Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofyn i'r Cabinet gymryd y cam nesaf tuag at sefydlu ysgol arbennig newydd

Gofynnir i Gabinet Cyngor Abertawe gymryd y cam nesaf mewn proses sy'n bwriadu adeiladu ysgol newydd a adeiladwyd at y diben, er mwyn gwella cyfleusterau'n sylweddol ac ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion yn y ddinas a chanddynt anghenion dysgu ychwanegol ac awtistiaeth ddifrifol.

Abc blocks - generic education pic

Abc blocks - generic education pic

Byddai'r buddsoddiad, y disgwylir iddo fod yn fwy na £40m, yn nodi'r buddsoddiad mwyaf erioed mewn addysg anghenion arbennig yn Abertawe.

Mae gan y ddinas ddwy ysgol arbennig ar hyn o bryd - Ysgol Crug Glas lle mae 55 o leoedd i ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog yn Nyfaty ac Ysgol Pen-y-Bryn lle mae 195 o leoedd i ddisgyblion ag anawsterau cymedrol i ddifrifol ac i ddisgyblion ag awtistiaeth ddifrifol.

Mae'r ddwy ysgol yn llawn ac mae gan y ddwy rai adeiladau sy'n dyddio nôl i'r 1960au, gydag Ysgol Pen-y-Bryn wedi'i rhannu dros ddau safle yn Nhreforys a Phen-lan.

Bwriedir adeiladu ysgol newydd o'r radd flaenaf gyda chost amcangyfrifedig o dros £40m yn lle'r rhain, ar dir gerllaw safle presennol Ysgol Pen-y-Bryn ar Mynydd Garnlwyd Road.

Byddai gan yr ysgol newydd, a allai agor yn 2028, 100 o leoedd ychwanegol i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig yn Abertawe, a lleihau'r angen i roi rhai disgyblion mewn ysgolion annibynnol a'r tu allan i'r sir.

Byddai hefyd yn lleihau pwysau ar ysgolion prif ffrwd a'u Cyfleusterau Addysgu Arbenigol.

Fel rhan o'r broses byddai Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-Bryn yn cael eu cyfuno, a gofynnwyd i ddisgyblion, rhieni a gofalwyr ac aelodau'r gymuned ehangach roi eu barn yn ystod tymor yr hydref.

Cafwyd cefnogaeth eang ar gyfer yr ysgol newydd felly gofynnir i aelodau'r cabinet gymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol er mwyn cyfuno'r ddwy ysgol ac i ystyried gwrthwynebiadau, os oes unrhyw wrthwynebiadau, mewn cyfarfod yn y dyfodol.