Digwyddiadau'r haf am ddim yn boblogaidd iawn gyda phlant
Mae dwsinau o blant wedi bod yn mwynhau digwyddiadau'r haf a chiniawau am ddim mewn clwb cinio yn y ddinas, diolch i fenter a gefnogir gan gronfa trechu tlodi Cyngor Abertawe dros gyfnod yr haf.
Roedd plant o Glwb Cinio Sgeti wedi mwynhau trip am ddim i'r ffair bleser ar dir y Rec ar lan y môr yn ogystal ag ymweliadau eraill â'r LC a Crazy Climb dros yr haf, ac mae teithiau cwch a reidiau ar Drên Bach enwog Bae Abertawe i ddod.
Ymunwyd â'r plant ar eu hymweliad â'r ffair bleser gan Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, a ddywedodd fod digwyddiadau cymunedol a drefnwyd gan y clwb, ac eraill sy'n debyg iddo, yn galluogi plant i gael haf gwych yn y ddinas.
Mae menter Clwb Cinio Sgeti yn un o lawer o fentrau tebyg sy'n cael eu cynnal gan grwpiau cymunedol o gwmpas y ddinas, sydd wedi'u cefnogi gan gronfa bwyd yr haf y cyngor a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, i helpu i fwydo plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o fod yn newynog yn ystod y gwyliau chwe wythnos.
Hyd yn hyn mae 30 o sefydliadau wedi sicrhau cyfran o'r cyllid, sy'n ddigon i ddarparu 55,000 o brydau bwyd yn fras mewn ychydig wythnosau'n unig.