Toglo gwelededd dewislen symudol

Pobl ar wyliau gartref yn rhoi hwb i westai Abertawe, yn ôl adroddiad newydd

Mae pobl ar wyliau gartref sy'n ystyried Abertawe fel lle gwych i aros yn sicrhau mai hi yw un o'r cyrchfannau sy'n tyfu cyflymaf yn y DU o ran y galw am lety mewn gwesty.

Arena from above

Mae adroddiad newydd gan arbenigwyr eiddo tirol masnachol Colliers yn nodi bod y galw am lety'n dechrau mynd y tu hwnt i'r cyflenwad ac mae digon o alw y gall fod angen tri gwesty newydd yn ddinas yn y blynyddoedd nesaf.

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos mai Abertawe yw un o'r pum cyrchfan sy'n tyfu cyflymaf yn y DU ers y pandemig o ran ymweliadau â gwestai, wrth iddi gystadlu'n dda â dinasoedd fel Caerfaddon a Belfast.

Mae'r astudiaeth fanwl o Abertawe gan fewnwyr y diwydiant, tîm ymgynghori gwestai a chanolfannau gwyliau Colliers, yn dweud bod gwaith trawsnewid y ddinas, gan gynnwys safle newydd Arena Abertawe, yn creu cymaint o alw gan deithwyr hamdden a busnes y gallai fod angen tri gwesty newydd erbyn 2026.

Dyma rai o'i ganfyddiadau allweddol:

·       Mae dadansoddiadau'n awgrymu nad yw'r cyflenwad wedi cynyddu yr un mor gyflym â'r galw ac nid yw'r farchnad yn Abertawe'n darparu digon o lety ar hyn o bryd. Agorwyd y gwesty mawr diwethaf yn 2010.

·       Mae lefelau deiliadaeth yn uchel bob blwyddyn - oddeutu 78% ar hyn o bryd - ac mae mwy o alw anghyflawn yn y farchnad na'r disgwyl yn ystod y rhan fwyaf o fisoedd.

·       Trwy nodi a chymhwyso cyfraddau twf galw'r farchnad, nododd yr astudiaeth alw am 285-355 o ystafelloedd ychwanegol yn y farchnad ar erbyn 2026. Mae hyn yn awgrymu tri gwesty o faint sylweddol o bosib.