn yn creu dros £3 miliwn* y flwyddyn ar gyfer economi Treforys.

Rhestr o fusnesau yn Nhreforys (Excel doc) [22KB]
Woodfield Street yn Nhreforys - cynllun 1 (rhwng cyffordd Slate Street a'r goleuadau traffig) (PDF) [2MB]
Woodfield Street yn Nhreforys - cynllun 2 (rhwng y cylchfan a chyffordd Slate Street) (PDF) [1MB]

Gwybodaeth am fusnesau: Mae'r wybodaeth sydd yn y dogfennau uchod yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd ym mis Medi 2024 (gan gynnwys newidiadau dilynol y cawsom wybod amdanynt). Os yw'r wybodaeth sy'n ymwneud â busnes neu sefydliad bellach wedi dyddio, rhowch wybod i ni.

Dewch i weld pam fod masnachwyr yn annog pobl i barhau i siopa'n lleol yn ystod y cyfyngiadau symud ac wedi hynny

Lansiwyd ymgyrch siopa'n lleol yn Nhreforys ym mis Tachwedd 2020, gyda chefnogaeth arian grant Llywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Trawsnewid Trefi.

totallylocally.org (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2024