Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Strategaeth PREVENT ac adrodd am radicaliaeth ac eithafiaeth

Mae Strategaeth PREVENT, a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn 2011, yn rhan o strategaeth gwrthderfysgaeth genedlaethol gyffredinol sef CONTEST.

Nod y Strategaeth Prevent yw lleihau'r bygythiad i'r DU gan derfysgaeth drwy atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae'n canolbwyntio ar ddiogelu pobl sy'n agored i gael eu radicaleiddio neu eithafiaeth (treisgar a di-drais).

Mae gan Gyngor Abertawe'r rôl arweiniol wrth gyflwyno'r Strategaeth Prevent yn ardal yr awdurdod lleol hwn yn unol â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015.  Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid megis yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd Lleol, y Gwasanaethau Prawf, sefydliadau addysg bellach ac uwch ac ysgolion i enwi rhai.

Cyflwynir y strategaeth yn lleol drwy'r fframweithiau partneriaeth sy'n cynnwys 'Bwrdd Contest Bae'r Gorllewin ar gyfer Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot' a 'Phanel Channel Amlasiantaeth Abertawe'.

Mae'r broses 'Channel' yn rhan allweddol o'r Strategaeth Prevent. Mae'n ymagwedd amlasiantaeth i nodi unigolion sydd mewn perygl o gael eu denu i derfysgaeth, a darparu cefnogaeth iddynt. Gall Channel fod yn briodol i unrhyw un sy'n agored i gael ei ddenu i unrhyw ffurf ar derfysgaeth neu eithafiaeth. Mae'r rhaglen yn sicrhau bod plant ac oedolion diamddiffyn o unrhyw ffydd, ethnigrwydd neu gefndir yn derbyn cefnogaeth cyn i'r rhai fyddai am iddynt groesawu terfysgaeth yn cymryd mantais ar eu natur ddiamddiffyn, a chyn iddynt ddechrau cymryd rhan mewn gweithgarwch terfysgaeth droseddol.

Mae sawl ffurf ar eithafiaeth dreisgar a di-drais i'w gael, boed yn eithafiaeth dde neu chwith eithaf, eithafiaeth Islamaidd neu unrhyw ideoleg eithafol arall sy'n meithrin casineb rhwng ein cymunedau. Mae terfysgwyr ac eithafwyr treisgar yn droseddwyr sy'n ceisio tanseilio'r gwerthoedd cyffredin rydym oll yn eu rhannu.

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gadw'n sir a'r bobl ynddi'n ddiogel. Mae eithafiaeth a radicaleiddio yn ein cymuned yn fygythiadau go iawn i'n cymdeithas, a bod yn ymwybodol yw'r cam cyntaf. Gallwch helpu i leihau'r bygythiad gan derfysgaeth, radicaleiddio ac eithafiaeth drwy fod yn wyliadwrus.

Cydnabyddir strategaeth Prevent fel mater 'diogelu' a chaiff ei thrin yn yr un ffordd â phrosesau diogelu eraill a luniwyd i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed rhag niwed a chamdriniaeth.

Gweithredu i Drechu Terfysgaeth (ACT) yn gynnar

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan ACT (Action Counters Terrorism): Gweithredu i Drechu Terfysgaeth (ACT) yn gynnar | Atal radicaleiddio

Gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud os ydych chi'n poeni bod rhywun sy'n agos atoch yn mynegi barn eithafol neu gasineb, a allai arwain ato'n niweidio'i hun neu eraill. Mae dau fideo ar gael i'ch helpu chi i gysylltu â rhywun am help ac i'ch hysbysu sut y gallwn helpu i ddiogelu rhywun a allai fod yn agored i gael ei radicaleiddio.


Adrodd amdano

Bygythiad di-oed

Os ydych wedi gweld person yn ymddwyn yn amheus neu os ydych yn gweld cerbyd, pecyn neu fag heb neb yn gofalu amdano, symudwch o'r man hwnnw a ffoniwch 999.

Dim bygythiad di-oed

Os ydych yn pryderu am weithgarwch terfysgol posib neu os oes gennych unrhyw bryderon am unigolyn neu grŵp o unigolion a allai fod yn dangos arwyddion o fod yn agored i gael eu radicaleiddio, ac nid oes bygythiad di-oed, e-bostiwch swansea.prevent@swansea.gov.uk, gan roi cymaint o wybodaeth â phosib.  Neu, ffoniwch yr heddlu ar 101.

Gwybodaeth sydd i'w chael ar-lein

Os ydych wedi dod o hyd i wybodaeth, lluniau neu fideos anghyfreithlon neu niweidiol ar-lein, gallwch adrodd am eich pryderon yn ddienw.     

Close Dewis iaith