Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau ysgol arbennig newydd yn cymryd cam arall ymlaen

Mae gwaith ar ysgol bwrpasol newydd i wella cyfleusterau'n sylweddol ac ehangu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ac awtistiaeth ddifrifol yn Abertawe wedi cymryd cam arall ymlaen.

Abc blocks - generic education pic

Abc blocks - generic education pic

Mae Cyngor Abertawe'n ceisio datblygu'r ysgol newydd ar dir ym Mynydd Garnllwyd Road. Disgwylir i'r gwaith gostio dros £40miliwn a dyma fydd y buddsoddiad fwyaf erioed mewn addysg anghenion arbennig yn y ddinas.

Unwaith caiff y gwaith ei gwblhau bydd disgyblion o ddwy ysgol arbennig bresennol Abertawe - Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-bryn - yn symud i'r datblygiad newydd o'r radd flaenaf.

Fel rhan o'r broses fydd angen cyfuno'r ddwy ysgol er bydd yr holl ddisgyblion yn aros yn eu hysgolion presennol nes bydd yr ysgol newydd yn barod yn 2028.

Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i hysbysiad statudol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni felly mae Cabinet y Cyngor bellach wedi cytuno i'r cyfuniad o fis Medi 2025.

Close Dewis iaith