Strategaeth Trechu Tlodi 2025-2030
Ar y dudalen hon
1. Crynodeb gweithredol
Mae tlodi'n her fyd-eang gymhleth sy'n effeithio ar y gymdeithas gyfan. Yn Abertawe, rydym yn pennu cyfeiriad strategol ar gyfer trechu tlodi sy'n anelu at ddod â phawb at ei gilydd i rannu'r un diben ac ymrwymiad.
Mae gwrando ar yr arbenigwyr sydd â phrofiad bywyd o dlodi, dysgu gan y bobl hyn a chydweithio â nhw'n ganolog i hyn, gan roi eu llais a'u profiadau wrth wraidd datblygu atebion. Drwy ddilyn ymagwedd "Abertawe Gyda'n Gilydd", byddwn yn cydweithio i helpu pobl i osgoi tlodi, ei liniaru, mynd i'r afael ag ef, a lleihau ei effaith (ar lawer o bobl), mewn ffordd ddiogel.
Drwy sefydlu fframwaith cyson, llwybrau clir allan o dlodi ac egwyddorion cyffredin ar gyfer ein holl fentrau (gwasanaethau, rhaglenni, prosiectau, grantiau ac yn y blaen), gallwn gyflawni'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, sef:
- Cymorth yn gynharach i bobl sy'n profi tlodi neu sydd mewn perygl o hynny;
- Canlyniadau gwell gan gynnwys llwyddo i ddod o hyd i ffyrdd o ddianc rhag tlodi;
- Llai o dlodi yn Abertawe ar gyfer ein pobl a'n cymunedau.
Rydym yn cydnabod bod y weledigaeth hon yn uchelgeisiol a bod mynd i'r afael â thlodi'n gofyn am ymdrech, buddsoddiad ac ymroddiad sylweddol. Dyma ddechrau proses o gynnwys mwy o bobl yn ein cenhadaeth - yn enwedig y rheini sydd wedi profi tlodi neu sy'n ei brofi ar hyn o bryd - drwy gyd-gynhyrchu cynlluniau gweithredu, mentrau a fersiynau newydd o'r strategaeth hon yn y dyfodol.
Er bod Cyngor Abertawe'n arwain ar gyflawni'r weledigaeth hon drwy sefydlu fframweithiau, fforymau, rheolaethau a dulliau monitro, mae angen i'r holl bartneriaid gydweithio i wella bywydau a rhagolygon pobl yn Abertawe.
2. Ynglŷn â'r strategaeth hon
Cyhoeddodd Cyngor Abertawe'r fersiwn ddiwethaf o'r strategaeth hon - o'r enw 'Gweithio Tuag at Ffyniant i Bawb yn Abertawe' - yn 2017. Roedd yn nodi ymroddiad y cyngor i leihau tlodi a'r effaith y mae tlodi'n ei chael ar bobl yn Abertawe. Mae llawer wedi digwydd ers cyhoeddi fersiwn 2017 o'r strategaeth, gan gynnwys pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw.
Mae'r Strategaeth Trechu Tlodi ddiweddaraf hon yn cael ei chyflwyno fel ymrwymiad 'Abertawe Gyda'n Gilydd'. Rydym yn gwahodd partneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl leol â phrofiad bywyd a phrofiad o dlodi, y cyhoedd, cymunedau, sefydliadau'r sector preifat a'r sector gwirfoddol, i ymuno â ni ac ymrwymo i'r strategaeth hon.
Mae 'Cynllun Corfforaethol 2023 - 2028' Cyngor Abertawe'n disgrifio blaenoriaethau allweddol yr awdurdod lleol, sy'n ofyniad o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n disgrifio'r camau i'w cymryd i gyflawni'r amcanion lles hyn, ac un ohonynt yw:
Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau fel y gall pob person yn Abertawe gyflawni ei botensial.
Rydym yn cydnabod bod trechu tlodi'n her sy'n gofyn am fwy nag ymrwymiad un sefydliad yn unig. Mae'n gofyn am gydweithio, arloesedd a phenderfyniad gan lawer o bobl, sefydliadau, partneriaethau a chymunedau'n gweithio gyda'i gilydd. Byddwn yn adeiladu ar ein profiadau yn y gorffennol i gyflawni'r strategaeth hon a'n gweledigaeth ar gyfer dyfodol Abertawe.
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar negeseuon allweddol am ein cyfeiriad strategol ar gyfer trechu tlodi. Rydym wedi llunio dogfen atodol o'r enw 'Mwy am Dlodi yn Abertawe' sy'n cynnwys gwybodaeth gyd-destunol sy'n cefnogi'r ddogfen hon. Mae hefyd fersiwn hawdd ei darllen a fersiwn Saesneg o'r strategaeth hon.
Mae hefyd yn bwysig ein bod yn nodi'n glir yr hyn nad yw'r strategaeth hon yn ei wneud:
- Nid yw'r strategaeth hon yn cynnig yr holl atebion ymlaen llaw. Mae'n amlinellu i ba gyfeiriad y byddwn yn mynd i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir i bobl yn Abertawe;
- Ni fydd y strategaeth hon yn trechu tlodi ar ei phen ei hun ac rydym yn cydnabod bod angen newid arwyddocaol mewn polisi, cymdeithas a diwylliant cyn y gellid trechu tlodi yng Nghymru yn gyfan gwbl;
- Nid yw'r strategaeth hon yn fersiwn derfynol; mae tlodi'n her sy'n datblygu a byddwn yn parhau i addasu'r ddogfen hon.
3. Diffinio tlodi
Mae tlodi'n gysyniad byd-eang, cymhleth, strwythurol ac amlochrog sy'n golygu mwy na diffyg incwm yn unig. Yn y bôn, nid oes un diffiniad o dlodi a dderbynnir yn gyffredinol.
Yn Abertawe, bydd ein diffiniad o dlodi'n golygu nad ydych yn gallu fforddio'r holl hanfodion a chyfleoedd sylfaenol, gan effeithio'n negyddol ar eich bywyd. Mae esboniad pellach o'n diffiniad isod:
Mae tlodi'n golygu na allwch fforddio hanfodion sylfaenol (fel lle i fyw), gwasanaethau (fel cludiant), eitemau (fel bwyd) a chyfleoedd (fel cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol) weithiau neu drwy'r amser. Heb yr hanfodion hyn, bydd effaith negyddol ar eich ansawdd bywyd a'ch hawliau dynol sylfaenol dros gyfnod sylweddol o amser.
Mae tlodi'n cael ei fesur yn bennaf gan faint o arian sydd gennych chi a'ch teulu fel incwm gwario (a adwaenir fel y ffin tlodi) neu faint o arian y mae ei angen arnoch i sicrhau safon byw dda (a adwaenir fel y Safon Isafswm Incwm). Efallai yr ystyrir eich bod 'mewn tlodi' os ydych islaw'r mesurau presennol hyn er bod mwy o ddangosyddion na rhai ariannol yn unig. .
Mae dangosyddion tlodi'n cynnwyspa mor hawdd, fforddiadwy a chynaliadwy y gall pobl wneud y canlynol:
- aros yn iach, yn heini ac yn annibynnol;
- cael mynediad at wasanaethau o safon;
- ymuno mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a hamdden;
- bod yn rhan o benderfyniadau a datblygu gwasanaethau sy'n effeithio arnynt;
- goresgyn anghydraddoldebau a rhwystrau sy'n ei gwneud yn anos byw'n dda.
Gall tlodi effeithio ar unigolyn (o ran ei iechyd, ei addysg, ei ragolygon ar gyfer y dyfodol etc) neu deulu (o ran ei berthnasoedd, ei allu i ymateb i argyfwng etc) neu gymuned (o ran ei lles ar y cyd, ei chadernid, ei hunanddibyniaeth etc). Gall effeithio ar rai pobl yn fwy nag eraill yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Mae hefyd effeithiau a dylanwadau cymdeithasol ehangach ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae adnabod pwy sydd "mewn tlodi" yn anodd ac mae'r ddau brif fesur a ddefnyddir yn canolbwyntio'n bennaf ar statws ariannol. Ystyrir bod aelwydydd yn is na'r ffin tlodi os yw eu hincwm yn is na 60% o incwm canolrifol yr aelwyd ar ôl costau tai. Mae'r Safon Isafswm Incwm yn feincnod o'r incwm y mae ei angen ar gyfer cyfuniad o nwyddau a gwasanaethau sylfaenol y mae'r cyhoedd yn meddwl eu bod yn ofynnol i sicrhau safon byw sy'n dderbyniol yn gymdeithasol yn ôl math o aelwyd.
Rydym wedi diweddaru ein diffiniad yn seiliedig ar ddadansoddi diffiniadau sefydledig ochr yn ochr â sylwadau gan bobl yn Abertawe sydd wedi profi tlodi. Credwn y bydd ein diffiniad yn darparu'r sylfaen i ni gyflawni'r strategaeth hon a chanolbwyntio ar y materion sydd o bwys i'r rheini sy'n profi tlodi'n uniongyrchol.
Mae'n bwysig deall nodweddion penodol profiad pobl o dlodi. Drwy hyn, rydym yn golygu'r materion cyffredin hynny sy'n digwydd yn fynych, sy'n cyfleu gwir ystyr byw mewn tlodi. Rydym yn diffinio'r nodweddion neu'r dimensiynau hyn o dlodi yn y saith thema ganlynol - Amser am newid - Tlodi yng Nghymru | Audit Wales
Mae bod mewn tlodi'n golygu fy mod i'n cael anhawster gyda'r canlynol...
- Tai: Ni allaf fforddio fy addaliadau morgais / rhent, neu gallaf golli fy nghartref.
- Tanwydd ac Ynni: Ni allaf dalu fy mil trydan misol neu ni allaf fforddio prisiau petrol
- Dillad ac Esgidiau: Nod oes gennyf ddillad cynnes ar gyfer y gaeaf neu rwy'n dibynnu ar elusen ar gyfer dillad ac esgidiau.
- Bwyd a Dŵr: Nid wyf yn gallu bwyta'n iach neu ni allaf fforddio ymolchi / golchi fy nillad.
- Cyllid: Nid oes gennyf gynilion neu nid oes gennyf ddigon o incwm i dalu fy nghostau byw.
- Allgáu rhag Gwasanaethau: Nid oes gennyf gyfrifiadur, ffôn clyfar na gliniadur neu rwy'n teimlo fy mod I ar ymylon y Gwasanaethau y mae eu hangen arnaf.
- Emosiynol neu berthynas: Mae gennyf ddiffyg hyder a hunan-barch neu rwy'n profi cywilydd a stigma.
Mae tlodi'n amlddimensiynol, yn gymhleth, yn tyfu ac yn dwysáu. Mae'n golygu mwy na diffyg arian i ddiwallu anghenion sylfaenol. Mae tlodi'n deillio o amrywiaeth eang o ffactorau strwythurol, cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd, a digwyddiadau sy'n newid bywydau.
4. Gwybodaeth am Abertawe
Rydym yn cydnabod bod dod â thlodi i ben yn fater byd-eang sy'n gofyn am newid mawr ar sawl lefel o gymdeithas. Byddwn yn canolbwyntio ar ein gweledigaeth ar gyfer Abertawe a'r hyn sydd yn ein barn ni'n nod realistig ond uchelgeisiol ar gyfer y strategaeth hon.
Mae Abertawe eisoes yn:
- Hyrwyddo hawliau dynol- fe'i cydnabyddir fel Dinas Hawliau Dynol ac mae gan Abertawe weledigaeth ar gyfer cymunedau bywiog, amrywiol, teg a diogel sy'n seiliedig ar hawliau dynol cyffredinol. Abertawe oedd y cyngor cyntaf i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP);
- Lle noddfa- fe'i cydnabyddir fel rhan o'r rhwydwaith Dinasoedd Noddfa oherwydd ei hymrwymiad i greu diwylliant o groeso a lletygarwch, yn enwedig i ffoaduriaid sy'n chwilio am noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth;
- Lle ar gyfer dysgu - fe'i cydnabyddir fel Dinas Dysg gan Sefydliad Dysgu Gydol Oes UNESCO oherwydd ei diwylliant entrepreneuraidd sy'n datblygu'r economi ranbarthol ac yn creu ansawdd bywyd cynaliadwy i bawb.
Rydym wedi manylu ar ystyr tlodi yn ein dogfen atodol 'Mwy am dlodi yn Abertawe' ac rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth sy'n benodol i Abertawe.
5. Ein gweledigaeth
Mae ein gweledigaeth ar gyfer trechu tlodi, sy'n nodi'r "darlun mawr" ar gyfer dyfodol tlodi yn Abertawe, wedi'i diffinio isod:
Cymorth cynharach, canlyniadau gwell, llai o dlodi
Gall pobl gael mynediad at y cyngor, yr arweiniad, y gefnogaeth a'r cymorth cywir ar yr adeg gywir - yn seiliedig ar eu hanghenion - cyn i'w hanghenion gynyddu neu waethygu.
Mae cymunedau, sefydliadau a phobl â phrofiad bywyd o dlodi'n chwarae rôl hollbwysig wrth helpu eraill i ddianc rhag tlodi mewn modd diogel a chynaliadwy, er mwyn cyrraedd eu potensial a gwireddu eu bywyd gorau.
Mae llai o dlodi yn Abertawe oherwydd bod pawb yn cydweithio i gefnogi pobl a chymunedau.
Rydym yn credu bod y weledigaeth hon yn uchelgeisiol ond yn gyflawnadwy a byddwn yn gwybod ein bod wedi llwyddo pan fyddwn yn gallu dangos tystiolaeth bod Abertawe'n ddinas lle:
- mae hawliau'r unigolyn yn cael eu cynnal a'u blaenoriaethu yn ein holl waith;
- mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu ceisio cymorth i fynd i'r afael â thlodi, ac maent yn hyderus wrth wneud hynny;
- gall pobl ddisgwyl byw bywydau hapus, iach a boddhaus;
- gall pobl gael mynediad at gymorth cynnar i atal problemau rhag gwaethygu;
- gall pobl hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo, mwyafu eu hincwm a gwneud yn fawr o'u harian;
- mae cyfleoedd cyflogaeth yn gwella rhagolygon pobl;
- mae digartrefedd yn brin, yn para am gyfnod byr ac nid yw'n digwydd i'r un bobl eto;
- mae llais pobl â phrofiad bywyd yn arwain ein gwaith i drechu tlodi;
- mae gwasanaethau tlodi'n rhydd o stigma, wedi'u llywio gan drawma ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn;
- mae gwasanaethau tlodi'n fwy addas i'r rheini sy'n eu defnyddio ac maent wedi'u cynllunio i leihau'r baich ar bobl;
- mae gwasanaethau tlodi'n gweithio mewn partneriaeth i ddiwallu anghenion Abertawe.
Yn bwysig, mae'r weledigaeth hon yn seiliedig ar ein sefyllfa heddiw ac rydym am gynnwys mwy o bobl â phrofiad bywyd wrth fireinio a gwella'n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Cynhaliwyd Comisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe rhwng 2022 a 2024, y comisiwn cyntaf o'i fath yng Nghymru. Daeth â phobl â phrofiad bywyd o dlodi a'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau allweddol ynghyd i weithio gyda'i gilydd. Mae canlyniadau'r comisiwn cyntaf wedi llywio'r strategaeth hon ond rydym am barhau i roi'r rheini y mae tlodi'n effeithio arnynt wrth wraidd penderfyniadau am dlodi.
6. Sut byddwn yn mynd i'r afael â thlodi
Mae'r strategaeth hon yn nodi'r cyd-destun ar gyfer ein hymdrechion ac yn darparu ffocws strategol ar gyfer gweithio ar y cyd sy'n rhoi profiad bywyd o dlodi wrth wraidd yr ymdrechion hynny. Byddwn yn canolbwyntio ar ymatebion sy'n seiliedig ar gryfderau, yr unigolyn a data i helpu neu rymuso pobl i liniaru effeithiau tlodi a gweithio tuag at ddod yn rhydd o dlodi. Mae pedwar prif ymateb a fydd yn cyflawni hyn:
- Mwyafu incwm (hynny yw, cael mwy o arian);
- Lleihau costau (hynny yw, lleihau swm yr arian sy'n cael ei wario);
- Lliniaru effeithiau (megis help i ymdrin ag effeithiau tlodi);
- Cyflawni potensial (megis gwireddu syniad person o'i fywyd gorau)
Rydym yn deall y gall fod angen ymatebion lluosog ar berson sy'n profi tlodi, yn ogystal â lefelau lluosog o gefnogaeth gan sefydliadau gwahanol. Gall hyn achosi straen a dryswch. Mae gorfodi rhywun i ailadrodd ei stori sawl gwaith i wahanol bobl yn un enghraifft.
Rydym yn gwybod bod llawer o waith gwych eisoes yn cael ei wneud ond rydym wedi nodi themâu pwysig ar gyfer yr holl waith ar draws sectorau, gwasanaethau a sefydliadau. Mae themâu'n diffinio cwmpas yr ymagwedd strategol hon, gan ddisgrifio pynciau sy'n cael eu croesgyfeirio ar draws sefydliadau amryfal, a sbardunau megis polisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Thema | Disgrifiad |
---|---|
Canolbwyntio ar atal tlodi | Rydym eisiau atal tlodi cyn iddo ddechrau, gan fabwysiadu ymagwedd ataliol a gweithio ar y cyd i ddarparu cyfleoedd i adnabod y rheini sydd mewn perygl o brofi tlodi ac yna ymyrryd yn gynnar. |
Blaenoriaethu pobl mewn argyfwng tlodi | Rydym eisiau helpu pobl a chanddynt yr angen mwyaf neu sy'n wynebu'r perygl mwyaf i osgoi argyfwng neu ddianc rhag argyfwng, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth uniongyrchol sy'n cael yr effaith gadarnhaol fwyaf ar bobl a chymunedau. |
Lleihau tlodi a'i effeithiau | Rydym eisiau lleihau effeithiau tlodi ar unigolion, aelwydydd a chymunedau drwy amrywiaeth o wasanaethau a chyfleoedd sy'n eu galluogi a'u cefnogi. |
Gwella ffyniant personol | Rydym eisiau cefnogi pobl mewn tlodi i ddatblygu eu hyder a'u sgiliau a manteisio ar gyfleoedd sy'n eu galluogi i oresgyn cyfyngiadau tlodi iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd. |
Helpu pobl i ddianc rhag tlodi | Rydym eisiau helpu pobl a chymunedau i symud tuag at ddianc rhag cyfyngiadau tlodi drwy gyfuniad o fwyafu incwm, lleihau costau a lliniaru effeithiau tlodi. |
Grymuso cymunedau | Rydym eisiau galluogi'n cymunedau i ddefnyddio'u cryfderau a'u hasedau i chwarae rhan allweddol mewn helpu unigolion a theuluoedd i ddianc rhag cyfyngiadau tlodi. . |
Mae'r themâu hyn yn fan cychwyn ar gyfer diffinio'r camau ybyddwn yn eu cymryd a'r canlyniadau rydym yn bwriadu eu cyflawni mewn perthynas â threchu tlodi. Maent yn arddangos yr amrywiaeth eang o gefnogaeth y mae angen iddi fod ar gael, o fesurau ataliol ac ymyriadau cynnar i gefnogi pobl mewn argyfwng.
Mae'r themâu hyn yn fan cychwyn ar gyfer diffinio'r camau ybyddwn yn eu cymryd a'r canlyniadau rydym yn bwriadu eu cyflawni mewn perthynas â threchu tlodi. Maent yn arddangos yr amrywiaeth eang o gefnogaeth y mae angen iddi fod ar gael, o fesurau ataliol ac ymyriadau cynnar i gefnogi pobl mewn argyfwng.
Blaenoriaeth | Disgrifiad | Camau gweithredu |
---|---|---|
Hanfodion sylfaenol | Byddwn yn cymryd camau i helpu pobl mewn tlodi i fforddio'r hanfodion sylfaenol y mae eu hangen arnynt i oroesi (megis bwyd, dillad a chymorth ariannol), neu i gael gafael ar y pethau hyn. |
|
Tlodi plant | Byddwn yn cymryd camau i nodi a diwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae tlodi'n effeithio arnynt, er mwyn sicrhau nad oes effaith andwyol ar eu twf, eu datblygiad a'u rhagolygon. |
|
Cefnogaeth yn y gymuned | Byddwn yn cymryd camau i alluogi cymunedau i ddarparu cefnogaeth fwy uniongyrchol a lleol i bobl mewn tlodi, gan gynnwys helpu pobl i ymdrin ag effeithiau tlodi. |
|
Cynhwysiant digidol | Byddwn yn cymryd camau i helpu pobl i gael mynediad at y rhyngrwyd ac i wneud mwy o bethau ar-lein, a fydd yn eu helpu i osgoi tlodi, lliniaru tlodi neu ddianc rhag tlodi. |
|
Iechyd a lles | Byddwn yn cymryd camau i amddiffyn, gwella a chynnal yn ddiogel iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol a lles pobl sy'n byw mewn tlodi neu sydd mewn perygl o fyw mewn tlodi. |
|
Digartrefedd | Byddwn yn cymryd camau i gefnogi pobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref i sicrhau bod cartrefi, cefnogaeth ac adnoddau priodol ar gael i ddiwallu eu hanghenion. |
|
Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad | Byddwn yn cymryd camau i sicrhau y gall pobl gael mynediad at yr wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad diweddaraf yn y sianeli a'r fformatau sydd fwyaf addas a hygyrch iddynt. |
|
Stigma a gwahaniaethu | Byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o sut beth yw stigma ynghylch tlodi, a bod gan bawb yr wybodaeth i nodi stigma a gwahaniaethu, mynd i'r afael â'r rhain a'u hatal. |
|
Mae'r camau a restrir uchod yn fan cychwyn ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Rydym wedi nodi tasgau pwysig a fydd yn cychwyn y cyfeiriad strategol hwn, gan gynnwys:
- Cydgynhyrchu llwybrau cefnogi sy'n helpu pobl i ddianc rhag tlodi;
- Adeiladu ar berthnasoedd presennol â chymunedau, gweithwyr proffesiynol, gwasanaethau a chymheiriaid;
- Gwella data a deallusrwydd er mwyn i ni gael darlun llawn a chlir o dlodi yn Abertawe, gan adeiladu ar ddata, ymchwil a gwaith dadansoddi presennol i fonitro tueddiadau a newidiadau dros amser;
- Adolygu'r gwaith sydd eisoes ar y gweill a nodi buddugoliaethau cyflym a fydd yn rhoi'r momentwm i ni gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y strategaeth hon;
- Cynnwys mwy o bobl sydd â phrofiad bywyd wrth gyflawni'r strategaeth, gan gydnabod eu bod yn arbenigwyr drwy brofiad a'u bod wrth wraidd ein hymdrechion i drechu tlodi.
Bydd ein hymagwedd yn sicrhau bod yr holl bartïon sy'n ymwneud â chyflawni'r strategaeth hon yn gwreiddio ac yn defnyddio cyfres o egwyddorion cyffredin ym mhopeth y maent yn ei wneud:
Egwyddor | Disgrifiad | Pam mae hyn yn bwysig? |
---|---|---|
Yn seiliedig ar brofiad bywyd | Byddwn yn sicrhau bod llais y bobl â phrofiad bywyd yn allweddol i'n gwaith o gyflawni'r strategaeth hon, a bod gan bobl â phrofiad bywyd gyfle i gymryd rhan. | Mae profiad bywyd o dlodi'n hanfodol i sicrhau bod ein gweithredoedd, ein gwasanaethau a'n mentrau'n cael eu cynllunio a'u cyflwyno yn y ffordd orau bosib i ddiwallu anghenion pobl mewn tlodi (fel a ddiffinnir gan y bobl hynny). |
Yn seiliedig ar dystiolaeth | Byddwn yn sicrhau bod data perthnasol, dealltwriaeth, ymchwil a dadansoddiad yn sail i'n gwaith o gyflawni'r strategaeth hon, a bydd y rhain hefyd yn llywio'n gwerthusiad o ba mor llwyddiannus ydym wrth drechu tlodi. | Mae gwybodaeth ansoddol a meintiol yn hanfodol i sicrhau bod ein gwaith yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion pobl mewn tlodi a'i fod yn berthnasol i hynny, yn ogystal â chefnogi ein dulliau o adrodd a gwerthuso sut rydym yn cyflawni ein nodau. |
Cynnig cymorth gydag urddas | Byddwn yn sicrhau bod pobl mewn tlodi'n cael eu trin ag urddas a pharch bob amser, gan ymgorffori egwyddorion pwysig megis empathi, tosturi ac ymagwedd sy'n seiliedig ar hawliau yn ein gwaith. | Er y bydd yr holl gamau, gwasanaethau a mentrau rydym yn eu darparu yn amrywio'n fawr, mae'n hanfodol bod pawb sy'n rhan o hyn yn ymrwymo i ddeall a pharchu hawliau ac anghenion pobl mewn tlodi, y mae llawer ohonynt yn agored i niwed neu mewn argyfwng. |
Ymatebion gwerth gorau | Byddwn yn ymdrechu i wneud y defnydd gorau o'r cyllid a'r adnoddau sydd ar gael i ni, gan gydnabod y byddai'n ddoeth yn y rhan fwyaf o achosion i fuddsoddi yn y camau gweithredu a'r blaenoriaethau sy'n cael yr effaith fwyaf ar dlodi yn Abertawe. | Rydym yn cydnabod yr her sy'n gysylltiedig â threchu tlodi dan gyfyngiadau a phwysau economaidd sylweddol, felly mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i ddarparu'r gwerth gorau ar gyfer ein poblogaeth yn gyffredinol, ac i geisio clustnodi arian i'r lleoedd y mae arnynt ei angen fwyaf. |
Yn seiliedig ar yr unigolyn bob amser | We will ensure that the help and support that we provide to individuals, families and households is tailored to meet their needs, focusing on their strengths, aspirations and circumstances. | A person-led approach means that the individual is supported to take the lead on their own care, where they are respected, treated with dignity and confidentiality, and given responsibility for their own care and independence (with support, coordination and enabling services). |
Teg a chyfartal | Byddwn yn ymdrechu i gyrraedd nod yn Abertawe lle mae gan bawb y cyfleoedd a'r asedau i gyflawni eu diffiniad o fywyd da, gan fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n sail i'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag gwireddu eu potensial llawn. | Mae profiadau pobl yn dangos i ni fod rhai pobl a chymunedau'n cael mwy o anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau neu wrth gael help, felly dylem ganolbwyntio ar ddosbarthu adnoddau mewn modd tecach a mwy cyfartal wrth dargedu camau gweithredu i oresgyn y rhwystrau y mae'r bobl hynny'n eu hwynebu. |
Bydd angen i bob sefydliad, gwasanaeth a thîm gydbwyso gofynion y strategaeth hon yn erbyn ei flaenoriaethau, ei ddiwylliant a'i gyfyngiadau ei hun. Er bod gan bob partner reolau, prosesau a dibyniaethau gwahanol, dylem oll rannu'r un set o werthoedd ac egwyddorion yn y ffordd rydym yn gweithredu.
7. Rhoi'r strategaeth hon ar waith
Allbynnau allweddol
Ein prif allbwn wrth gydlynu'r gwaith o roi'r strategaeth hon ar waith fydd ein 'Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi', dogfen fyw rydym yn ei hadolygu a'i chynnal yn barhaus.
Mae'r strategaeth hon yn sylfaen i gyflawni newid ond mae hefyd yn fan cychwyn ar gyfer datblygiad pellach gyda'n partneriaid, ein cefnogwyr ac, yn hollbwysig, bobl â phrofiad bywyd o dlodi. Rydym yn bwriadu adnewyddu'r strategaeth hon yn rheolaidd gan ddefnyddio dulliau cydgynhyrchu i wreiddio llais pobl â phrofiad bywyd drwy gydol y gwaith hwn.
- Hyrwyddo'r strategaeth a gwahodd ymrwymiad gan bawb rydym yn ymgysylltu ag ef;
- Dechrau'n syth gyda'n 'buddugoliaethau cyflym' i greu momentwm a darparu buddion gwirioneddol i bobl mewn tlodi yn Abertawe;
- Cynnwys pobl â phrofiad bywyd o dlodi yn ein trefniadau llywodraethu a chynllunio camau gweithredu;
- Gwahodd partneriaid, rhanddeiliaid a sefydliadau eraill i ymrwymo i'r strategaeth hon.
Llywodraethu
Byddwn yn sefydlu model llywodraethu clir sy'n goruchwylio'r broses o roi'r strategaeth ar waith. Bydd Cyngor Abertawe'n goruchwylio'r model llywodraethu hwn ond byddwn yn gwahodd partneriaid a rhanddeiliaid i ymuno â grwpiau perthnasol yn seiliedig ar eu cwmpas, eu cyfranogiad a'u cyfrifoldebau. Isod mae amlinelliad o'r model llywodraethu presennol:
1. Pwyllgor Trawsnewid Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Threchu Tlodi Cyngor Abertawe.
2. Gwasanaeth Trechu Tlodi
2.1 Fforwm Partneriaeth Tlodi
2.2 Grŵp Goruchwylio Gwasanaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe
3.1 Grwpiau Fforwm: Hysbysu rhanddeiliaid mewnol / allanol am gynnydd a rhannu gwybodaeth am elfennau allweddol o'r strategaeth.
3.2 Grwpiau Partneriaeth: Rhanddeiliaid, gan gynnwys partneriaid a sefydliadau, sy'n cydweithio i gyflawni elfennau o'r strategaeth megis prosiectau neu wasanaethau.
3.3 Grwpiau Llywio: Rhoi camau blaenoriaeth ar waith drwy grwpiau cydlynol o berchnogion camau gweithredu ac arweinwyr gweithredol sy'n cyflawni newidiadau trawsnewidiol.
Un grŵp pwysig y byddwn yn ei sefydlu yw Fforwm Profiad Bywyd, sef y prif grŵp ar gyfer cydlynu ein cyswllt â phobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi. Caiff y cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp hwn ei gyd-gynhyrchu â chomisiynwyr o Gomisiwn Gwirionedd Tlodi Abertawe. Byddwn hefyd yn archwilio sut i sefydlu model tebyg ar gyfer plant a phobl ifanc y mae tlodi'n effeithio arnynt.
Wrth i ni roi'r strategaeth hon ar waith, byddwn yn nodi ac yn diffinio ymagwedd glir at ymgysylltu a chyfranogiad sy'n elwa o drefniadau, rhwydweithiau a pherthnasoedd presennol yr holl bartïon.
Hyrwyddo ein hymdrechion
Rydym eisiau hysbysu cymunedau am newidiadau yn eu hardal, rhannu newyddion â'n huwch-randdeiliaid a hyrwyddo'n llwyddiannau a'n cyflawniadau'n gyhoeddus. Bydd gan bob sefydliad bolisïau a gweithdrefnau mewnol ar gyfer tasgau megis defnyddio cyfryngau cymdeithasol ond byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn gynhwysol i hyrwyddo cyflawni'r strategaeth hon yn gyffredinol.
Monitro ac adrodd
Bydd ein dull monitro'n cynnwys coladu a gwerthuso data gan bartïon sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at ein gweithredoedd, ein blaenoriaethau, ein canlyniadau a'r gwaith ehangach o roi'r strategaeth ar waith. Bydd safonau, prosesau a thempledi penodol yn cael eu datblygu'n seiliedig ar arfer gorau fel rhan o sefydlu'n dull llywodraethu.
Bydd ein dull adrodd yn cynnwys casglu, storio, dadansoddi a chyflwyno data gan yr holl bartïon yn rheolaidd. Bydd safonau, prosesau a thempledi penodol yn cael eu datblygu'n seiliedig ar arfer gorau fel rhan o sefydlu'n dull llywodraethu.
Fframwaith perfformiad
Byddwn yn datblygu 'Fframwaith Perfformiad ar gyfer Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau' a fydd yn disgrifio'r cysylltiad rhwng ei holl themâu, canlyniadau, dangosyddion a mesurau perfformiad. Dyma adnodd hanfodol i unrhyw un sy'n cyfrannu at y strategaeth hon gan y bydd yn dangos sut mae pob menter yn cyfrannu'n uniongyrchol, a sut i fonitro'r cyfraniad hwnnw ac adrodd amdano.
Rydym yn cydnabod bod yr ymagwedd hon yn cynnwys cysylltiad cryf rhwng trechu tlodi a galluogi'n cymunedau (p'un a ydynt yn gymunedau daearyddol neu'n grwpiau o bobl sy'n rhannu nodweddion neu ddiddordebau cyffredin) i chwarae rhan weithredol wrth gyflawni'n gweledigaeth.
Yn ein barn ni, y nod yn y pen draw yw helpu pobl a chymunedau i fod mor gryf, gwydn, cadarn, cysylltiedig a ffyniannus ag y gallant fod.
Gwerthuso
Wrth i ni roi'r strategaeth hon ar waith, rydym am gynnal gweithgareddau gwerthuso. Mae gwerthusiadau'n ein helpu i asesu cynnydd yn wrthrychol a darparu sicrwydd i bob parti y bydd y gwaith rydym wedi'i gynllunio yn cael ei gyflawni ac y bydd yn cyflawni canlyniadau go iawn. Bydd ein hallbynnau gwerthuso ar gael i alluogi pob parti i ddeall y cynnydd rydym yn ei wneud, a dysgu gwersi.
8. Ein hymrwymiad
Wrth i ni ddechrau ar y strategaeth hon gan ddilyn ymagwedd 'Abertawe Gyda'n Gilydd', rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i weithio gyda'n gilydd gyda gweledigaeth, egwyddorion ac amcanion a rennir.
Ein hymrwymiad i drechu tlodi
Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid yn Abertawe i roi'r ymagwedd strategol hon at drechu tlodi ar waith, yn unol â'r egwyddorion canlynol:
- Yn seiliedig ar brofiad bywyd
- Yn seiliedig ar dystiolaeth
- Cynnig cymorth gydag urddas
- Ymatebion gwerth gorau
- Yn seiliedig ar yr unigolyn bob tro
- Teg a chyfartal
Mae'r ymrwymiad hwn yn cynnwys gwrando ar bobl â phrofiad bywyd o dlodi a dysgu ganddynt i barhau i adnewyddu'n cyfeiriad strategol, gwella'n gwasanaethau, cyflawni camau gweithredu gyda'n gilydd a sicrhau bod popeth a wnawn yn canolbwyntio ar gynnal hawliau a diwallu anghenion ein pobl a'n cymunedau.
Bydd Gwasanaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe'n cydlynu, yn cynnal, yn rhannu ac yn adrodd am y strategaeth hon a'r cynllun gweithredu. Bydd Gwasanaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe'n darparu adborth rheolaidd a diweddariadau am gynnydd.
9. Casgliad
Mae'r ddogfen hon yn nodi'r ymagwedd y byddwn yn ei dilyn dros y pum mlynedd nesaf yn ein hymdrechion i drechu tlodi yn Abertawe. Mae'n cyflwyno'r nodau rydym am eu cyflawni yn ystod cyfnod y strategaeth hon ac yn pennu ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Ar ôl darllen y strategaeth hon, os hoffech ddarganfod mwy am gymryd rhan a chyflawni'n gweledigaeth, sef cymorth cynharach, canlyniadau gwell, llai o dlodii bobl yn Abertawe, cysylltwch â ni: tacklingpoverty@abertawe.gov.uk
