Toglo gwelededd dewislen symudol

Buddsoddiad wedi'i gynllunio i roi hwb i wasanaethau plant, dydd a phreswyl rheng flaen

Mae buddsoddiad o £2.5m wedi'i gynllunio i uwchraddio a gwella lleoliadau preswyl, gofal dydd a phlant a theuluoedd a gynhelir gan Gyngor Abertawe.

Swansea Space Generic

Gofynnir i gabinet y cyngor gymeradwyo'r gwariant ar y gwasanaethau rheng flaen yn ei gyfarfod nesaf.

Byddai'n golygu bod £1.2m yn cael ei fuddsoddi yn ystod y pedair blynedd nesaf i wella'r wyth cyfleuster preswyl a gynhelir gan y gwasanaethau cymdeithasol i oedolion.

Byddai £800 mil arall yn cael ei fuddsoddi yn yr 17 lleoliad sy'n darparu gwasanaethau dydd sy'n llinell fywyd i gynifer o bobl.

Gofynnir i aelodau'r cabinet hefyd gymeradwyo buddsoddiad o £500 mil yn hybiau cymorth cynnar y cyngor a gynhelir gan y gwasanaethau plant a theuluoedd.

Rydym am sicrhau bod plant a theuluoedd yn Abertawe yn cael mynediad at y gefnogaeth gywir, ar yr adeg gywir, gan y person cywir, ni waeth beth yw eu hoedran a'u lleoliad.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros y Gwasanaethau Gofal, Louise Gibbard, "Drwy weithio gyda staff, preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth rydym yn nodi gwaith uwchraddio a gwella hanfodol i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu amgylcheddau diogel, cadarn, hygyrch a chyfeillgar.

"Caiff y cyllid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer addasiadau mewnol ac allanol i wella cyfleusterau i ddiwallu anghenion unigolion a'u teuluoedd."