Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn cytuno ar fuddsoddiad arall yn y gwasanaethau cymdeithasol

Cytunwyd ar fuddsoddiad o £2.5m i uwchraddio a gwella lleoliadau preswyl, gofal dydd a phlant a theuluoedd a gynhelir gan Gyngor Abertawe.

Caring staff and patient

Mae'r cyngor wedi cytuno i fuddsoddiad o £1.2m dros y pedair blynedd nesaf i wella'r wyth cyfleuster preswyl a gynhelir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.

Byddai £800,000 arall yn cael ei fuddsoddi yn y 17 lleoliad sy'n darparu gwasanaethau dydd sy'n llinell fywyd i gynifer o bobl.

Mae aelodau'r cabinet hefyd wedi cymeradwyo buddsoddiad o £500,000 yn hybiau cymorth cynnar y cyngor a gynhelir gan y gwasanaethau plant a theuluoedd.

Rydym am sicrhau bod plant a theuluoedd yn Abertawe yn cael mynediad at y gefnogaeth gywir, ar yr adeg gywir, gan y person cywir, ni waeth beth yw eu hoedran a'u lleoliad.

 

Close Dewis iaith