Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth ailbwrpasu canol dinas Abertawe

Mae stori drawsnewid gwerth £1 biliwn yn digwydd yn Abertawe diolch i fuddsoddiad sylweddol gan y cyngor, partneriaid sector cyhoeddus eraill, y sector preifat a Llywodraethau'r DU a Chymru drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

O ganlyniad i'r buddsoddiad sylweddol hwn, ystyrir Abertawe bellach fel un o'r dinasoedd sydd yn y sefyllfa orau i ddenu rhagor o swyddi a buddsoddiad wrth iddi ddod drwy'r pandemig.

Rydym yn flaenllaw mewn sawl datblygiad gan ein bod wedi neilltuo buddsoddiad sylweddol ar gyfer cyfres o brosiectau a gwelliannau. Mae gennym y rhaglen gyfalaf ail uchaf yng Nghymru ac yn ddiweddar, cyhoeddom raglen adfywio gwerth £20 miliwn yn benodol er mwyn cynorthwyo busnesau a chymunedau i adfer o'r pandemig.

Fodd bynnag, mae canol dinasoedd ledled y DU wedi gweld newidiadau sylweddol yn y blynyddoedd diweddar o ganlyniad i'r newid i siopa ar-lein a cholli nifer o fanwerthwyr amlwg iawn. Felly, i sicrhau bod trawsnewidiad canol dinas Abertawe yn parhau i gyflwyno gwelliannau cadarnhaol i breswylwyr ac ymwelwyr, aethom ati i gomisiynu adolygiad o'r cynnig manwerthu a hamdden cyfredol, â'r bwriad o nodi cyfleoedd pellach i barhau adfywiad cynaliadwy canol y ddinas. Mae'r casgliadau a'r mewnwelediadau a gafwyd o'r adolygiad wedi llywio uwchgynllun diwygiedig, lefel uchel ar draws y ddinas, yn ogystal â strategaeth ar sut i fanteisio i'r eithaf ar y craidd manwerthu presennol a mynd i'r afael â rôl newidiol canol y ddinas.

Mae strategaeth ailbwrpasu canol dinas Abertawe yn nodi'r ymyriadau allweddol posib i'w datblygu i fynd i'r afael ag effeithiau COVID a natur newidiol sector manwerthu'r DU ac anghenion defnyddwyr. Mae'r strategaeth arfaethedig yn adeiladu ar y strategaeth adfywio gyfredol a ddisgrifiwyd yn fframwaith adfywio ardal ganolog Abertawe (2016) a'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn swyddfeydd a mannau gweithio, hamdden ac adloniant, cartrefi a llety, gwell cysylltiadau cludiant, gwelliannau i fannau cyhoeddus a rhagor o wyrddni yng nghanol y ddinas.

Nodwyd rhestr fer o ymyriadau posib i fynd i'r afael ag adeiladau, mannau cyhoeddus a pholisi sy'n cynnwys:

  • cadw hen adeilad Debenhams fel uned fanwerthu
  • rhoi hwb i Farchnad Abertawe drwy wella'i mynedfeydd
  • gwella golwg y pyrth allweddol i mewn ac allan o ganol y ddinas gyda chelf gyhoeddus a rhagor o wyrddni
  • cyflwyno marchnad bwyd stryd newydd gyda chysylltiadau â Marchnad Abertawe a Chanolfan Siopa'r Cwadrant
  • creu ardal gyhoeddus newydd i deuluoedd wrth y gyffordd rhwng Stryd Rhydychen a Portland Place, gan gynnwys cyfleusterau chwarae a seddi

Cyflwynir strategaeth ailbwrpasu canol dinas Abertawe i'r Cabinet ar 16 Medi 2021 ac os caiff ei chymeradwyo, caiff gwaith ei wneud i archwilio ymhellach i bob cynnig a ffynonellau ariannu posib. Byddai ymgynghoriad hefyd yn cael ei gynnal â phreswylwyr a busnesau.

Strategaeth ailbwrpasu canol dinas Abertawe (PDF) [70MB]

Swansea city centre repurposing strategy: appendix 1 - movement and transport (PDF) [25MB]

Close Dewis iaith