Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth Atal ar gyfer Abertawe

Nod Strategaeth Atal gyntaf Cyngor Abertawe yw cyflwyno gwasanaethau cynaliadwy sy'n diwallu anghenion pobl ac yn cyflawni canlyniadau gwell.

  1. Crynodeb Gweithredol
  2. Cyd-destun Strategol
  3. Pam ymyrryd?
  4. Sylfaen dystiolaeth
  5. Ein hymagwedd
  6. Canlyniadau ar gyfer y strategaeth
  7. Llywodraethu 
  8. Cynllun Cyflawni 
  9. Atodiad A 

1. Crynodeb Gweithredol

Yn llawn egwyddorion Abertawe Gynaliadwy, mae'r strategaeth hon yn trafod cyflwyno mwy o wasanaethau cynaliadwy sy'n diwallu anghenion pobl ac yn darparu canlyniadau gwell. Mae'n ymwneud â chefnogi datblygiad y gymuned a'r ffabrig trefol sydd â chadernid ac annibyniaeth yn y dyfodol, a hynny yn y tymor canolig a'r tymor hir. Mae ein dinasyddion yn ganolog i'n dyfodol a'r hyn rydym yn ei gyflawni, ac felly, nhw yw ffocws ein datblygiadau, wrth ysgogi cydweithio trawsbynciol ar draws adrannau'r cyngor a chyda phartneriaid. O ganlyniad i hyn, mae'r strategaeth hon yn rhan allweddol o'n rhaglen trawsnewid corfforaethol a'r ffordd y byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau gyda'n partneriaid. Mae ein gwaith gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe a thrwyddo'n hanfodol at ddibenion cyflwyno gwasanaethau yma yn y dyfodol.
 
Mae'r cyngor yn wynebu heriau digynsail. Mae galw cynyddol, newidiadau demograffig, disgwyliadau cyhoeddus a phwysau cynyddol ar gyllidebau'n golygu bod y dewis ar gyfer awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn un anodd. Hefyd mae'n rhaid sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi pobl i ddod yn wydn ac i gyflawni'r canlyniadau maent am eu gweld yn eu bywydau eu hunain a fydd, yn ei dro, yn lleihau'r galw ar wasanaethau. Oni bai ein bod yn lleihau'r galw ac yn atal angen rhag dwysáu, daw darpariaeth gwasanaeth yn ei ffurf bresennol yn anghynaliadwy. Fodd bynnag, nid lleihau'r galw am wasanaethau'n unig yw'r nod yma.
 
Mae Cyngor Abertawe wedi mabwysiadu ymagwedd ataliaeth erioed. Daeth hyn yn sgîl cydnabyddiaeth hir sefydlog bod gweithgarwch atal yn well, yn cymryd llai o amser ac, yn y pen draw, yn llai costus a niweidiol i unigolion a sefydliadau na gwella. Mae'r strategaeth hon yn cyflwyno cyfeiriad mwy uchelgeisiol, gan adeiladu ar waith a wnaed eisoes a chan gydnabod bod gan bawb, gan gynnwys partneriaid a rhanddeiliaid, rôl i'w chwarae yn yr agenda ataliol hon. 
 
Dau nod allweddol sy'n gyrru'r strategaeth hon: 

  • Dyhead am fwy o gadernid sefydliadol a phersonol, 
  • Gwasanaethau cynaliadwy.

Er mwyn i hyn weithio, bydd rhaid i ni barhau â'r newidiadau diwylliannol a ddechreuodd gyda chyflymiad yr ymagwedd atal dair blynedd yn ôl, a'u gwella, gan gefnogi agenda newid trawsnewidiol Abertawe. Bydd yn rhaid i ni feddwl yn wahanol, gan annog atebion blaengar i broblemau presennol a rhai sy'n codi. Mae hefyd yn rhaid i ni fod yn glir nad yw arbedion yn gyrru'n hagenda - gwasanaethau gwell, mwy personol a chydlynol sy'n gwneud hynny. 
 
Mae'r strategaeth hon yn nodi ein hymagwedd gorfforaethol a phartneriaeth drosgynnol tuag at atal, yn ogystal â nodi ein gweithgareddau allweddol a'n canlyniadau disgwyliedig. Mae'n dechrau wrth gyflwyno ein rhesymeg a sut mae hyn yn cefnogi polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys ein cynllun ar gyfer Abertawe Gynaliadwy. Yna, cynigwn dystiolaeth, sy'n cyfiawnhau angen ymhellach, ein rhesymau dros ymyrryd a'n hymagwedd. Rydym wedi nodi ein hanes cyflwyno yn y maes hwn, yn ogystal â'n llwyddiannau cynnar, gan roi rhagflas o'r hyn y gall gweithgarwch atal ei gyflawni. Yna, mae ein strategaeth yn disgrifio ein hangen a'n hawydd i leihau'r galw am wasanaethau ymyriad dwys, cyn disgrifio'r model atal gorau posib. Yn olaf, rydym yn darparu gwybodaeth am lywodraethu i ddangos sut byddwn yn cyflwyno a bydd cynllun gweithredu amserlen benodol yn disgrifio'n gweithgareddau'n fanylach, yn rhoi gwybodaeth am y sawl sy'n atebol am eu cyflwyno a phryd rydym yn bwriadu eu cyflawni. Yn y pen draw, rhaid i'r Strategaeth Atal a'i gweithredu gynyddu a gwella diwylliant o atal ac ymyrryd yn gynnar ar draws y cyngor.
 
Mae'r cyngor yn ymrwymo i ymagwedd Buddsoddi i Arbed dros gyfnod o ugain mlynedd. Lle byddwn yn cydnabod angen, caiff achosion busnes unigol ar gyfer ymyriad arfaethedig eu cyflwyno, gan arwain at gynllun gweithredu a buddsoddi gwybodus am sut i gyflwyno'r strategaeth hon. 
 
Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y strategaeth hon. Yn fwy na hynny, edrychwn ymlaen at weithio gyda phobl a phartneriaid lleol yn y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector wrth gyflwyno gwasanaethau, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl leol, gwella ansawdd eu bywydau a chyfrannu at Abertawe Gynaliadwy'. 

2. Cyd-destun Strategol

Asesiad Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Lluniwyd Asesiad Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe (BGC). BGC Abertawe yw'r grŵp partneriaeth trosgynnol ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn Abertawe. Mae'n amlygu'r ffaith bod 'gweithio mewn partneriaeth yn bwysicach nag erioed' wrth i ni weithio fel rhan o Dîm Abertawe.

Mae'r pwysau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol gynyddol anos ar wasanaethau cyhoeddus, ynghyd â gostyngiadau sylweddol mewn cyllid cyhoeddus yn golygu bod rhaid i ddarparwyr gwasanaeth gydweithio mewn ffyrdd sy'n fwy blaengar nag erioed i gynyddu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ac i leihau'r dibyniaeth ar ymyriadau dwys a drytach.
 
Mae Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe'n amlinellu chwe blaenoriaeth, sef: 

  • Dechrau da mewn bywyd i blant
  • Pobl yn dysgu'n llwyddiannus
  • Swyddi da i bobl ifanc ac oedolion
  • Safonau byw da
  • Pobl yn iach, yn ddiogel ac yn annibynnol
  • Lleoedd da i bobl fyw a gweithio ynddynt 

Wrth ystyried y strategaeth hon mewn cyd-destun Asesiad Lles BGC, rydym wedi llunio ein hamcanion i gyd-fynd â chwe phennawd i'w gweithredu. Cyfeirir at y rhain yn hwyrach yn y strategaeth hon a chyda'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig. Bydd 'Cynllun Lles' y BGC, sydd i'w gyhoeddi ym mis Mai 2018, yn disodli hyn. Byddwn yn adolygu ein cynllun cyflawni i sicrhau perthnasedd parhaol. 

Rhaglen Abertawe Gynaliadwy 

Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol yw ein cynllun tymor hir ar gyfer newid. Mae angen ymagwedd radical at yr heriau ariannol, demograffig a chymdeithasol sy'n wynebu Abertawe. Rhaglen o weithgareddau, dulliau a thechnegau yw Abertawe Gynaliadwy a fydd yn ein helpu i ddilyn ymagwedd wedi'i rheoli at y newidiadau sy'n wynebu'r cyngor fel sefydliad. Yr amcanion yw: trawsnewid gwasanaethau; cyflwyno canlyniadau gwell i breswylwyr; cyflawni cynaladwyedd ariannol. 
 
Mae ymagwedd cyngor cyfan yn llawer mwy tebygol o fwyafu effaith o gymharu â gweithredu'n unigol. Mae'n cynnwys pedair blaenoriaeth ar gyfer cyngor cynaliadwy, gan gynnwys ataliaeth. 
Diben craidd y cyngor yn y dyfodol 

  • Trawsnewid gwasanaethau a'r model cyflawni 
  • Cydweithio'n agos gydag eraill, gan gynnwys preswylwyr 
  • Atebion cynaliadwy gydag ataliaeth yn ganolog iddynt 

Mae'r ymagwedd a ddisgrifir yn y Strategaeth Atal hon felly'n cefnogi ein hagenda drawsnewid ehangach, gan hyrwyddo mwy o wydnwch i breswylwyr sydd, yn ei dro, yn cyflwyno mwy o ganlyniadau gwell a chynaliadwy i unigolion. Ar yr un pryd, mae'r ddibyniaeth ar wasanaethau drytach yn lleihau. 

Cynllun Corfforaethol

Mae pum amcan lles Cynllun Corfforaethol Abertawe'n amlinellu ein huchelgeisiau a'n hymrwymiadau i breswylwyr a sut y byddwn yn gweithio er mwyn bodloni heriau'r presennol a'r dyfodol: 

  • Diogelu pobl rhag niwed 
  • Gwella addysg a sgiliau 
  • Trawsnewid ein heconomi a'n hisadeiledd 
  • Trechu Tlodi 
  • Trawsnewid a Datblygu'r Cyngor yn y Dyfodol

Mae ataliaeth yn un o'r egwyddorion sy'n sail i'r amcanion lles hyn.

Llywodraeth Cymru 

Mae gan Lywodraeth Cymru lun ac ymagwedd genedlaethol at ataliaeth drwy ddeddfwriaeth newydd, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Mae'r syniad o ymgorffori ataliaeth yng ngwaith y cyngor nid yn unig yn adeiladu ar ofynion cenedlaethol, ond hefyd yn pwysleisio 
'ymagwedd Abertawe' at ei gyflawni. Yn ychwanegol, mae'n hanfodol bod ein hymagwedd ataliol yn cyd-fynd â chyfeiriad ehangach Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu'n lleol drwy'r cyngor a'r BGC. Dangosir y cyd-destun strategol ehangach isod: 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  1. Mae'n rhaid i wasanaethau'r cyngor ystyried elfennau integreiddio, cyfranogaeth, cydweithio ac ataliaeth tymor hir yr egwyddor datblygu cynaliadwy.
  2. Mae ataliaeth yn nodi'n benodol bod angen 'trefnu adnoddau i atal problemau rhag digwydd drosodd a throsodd neu waethygu er mwyn bodloni amcanion lles y cyngor neu sefydliadau eraill.' 
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru lachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlnus
  • Cymru a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Mae gan y Ddeddf gylch gwaith eang sy'n effeithio nid yn unig ar wasanaethau cymdeithasol, fel y mae'r enw'n ei awgrymu, ond hefyd ar waith amrywiaeth o wasanaethau'r awdurdod lleol megis tai, addysg, hamdden, adfywio, tlodi a'i atal ac, yn benodol, y Bwrdd Iechyd Lleol a darparwyr y trydydd sector a'r sector preifat. Mewn rhai achosion, darperir gwasanaethau drwy Raglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae'r Gorllewin drwy gynsail ranbarthol. O dan adran 2 y Ddeddf, Swyddogaethau Cyffredinol, nodir dyletswydd i: 

  • Hyrwyddo lles; 
  • Darparu gwasanaethau ataliol; 
  • Hyrwyddo mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd, gwasanaethau dan arweiniad defnyddwyr a'r trydydd sector;
  • Darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA). 

Wrth i'r cyngor gyflawni'r Strategaeth Atal rhaid iddo ystyried gofynion y ddwy Ddeddf, ynghyd â deddfwriaeth ychwanegol, megis y Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a Bil yr Amgylchedd 
(Cymru) 2016. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Bae'r Gorllewin i sicrhau bod Egwyddorion Fframwaith Atal Bae'r Gorllewin a Strategaeth Atal Cyngor Abertawe'n cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar pobl yn Abertawe. Mae egwyddor sylfaenol yn Fframwaith Bae'r Gorllewin yn amlygu pwysigrwydd cynllun tymor hir ar gyfer gwasanaethau atal, sy'n cefnogi'r Strategaeth Atal hon ymhellach. 

3. Pam ymyrryd?

Yn Abertawe,rydym wedi bod yn gofyn cwestiynau anodd am ffyrdd sefydledig o weithio gan ddefnyddio blynyddoedd o brofiad o gyflwyno gwell canlyniadau gyda llai o arian. Mae'r graff isod yn dangos yn glir pam fod angen defnyddio ymagweddau ataliol er mwyn lleihau'r galw am wasanaethau a lleihau costau.

Dengys y graff y gwariant amcangyfrifedig ar Wasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn unig hyd at 2030 yn erbyn cyfanswm amcangyfrifedig yr adnoddau sydd ar gael dros yr un cyfnod. Mae'n dangos heb ymyriad cynnar i leihau'r galw ar wasanaethau statudol, erbyn 2024 bydd cyfanswm y gwariant yn y ddau faes yma'n unig yn fwy na chyfanswm cyllideb y cyngor. 

 2016-172017-182019-202020-212021-222022-232023-242024-252025-262026-272027-282028-292029-30
Total resource (C tax and grant)417415413412411400400400400400400400402
Spend (ONLY Ed, SS, capital, levies)320338350368380390400417420435450460475

Ni allwn felly sefyll yn llonydd. Mae'r Strategaeth Atal hon yn amlinellu ymagwedd at leihau, lliniaru ac oedi'r galw ac felly'r gwariant cyffredinol, nawr ac yn y dyfodol. Mae'r strategaeth hon yn berthnasol i bob un o bum blaenoriaeth lles y cyngor ac, oni bai ein bod ni'n newid sut yr ydym yn gweithredu, ni fyddwn yn gallu cyflwyno gwasanaethau i'r un graddau yn y dyfodol.
Mae Abertawe wedi archwilio pob opsiwn sydd ar gael a bydd yn parhau i wneud hynny o ran rheoli galw ac arbed arian. Dyma rai o'r camau gweithredu y byddwn ni'n eu cymryd:

  • • Integreiddio â chynghorau neu bartneriaid eraill megis ein Bwrdd Iechyd Lleol;
  • • Newid dulliau a digideiddio;
  • • Ail-lunio llwybrau a phrosesau busnes;
  • • Hyrwyddo a chefnogi gwydnwch ac annibyniaeth yng nghymunedau Abertawe.

Mae'n rhaid i ataliaeth fod wrth wraidd cyflwyniad y cyngor er mwyn cyflawni ymagwedd gynaliadwy at reoli'r gyllideb a chyflwyno gwasanaethau. Trwy gyflwyno ymagwedd ataliol ar draws meysydd blaenoriaeth allweddol gall y cyngor reoli gwariant. Mae'r graff isod yn dangos y symudiad sydd ei angen er mwyn i wariant fod yn gynaliadwy. Os ydym yn dechrau gweithredu ein hymagwedd ataliol nawr, erbyn 2020 byddwn yn dechrau ehangu'r cyfnod lle y gall adnoddau sydd ar gael fodloni'r gwariant, a dechrau lleihau'r galw er mwyn troi'r gromlin.

 2016-172017-182019-202020-212021-222022-232023-242024-252025-262026-272027-28
The shift needed to make expenditure sustainable318324327343350357363370380382392

Felly'r cwestiwn go iawn yw, pam na fyddwn yn dilyn ymagwedd ataliol? Mae gweithgareddau atal yn angenrheidiol i ni allu parhau i gyflwyno gwasanaethau hanfodol, yn ogystal â gwella cyfleoedd bywyd dinasyddion Abertawe. Mae gweithgareddau i atal ymyriadau drud yn hanfodol er mwyn cynnal pethau fel y maent, cyn ystyried y ffyrdd y gallwn leihau ein dibynadwyedd ar wasanaethau costus yn y tymor hwy. Mae'r adran ganlynol yn rhoi ffocws ar y gwelliant mewn canlyniadau y gallai'r ymagwedd hon ei gyflwyno.

4. Sylfaen dystiolaeth 

Rydym wedi archwilio i ymagweddau ataliaeth a ddefnyddiwyd mewn mannau eraill yn y DU a thu hwnt i ddangos gwerth posib ymagwedd o'r fath. Ceir isod nifer o astudiaethau achos gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Prifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n dangos amrywiaeth o ymagweddau sy'n cefnogi nifer o ymyriadau yn y DU i hyrwyddo gwell iechyd, mwy o gyfoeth, a mwy o wydnwch ac annibyniaeth i breswylwyr. Maent yn dangos (lle bo'n briodol) gymhareb cost/budd buddsoddiad (am bob £1) ynghyd â'r amser buddsoddi ac unrhyw enillion ar fuddsoddiad. Maent yn rhoi gwir deimlad o'r manteision a'r gostyngiadau ariannol y gallwn eu cyflawni drwy weithgareddau atal. 
 
Mae sylfaen dystiolaeth gref a chyfiawnhad i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol. Dengys tystiolaeth, dros nifer o flynyddoedd, fod effaith glir ar effeithiau tymor canolig a thymor hir ymyrryd yn gynnar. Byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth hon wrth ddatblygu cynigion penodol ar gyfer buddsoddi, gan ddefnyddio arloesedd ac archwilio i wella canlyniadau pobl.
 
Ceir rhai enghreifftiau o effaith ymyriadau cynnar yn ogystal ag effaith peidio ag ymyrryd isod. Cafwyd nifer ohonynt o'r maes iechyd, ond mae'r effaith ar gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus a gwariant yn gyffredinol i'w gweld yn glir. Fodd bynnag, mae prif neges ymchwil, Llywodraeth Cymru a'r DU, melinau trafod a pholisi arfaethedig yn weddol glir - mae ataliaeth yn well, yn canolbwyntio ar y person ac yn fwy cost effeithiol na gwella.

Adolygiad ac Adroddiad Marmot.

Archwiliodd yr adroddiad hwn i effaith anghydraddoldebau iechyd ar gyfleoedd a disgwyliadau bywyd yn Lloegr. Mae nifer o enghreifftiau tebyg yng Nghymru. Mae ei ganfyddiadau ac argymhellion wedi bod yn ddylanwadol iawn o ran cyfeirio'r polisi - yn wir, adlewyrchir argymhellion yr adroddiad yn chwe chanlyniad yr Asesiad Lles. 
 
Nodwyd fel un o uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad, 'yn Lloegr, byddai nifer y bobl sydd, ar hyn o bryd, yn marw cyn pryd bob blwyddyn o ganlyniad i anghydraddoldebau iechyd wedi mwynhau, ar y cyd, rhwng 1.3 a 2.5 miliwn o flynyddoedd ychwanegol o fywyd'. 
 
Nododd yr adolygiad os yw'r amodau y mae pobl yn cael eu geni iddynt neu'n tyfu, yn byw neu'n gweithio ynddynt yn ogystal ag oedran yn ffafriol ac yn cael eu dosbarthu'n fwy cyfiawn, bydd ganddynt fwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain, ac felly'n dylanwadu ar iechyd ac ymddygiadau iechyd eu hunain a'u teuluoedd. 

Amlygwyd bod cwrs 'gweithredu ar draws bywyd' yn ganolog i adolygiad Marmot. Mae'n dadlau bod anfantais yn dechrau cyn genedigaeth ac yn cynyddu trwy gydol bywyd, fel y dengys isod yn Ffigur 5. Mae'n dangos bod rhaid i gamau gweithredu i leihau anghydraddoldebau iechyd ddechrau cyn i blentyn gael ei eni a pharhau drwy gydol ei fywyd er mwyn torri'r cysylltiadau agos rhwng anfantais gynnar a chanlyniadau gwael drwy gydol bywyd. Am y rheswm hwn, rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn (Amcan polisi A) oedd eu prif argymhelliad blaenoriaeth.

Amcanion Polisi Adolygiad Marmot 

  • A - Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
  • B - Galluogi plant, pobl ifanc ac oedolion i fwyafu eu medrau ac i gael rheolaeth dros eu bywydau
  • C - Creu cyfleoedd gwaith teg a gwaith da i bawb
  • Ch - Sicrhau safon iach o fyw i bawb
  • D - Creu a datblygu lleoedd a chymunedau iach a chynaliadwy
  • Dd - Cryfau rol ac effaith atal afiechyd.

'Rhaid i gamau gweithredu i leihau anghydraddoldebau iechyd ddechrau cyn i blentyn gael ei eni a pharhau drwy gydol ei fywyd. Dim ond fel hyn y gellir torri'r cysylltiadau agos rhwng anfantais gynnar a chanlyniadau gwael drwy gydol bywyd.' 

Astudiaeth Profiadau Andwyol yn ystod Plentyndod (ACE)

Nododd yr astudiaeth hon fod gan brofiadau andwyol yn ystod plentyndod (ACEs) effaith fawr ar ddatblygu ymddygiadau sy'n niweidiol i iechyd yng Nghymru, ac mae atal profiadau andwyol yn ystod plentyndod yn debygol o wella profiadau blynyddoedd cynnar plant a anwyd yng Nghymru yn ogystal â lleihau lefelau ymddygiadau sy'n niweidiol i iechyd megis y broblem o ddefnyddio alcohol, smygu, deietau gwael ac ymddygiad treisgar. Mae'r rhain i gyd yn ddrud iawn i unigolion a'r gymdeithas yn bersonol ac yn ariannol. 

Trawsnewid Bywydau Pobl Ifanc ar draws Cymru

Mae'r adroddiad hwn yn myfyrio ar y gydnabyddiaeth yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) o'r berthynas a geir rhwng tlodi, iechyd a chyfleoedd gydol oes rhwng y cenedlaethau, gan gyflwyno achos economaidd dros fuddsoddi mewn adnoddau cyhoeddus ar gyfer y 1000 diwrnod cyntaf o fywyd, o feichiogi tan fod yn barod i ddechrau'r ysgol. Terfyna'r adroddiad trwy ddweud dengys tystiolaeth ryngwladol fod buddsoddiad sy'n canolbwyntio ar flynyddoedd cynnar bywyd yn cynhyrchu budd y tu hwnt i fuddsoddiadau ariannol a/neu fuddsoddiadau ar adegau eraill ym mywyd. Mae hyn felly'n cynnig y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau cyhoeddus.

Ataliaeth: Ymroddiad a Rennir

Mae adroddiad y CLlL yn pwysleisio natur anghynaliadwy ymagweddau gwellhaol i wasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd. Mae'n tynnu sylw at yr angen am strategaethau ataliol sy'n lliniaru neu'n oedi'r angen am ymyriadau drud ac ar yr un pryd yn cyflwyno canlyniadau gwell i unigolion. Seilir eu rhesymeg ar gyflwyno gwasanaethau atal ymlaen llaw lleol sy'n rhwystro problemau rhag codi yn y lle cyntaf, gan atal problemau sy'n fwy cymhleth, maith a chostus i'w datrys rhag dwysáu. Rydym yn cyflwyno nifer o'r astudiaethau achos gan ddangos hyn isod. 
 
Mae'r CLlL yn amlygu bod cyflwyno a thrawsnewid gwasanaethau'n waith anodd, ac er mwyn gwneud hyn yn dda mae angen cynllunio gofalus, gweithluoedd medrus, a rheolaeth, arweinyddiaeth a chyflwyniad da. Mae'n cydnabod bod gan lywodraeth leol hanes gwych yn y maes hwn ac rydym mewn sefyllfa gadarn i arwain gwasanaethau cyhoeddus ar y cyd i ddilyn ymagwedd ataliol. Mae hefyd yn awgrymu bod angen defnyddio technegau gwerthuso i sicrhau bod costau, manteision ac arbedion yn cael eu cofnodi'n llawn a bod y dysgu'n cael ei rannu'n eang.

Cyngor Dinas Birmingham 

Be Active yw cynllun Cyngor Dinas Birmingham i ddarparu gwasanaethau hamdden am ddim i'w breswylwyr. 

Ar ôl cofrestru, bydd cyfranogwyr yn derbyn cerdyn sy'n eu caniatáu i ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau hamdden am ddim yn ystod cyfnodau penodol. Mae traean o'r boblogaeth leol wedi cymryd rhan ers 2008. 

Dangosodd y gwerthusiad gan Brifysgol Birmingham nad oedd 75% o'r defnyddwyr yn defnyddio campfa, canolfan hamdden neu bwll nofio gynt, ac roedd hanner ohonynt dros bwysau neu'n ordew.
Am bob £1 sy'n cael ei wario ar y cynllun, arbedwyd tua £20.69 mewn buddion iechyd.

Mae hyn wedi helpu'r tîm sydd y tu ôl i'r prosiect i adeiladu achos am ariannu parhaus. 

Astudiaethau Achos

Cyngor Bwrdeistref Metropolitanaidd Bury 

I esbonio costau a manteision ymyriadau iechyd cyhoeddus, cynhaliwyd dadansoddiad gan NICE gyda Chyngor Bwrdeistref Metropolitanaidd Bury i gynorthwyo ei amrywiaeth o ymyriadau smygu gan ddefnyddio offeryn enillion ar fuddsoddiad tybaco. 
Mae cyfraddau smygu Bury yn cyrraedd 23% sydd ychydig yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, gan gostio oddeutu £10.7 miliwn y flwyddyn ar ôl ystyried y gost i'r economi leol a'r GIG 
Dangosodd y dadansoddiad fod buddsoddiad gwerth ychydig dros £750,000 mewn ymyriadau smygu dros flwyddyn wedi arwain at enillion gwerth £472,500 dros ddwy flynedd, £1,085,000 dros bum mlynedd, £2,115,000 dros ddeng mlynedd a £7,012,500 dros oes. 

5. Ein hymagwedd 

5.1 Ein hanes a'n llwyddiannau 

Mae gan Abertawe hanes hir a balch o gefnogi ein dinasyddion drwy ddarparu gwasanaethau statudol. Mae gennym rôl allweddol wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus i Abertawe, ac felly, mae gwasanaethau megis diogelu'r cyhoedd, iechyd a diogelwch ac atal damweiniau wrth wraidd cyflwyno gwasanaethau, yn debyg i'r strategaeth Lleihau Nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal. Mae hon wedi arwain at leihad sylweddol yn nifer y plant yr oedd angen gofal arnynt yn flynyddol (dros y chwe blynedd diwethaf). Roedd mwy o gydnabyddiaeth am werth gweithgareddau atal wedi arwain at gyflymu ein hymagwedd ataliaeth er mwyn gwella lles pobl yn Abertawe, a ysgogir gan ymroddiad y cyngor i ddarparu £1 miliwn ar gyfer prosiectau ataliaeth peilot yn 2014. Yma, cyflwynwyd ymagweddau ataliol peilot a oedd yn ceisio mynd i'r afael â bylchau mewn gwasanaethau sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion. Roedd y cynigion wedi'u seilio ar ymagwedd 'buddsoddi i arbed' a oedd yn ceisio newid ymddygiadau ac atal yr angen am gyfranogaeth mewn gwasanaethau arbenigol drud, gyda rhaglen gefnogaeth tymor hir yn dilyn hyn yn aml. Bydd rhai prosiectau peilot, oherwydd eu llwyddiant yn arddangos dulliau cyflwyno newydd, sef Cydlynu Ardaloedd Lleol a Mynd i'r Afael â Chamdrin Domestig (trwy'r Hwb Trais Domestig) yn parhau oherwydd eu bod wedi dangos eu heffeithiolrwydd. Mae eraill wedi datgelu ffyrdd gwell o weithio ac maent wedi'u gwreiddio mewn darparu gwasanaethau fel 'busnes fel arfer'. 
 
Mae gan bob un o adrannau'r cyngor rôl mewn ataliaeth. Mae'r Strategaeth Atal yn rhoi mwy o bwyslais ar y ffaith bod gweithgareddau atal yn berthnasol i bawb ac felly rydym yn nodi yma y gweithgareddau corfforaethol sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at yr agenda hon, yn ogystal â'r gweithgareddau peilot cynnar hynny a ariannwyd trwy'r gyllideb ataliaeth, gan ddangos ein hymrwymiad a'n cydnabyddiaeth ehangach bod angen mwy o fuddsoddiad yn y maes hwn. Rydym wedi cysylltu'r rhain dan Ganlyniadau Un Abertawe. Mae'r amrywiaeth o weithgareddau atal sy'n cael eu cyflwyno'n arddangos yn glir bod ataliaeth yn berthnasol i bawb! Maent hefyd yn adlewyrchu newid gofynnol yn niwylliant y cyngor er mwyn dangos bod pob cyswllt yn bwysig. Hynny yw, sut byddai gwasanaethau pe bai asesiad lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: yn gweithio i'r un egwyddorion ac yn annog hunanddibyniaeth, hyrwyddo annibyniaeth unigol a diogelu diogelwch ein dinasyddion. 
 
Cynhelir nifer o weithgareddau eisoes ac maent wedi'u llunio dan ganlyniadau gofynnol asesiad lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus:

Dechrau da mewn bywyd i blant

  • Parhau â llwyddiant y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd o ddangos ymagwedd effeithiol at leihau nifer y 'plant sy'n derbyn gofal'.
  • Llwyddiant pellach o ganlyniad i'r trefniadau contractio a adolygwyd i blant y mae angen gofal arnynt er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn gofal yng Nghyngor Abertawe neu gerllaw. 
  • Cyflwyno Continwwm Cymorth i Deuluoedd, gan ddefnyddio adnoddau sydd eisoes yn bodoli a gwario ar draws continwwm o fewn Plant a Theuluoedd, Tlodi a'i Atal, Addysg ac Iechyd. 
  • Cyflwyno'r Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) mewn ysgolion, y mae bellach yn cefnogi 52 o leoliadau cynradd ar draws Abertawe. Mae hwn yn galluogi ysgolion i nodi anghenion teuluoedd ar un rhan o'r continwwm a sicrhau bod y gefnogaeth briodol yn cael ei rhoi cyn gynted â phosib.
  • Rhaglen Dechrau'n Deg, sy'n darparu pecynnau cydlynol o wasanaethau ac ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i dros 3,000 o blant ifanc a'u teuluoedd yn eu cymuned leol (yn flynyddol) er mwyn cefnogi datblygiad y plentyn a lles y teulu. 
  • Prosiect peilot 'Teenstart', sydd wedi darparu tîm amlddisgyblaethol ac amlasiantaeth o fydwragedd, hwyluswyr teulu, NNEBs ac ymarferwyr Datblygiad Iaith i gefnogi rieni dan 25 oed trwy lwybr cefnogaeth â ffocws clir ar gysylltiad cynnar a pherthynas gwell rhwng y rhiant a'r plentyn. 

Pobl yn dysgu'n llwyddiannus

  • Cyfrannu at barhau i ostwng plant NEET ôl-16 oed a gwella lles pobl ifanc a theuluoedd trwy strategaeth ostwng NEET, y fframwaith cynnwys a chynnydd darparu prosiectau a ariennir gan yr UE megis Cynydd (gweithio gyda phobl ifanc yn yr ysgol sydd mewn perygl o fod yn NEET) a Cam Nesa (gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed sy'n NEET). 
  • Cyfrannu at bresenoldeb gwell yn yr ysgol cyn 16 oed trwy leihau nifer y plant sy'n derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), a lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal (oherwydd llai o angen) a gwella lles pobl ifanc a theuluoedd. 

 Mae gan bobl ifanc ac oedolion swyddi da 

  • Mae polisi 'Y Tu Hwnt i Frics a Morter' y cyngor wedi cynnwys buddion cymunedol (recriwtio a hyfforddiant a dargedir) mewn contractau adeiladu. Mae hwn yn cael ei ehangu ar draws ein prosesau caffael er mwyn dod â buddion lleol o waith adeiladu arall (contractau adeiladu a gwasanaeth). 
  • Mae Cymunedau am Waith a Gweithffyrdd yn helpu pobl leol, yn enwedig yn ein hardaloedd mwy difreintiedig, i ddatblygu sgiliau a chael mynediad i gyfleoedd am swyddi. 
  • Mae ein strategaeth prentisiaeth a hyfforddiant ledled y cyngor yn datblygu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl ifanc, gan dargedu'r rheiny sydd â'r angen mwyaf. 

 Safonau Byw Da 

  • Cydlynu gweithgarwch drwy Fforwm Tlodi'r cyngor a gweithgarwch partneriaid trwy'r Fforwm Partneriaeth Tlodi . 
  • Darparu gwasanaethau cynghoro ar dreth y cyngor a hawliau budd-dal tai. 
  • Cefnogi penderfyniadau pan geir dadleuon budd-daliadau trwy'r gwasanaeth Hawliau Lles. 

Mae pobl yn iach, yn ddiogel ac yn annibynnol 

  • Ymagweddau llwyddiannus at fynd i'r afael â thrais domestig, gan barhau i gydlynu gweithgarwch drwy'r Hwb Cam-drin Domestig. 
  • Mae llwyddiant y peilot Cydlynu Ardaloedd Lleol wedi arwain at gydlyniad gwasanaeth gwell gyda chydweithwyr iechyd, er enghraifft. Mae'r rhain wedi dangos sut y gallwn ddatblygu ac adeiladu galw i ddarparu gwasanaethau cefnogi naturiol, gan adeiladu gwydnwch cymunedol. Ein bwriad yw ceisio rhagor o fuddsoddiad yn y maes hwn er mwyn cyflwyno'r ymagwedd hon. 
  • Lleihau'r perygl o afiechyd a salwch trwy ein gwasanaethau diogelu'r cyhoedd sy'n rheoli diogelwch bwyd a fermin.
  • Cyflwyno gwasanaethau datblygu hamdden a chwaraeon, gan annog ffordd o fyw sy'n fwy actif ac iach. 
  • Cyflwyno gwasanaethau CCTV drwy'r ddinas gan gynyddu nifer yr adroddiadau llwyddiannus am droseddau a lefelau diogelwch. 
  • Gweithio i wella lles staff y cyngor a lleihau lefelau tostrwydd. 

Mae gan bobl leoedd da i fyw a gweithio ynddynt 

  • Ceir buddsoddiad sylweddol yn Abertawe ac ar draws y ddinas-ranbarth gan gyflwyno cyfleoedd helaeth trwy ddatblygiadau megis y Fargen Ddinesig a Morlyn Llanw Bae arfaethedig Abertawe. 
  • Cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau atal ar draws gwasanaethau craidd y cyngor, gan gynnwys darparu cyfleoedd diwylliant a hamdden, canolfannau cymunedol a llyfrgelloedd. 
  • Cyflwyno gweithgareddau hamdden ar draws Abertawe, gan effeithio'n gadarnhaol ar iechyd a lles dinasyddion trwy annog bywydau mwy heini. 
  • Darparu parciau a mannau agored at ddibenion adloniant ac ymarfer corff, gan annog bywydau mwy heini. 
  • Trefnu gwasanaethau glanhau ac atal gwastraff ar draws ein cymunedau drwy ein strategaeth rheoli gwastraff ac ailgylchu.
  • Gwaith ataliol i'r priffyrdd ac isadeiledd asedau adeiladau i atal dirywiad a lliniaru methiannau ehangach heb eu cynllunio sy'n effeithio ar gyflwyno gwasanaethau yn y dyfodol.
  • Buddsoddi er mwyn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru yn nhai'r cyngor i wella llety a lles ein dinasyddion. 
  • Mae tirwedd ein dinas yn cael ei chynnal a'i hadnewyddu'n gyson, gan gynnig manteision i gymunedau lleol. 

Yn ychwanegol i'r gwaith atal cadarnhaol sy'n cael ei wneud, mae'n glir bod mwy o gyfleoedd ar gael yn ogystal â'r angen am fwy o waith. Un llinyn allweddol o'r adolygiadau comisiynu sy'n cael eu cynnal yn Abertawe fydd asesu a gwerthuso'r cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau atal pellach. Bydd hyn yn cefnogi ac yn galluogi cyfarwyddiaethau a gwasanaethau i wella canlyniadau a lliniaru yn erbyn galw yn y dyfodol. 

5.2 Gweledigaeth 

Ein gweledigaeth yw... 
 
'diogelu canlyniadau gwell a rheoli'r galw'n well trwy ymagweddau ataliol'. 

5.3 Rheoli Galw 

Mae galw'n deillio o sawl lle. Mae pob peth y mae'r cyngor yn ei wneud creu galw neu'n ymateb iddo. 

Er enghraifft: Mae preswylwyr yn dibynnu ar y cyngor i ddiwallu anghenion penodol a allai fod yn rhywbeth syml megis rhoi gwybod am dwll yn y ffordd neu dipio anghyfreithlon, talu bil treth y cyngor neu gyflwyno cais am fathodynnau glas.

Fodd bynnag, gall galw fod yn gymhleth a gofyn am adnoddau tymor hir a drud, megis yr angen am ofal preswyl yn sgîl derbyniad i'r ysbyty, neu ofal cartref tymor hir i gefnogi person gyda gofal personol. 
Gellir rheoli gwahanol fathau o alw mewn ffyrdd gwahanol: 

  • Methiant galw
    • Gellir achosi'r galw hwn trwy ddyluniad gwasanaeth gwael a/neu fethiant blaenorol gan wasanaeth i ddatrys problem yn ddigonol. Gall hyn gynnwys atgyfeiriadau diangen neu esgusodion gan staff rheng flaen, asesiadau lluosog gan wasanaethau cefnogi niferus ac asiantaethau allanol, neu fethu cael pethau'n gywir y tro cyntaf.
  • Galw y gellir ei osgoi
    • Bydd osgoi'r galw am wasanaethau rhag codi yn y lle cyntaf yn arwain at ddarparu llai o wasanaethau drud neu ddiangen. Er enghraifft, cynnig ap sy'n galluogi preswylwyr i roi gwybod am oleuadau stryd sydd wedi torri yn hawdd drwy ddefnyddio ffôn clyfar yn hytrach na gorfod ffonio neu e-bostio'r cyngor. Mae'r cyngor yn derbyn mwy o wybodaeth a gall preswylwyr roi gwybod am broblemau ar adeg sy'n gyfleus iddyn nhw. Mae'r ddwy ochr yn arbed amser ac yn osgoi dyblygu tasgau.
  • Galw y gellir ei atal 
    • Ceir hyn pan y gallai pethau fod wedi cael eu cyflawni'n gynharach, a byddai hyn wedi atal yr angen rhag codi yn y lle cyntaf. Felly efallai ein bod yn darparu mwy na'r hyn sydd ei angen. Er enghraifft, gyda gofal am bobl hŷn, pan weithredir y camau cywir yn gynnar - megis atgyweirio peryglon baglu neu lithro yn y cartref - gall hyn helpu i atal cwympiadau a chadw symudedd ac annibyniaeth am gyfnod hwy. Mae hyn yn lleihau'r angen am dderbyniad i'r ysbyty a gwasanaethau ail-alluogi. 
  • Galw gormodol/cyd-ddibynnol
    • Ceir hyn pan fydd y cyngor yn darparu mwy na'r hyn sydd ei angen neu'n creu galw drwy ddibyniaeth. Er mwyn osgoi darpariaeth ormodol neu dargedu gwasanaethau'n annigonol, mae angen deall y galw. Yna gall gwasanaethau gael eu hail-lunio i symud o ddarparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar ddiwallu angen a disgwyliad tybiedig i ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar anghenion dinasyddion a'r gymuned mewn ffordd ar y cyd sy'n fwy blaengar ac effeithlon ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn creu gwasanaethau mwy blaengar ac effeithlon, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn caniatáu cyd-gynhyrchu.
  • Creu galw cynhyrchiol mewn gwasanaethau 
    • Gall y cyngor fod yn fwy ymwybodol yn fasnachol trwy gynnig gwasanaethau ychwanegol am brisiau cystadleuol gan gynyddu incwm y cyngor. Er enghraifft, defnyddio'r arbenigedd y mae'r cyngor wedi ei ddatblygu o ran trin canclwm Japan a chodi tâl am y gwasanaeth hwn yn allanol. 

5.4 Gwasanaethau Cwsmeriaid Da 

Mae gwasanaethau cwsmeriaid da wrth wraidd rheoli galw ac yn cyflwyno'r manteision canlynol: 
 
1. Cyflwyno canlyniadau gwell i breswylwyr a chymunedau trwy: 

  • Ddatblygu annibyniaeth preswylwyr a gwydnwch cymunedol; 
  • Gwell cefnogaeth a gwasanaethau a dargedir i'r ardaloedd lle mae eu hangen fwyaf: 
  • Darparu gwasanaethau o ansawdd gwell sy'n targedu'r gwir achos yn hytrach nag effaith y problemau. 

2. Arbed arian trwy fod yn fwy effeithlon yn weithredol ac yn ariannol gan: 

  • Gael gwared ar ddyblygu a gwastraff; 
  • Galluogi cwsmeriaid i wasanaethu eu hunain;
  • Targedu adnoddau a chysoni cyflenwad â galw; 
  • Cyflwyno ffyrdd modern o weithio gan sicrhau ein bod yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. 

Ym mhob un o'r achosion hyn, mae rheoli'r galw'n dechrau trwy ddeall yr hyn sy'n gwthio'r galw - beth yw'r gwir achosion. Rhaid seilio unrhyw ymdrech i reoli galw, wrth geisio gwella canlyniadau ar yr un pryd, ar ddealltwriaeth o sut mae pobl, sef y rheiny sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau, yn ymddwyn, a'r hyn maen nhw ei eisiau yn erbyn yr hyn sydd ei angen arnynt. Gall ymddygiadau, disgwyliadau a gweithredoedd diffygiol preswylwyr a darparwyr gwasanaethau fwyhau a chynyddu galw. 
 
Yn y pen draw mae rheoli'r galw yn ceisio sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu cyflwyno i'r preswylwyr cywir pryd a ble mae eu hangen arnynt, ac am y gost leiaf bosib. Ni fydd hwn yn gwella profiad preswylwyr yn unig, gan sicrhau eu bod yn derbyn yr hyn sydd ei angen arnynt mewn ffordd effeithlon ac amserol, ond hefyd yn lleihau dyblygu a gwastraff a fydd yn arbed costau diangen. 

5.5 Rheoli cylchred ymddygiad cwsmeriaid

Bydd rheoli galw yn cael ei gyflwyno ar draws tair thema ryngysylltiedig sydd wedi eu dylunio i ategu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei gyflawni ar draws y sefydliad.
Byddwn yn ceisio rheoli ein galw trwy ddefnyddio ymagweddau newydd a blaengar wrth gyflwyno gwasanaethau. Trwy ddeall y gylchred barhaus o ymddygiad cwsmeriaid, galw'r cyngor ar wasanaethau a'r arfer safonol o ddarparu gwasanaethau, a thrwy edrych ar hyn mewn ffordd wahanol, gan ddatblygu ein sgiliau rheoli galw, bydd yn ein galluogi ni i wneud pethau gwahanol yn hytrach na gwneud pethau traddodiadol mewn ffordd wahanol.

Mae angen i ni gydnabod bod y rheiny sydd â'r angen mwyaf am gefnogaeth gan wasanaethau'r cyngor yn debygol o roi galw uchel ar wasanaethau lleol eraill a gall fod angen dod o hyd i atebion gan bartneriaid ein Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Dyma rai enghreifftiau o raglenni presennol sy'n helpu i reoli'r galw: 

  • Cyflwyno gwasanaethau Rheoli Perthnasoedd Cwsmeriaid (RhPC) effeithlon ac o safon yn Abertawe. 
  • Arwain ymagwedd drawsnewid Cyngor Abertawe gan nid yn unig gefnogi gwell effeithiolrwydd cost ond hefyd Abertawe sydd wir yn gynaliadwy. 
  • Cyflwyno cyswllt â chwsmeriaid a hunan-wasanaeth, sy'n chwarae rôl allweddol mewn ataliaeth, yn enwedig drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth (GCC).

5.6 Ymyrryd ac Atal Cynnar

Mae'r cyngor yn rhyngweithio â'i ddinasyddion gan ddibynnu ar eu hangen am wasanaethau mwy cymhleth ac unigol. Gellir trefnu rhain yn ôl haenau amlwg fel continwwm angen, o wasanaethau cyffredinol i wasanaethau cymhleth arbenigol wedi'u targedu (gweler y diagram isod).
 
Dylai'r ymagwedd gywir fod yn gymesur i'r angen gan sicrhau bod ymyriadau poblogaeth gyfan, megis ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus neu newidiadau i drefniadau casglu gwastraff, yn cael eu haddasu a bod y gefnogaeth yn cael ei gwella yn unol â gofynion y grwpiau ac unigolion. Mae'r ymagwedd hon yn sicrhau llwyddiant go iawn, sy'n lleihau ac yn oedi'r angen. 

Wrth ddarparu gwasanaethau cefnogi i bobl, mae'r angen am ymatebion teilwredig sy'n adlewyrchu'r cymhlethdod amrywiol yn gwneud cyflwyno gwasanaethau yn fwy heriol, ac mae'n hollbwysig ein bod yn ei gwneud yn gywir. Mae hefyd yn fwy anodd i olrhain effaith yr ymyriadau oherwydd, yn aml, bydd y canlyniadau a'r cynilion costau penodol yn rhai tymor hir, ac felly yn fwy anodd i'w meintioli.

  • Haen 0 - Cefnogi Gwydnwch Unigol, Cymunedol a Theuluol
  • Haen 1 - Mynediad Cyffredinol i gefnogaeth ar gyfer Lles 
  • Haen 2 - Ymyrryd yn Gynnar 
  • Haen 3 - Rheoli'r Angen a Nodwyd
  • Haen 4 - Cefnogaeth Arbenigol Uwch 

O fewn cyd-destun y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, darluniwyd ataliaeth drwy ddelwedd o ffenestr flaen. Enghraifft yw'r darlun uchod. Mae'r model hwn yn dangos pwysigrwydd datblygu atebion cynaliadwy sy'n caniatáu i bobl ofalu am eu hunain cyhyd â phosib. Ar gyfer y rheiny y mae angen gwasanaethau Haen 3 neu 4, dylai bod pwyslais ar eu cefnogi er mwyn lleihau lefel yr angen a, felly, gymhlethdod y gwasanaethau y mae eu hangen arnynt. Nid yw pobl yn gyfyngedig i'r model hwn. Gallant elwa o fwy nag un haen o wasanaethau ar yr un pryd. 
 
Mae'r diagram uchod yn amlinellu'r continwwm angen ym mhob haen, a all fod yn berthnasol i'r holl wasanaethau. Mae'n gynrychiolaeth o'r mathau gwahanol o gefnogaeth sydd ar gael i bobl. 
 
Esboniad: Ym mhob haen, mae angen i'r cyngor a'i bartneriaid cyflwyno ddeall y galw presennol a galw yn y dyfodol, gan ystyried tueddiadau blaenorol i ragfynegi angen y dyfodol. Bydd pob ardal o fusnes y cyngor yn ystyried y model yn ei haenau a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd, ynghyd â'r galw presennol a galw yn y dyfodol. Yna byddwn yn ystyried yr opsiynau posib ar gyfer lleihau neu oedi galw, a gostwng anghenion. 
 
Cyfeirir at Haen 0 yn aml mewn gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Daw'r lefel hon cyn y gwasanaethau cyffredinol yn haen un, ac mae'n trafod unigolion yn dibynnu ar eu gwydnwch personol a'u gallu i gael perthnasoedd cryf a chefnogol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae hwn yn amlwg pan fo gan bobl neu ardal lefel uchel o gyfalaf cymdeithasol. Mae'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol yn chwarae rôl bwysig yn haen sero, ac mae'r cyngor yn parhau i gefnogi'r sector trwy ein Cronfa Newid. Ein nod yw cefnogi preswylwyr i gyflawni'r lefel uchaf o annibyniaeth y gallant gyrraedd. 
 
Mae'n hanfodol i ystyried yr holl system oherwydd gall buddsoddiad a thwf mewn un ardal gynyddu'r galw yn rhywle arall o bosib. Nid yw buddsoddi mewn un haen yn unig yn ddigonol i leihau'r galw ym mhob ardal. Mae ymroddiad cyfannol i ataliaeth drwy'r holl haenau yn angenrheidiol er mwyn cefnogi pobl i gyflawni'r canlyniadau maent am eu cael yn eu bywydau. 

Continwwm Cefnogi Teuluoedd 

Nodwyd bod gan blentyn anawsterau dwys o ran iaith a lleferydd. Fe'i hatgyfeiriwyd i'r tîm iaith a lleferydd yn y blynyddoedd cynnar. O ganlyniad i ymweliadau â'r cartref, darganfuwyd bod ei fam-gu yn gofalu amdano gan fod ei fam a'i dad yn gweithio, a'i fod yn treulio'r rhan fwyaf ei amser mewn corlan chwarae. Roedd ei sgiliau chwarae'n gyfyng ac felly gweithiodd y Tîm Datblygiad Iaith Cynnar ar wella'r sgiliau hyn yn gyntaf. Ar yr un pryd, anogwyd y teulu, gan gynnwys y fam-gu, i ddod i grŵp rhieni a phlant bach a sesiynau canu a rhigwm yn y llyfrgell. Fe'u hanogwyd hefyd i geisio cefnogaeth ychwanegol. Pan oedd y plentyn a'i deulu'n barod, cawsant gymorth gan y tîm iaith a lleferydd (SALT). Roedd hyn yn cynnwys grwpiau iaith gynnar a sesiynau un i un. Mae e bellach wedi symud ymlaen i'r dosbarth meithrin ac mae ei sgiliau iaith a lleferydd gystal â'r plant eraill yn ei ddosbarth. 

Astudiaethau Achos

Cydlynu Ardal Leol (CAA) 

Roedd gan ddyn ôl-ddyledion rhent ac roedd mewn perygl o gael ei droi allan. Roedd hefyd yn ddi-waith. Roedd mewn perygl uchel o gael tân yn y cartref oherwydd alcohol a ffactorau eraill. Yn ychwanegol, roedd mewn perygl o ddirywiad iechyd a chael ei dderbyn i'r ysbyty am resymau corfforol a meddyliol.

O ganlyniad i gefnogaeth gan PDG, cafwyd gostyngiadau cost yn y gwasanaethau canlynol (yn seiliedig ar gostau blynyddol cyfartalog a ymchwiliwyd iddynt): 

  • Llai o alw am wasanaethau iechyd meddwl (£956 am oedolyn gydag orbryder ac iselder). 
  • Costau gwerth £1962 i'r GIG oherwydd dibyniaeth ar alcohol. 
  • Gostyngiad gwerth £733 mewn tai yn seiliedig ar ailfeddiannu tai; 
  • Gostyngiad gwerth £7,744 yng nghostau budd-daliadau gan ei fod bellach yn gweithio 
  • Ataliaeth tân gan arwain at ostyngiad gwerth £3568 - cost gyfartalog difodd tân 

Cyfanswm y gostyngiad costau (blwyddyn gyntaf yn unig): £14,963 

Hwb Cam-drin Domestig (Hwb CD) 

Gwnaeth mam roi gwybod am ddigwyddiad o drais gyda'i phartner a ddigwyddodd ym mhresenoldeb eu tri phlentyn. Nid dyma oedd y tro cyntaf yr oedd digwyddiad o drais wedi digwydd, fodd bynnag dyma oedd y tro cyntaf iddi roi gwybod amdano. Yn ystod yr ymweliad cyntaf â'r Hwb, sgoriodd y fam 2 ar gyfer ei diogelwch (gan ystyried digwyddiadau pellach o gam-drin domestig) (mae 1 yn risg uchel a 10 yn risg isel). 

Roedd gweithiwr arweiniol yr Hwb Cam-drin Domestig yn gweithredu fel canolwr rhwng y rhieni i ymdrin â materion megis talu'r rhent, trosglwyddo tenantiaeth a chyswllt gyda'r plant a oedd yn golygu nad oedd angen unrhyw gyswllt rhyngddynt, gan osgoi mwy o ddigwyddiadau rhag digwydd. Rhannwyd y gwaith uniongyrchol â'r plant gan alluogi'r tad i ystyried effaith ei ymddygiad ar y plant ac ymddwyn yn unol â'u dymuniadau a'u teimladau ynghylch cyswllt. Dros yr wythnosau nesaf, parhaodd y gwaith cyfryngu mewn perthynas â chyswllt gyda phlant, lle cafwyd cyswllt rhwng y plant a'u tad dan oruchwyliaeth aelod o'r teulu ac, yn y pen draw, pan oedd y plant yn barod, cafwyd cyswllt heb oruchwyliaeth yn y gymuned. 

Rhoddwyd cefnogaeth i'r fam er mwyn iddi wneud cais i'r awdurdod lleol am dŷ a budddaliadau iddi hi a'r plant. Sgoriodd y fam ei diogelwch hi a'i phlant fel 6 (gan ystyried digwyddiadau pellach o gam-drin domestig). 

Daeth yr achos i ben pan sgoriodd y fam ddiogelwch ei hunan a'i phlant (gan ystyried digwyddiadau pellach o gam-drin domestig) fel 9 a chytunodd bod yr holl anghenion a nodwyd wedi'u diwallu. 

Gellir defnyddio'r ymagwedd atal hon ym meysydd eraill y cyngor neu'n rhan o ddarpariaeth partner, hyd yn oed ar lefel uchel o angen.
 
Rydym am sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaethau addas o safon, sy'n diwallu eu hanghenion o fewn yr haen briodol o gefnogaeth. Bydd ymyrryd yn gynnar yn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion pobl ar yr haen isaf fwyaf priodol. Bydd yr ymagwedd hon yn arwain at ostyngiad yn y galw am yr ymyriadau drud sy'n cael eu cyflwyno yn haenau 3 a 4 ac yn rhoi ffocws ar ostwng yr angen ym mhob haen. 

5.8 Y Model Optimwm Atal 

Mae'r model optimwm yn nodi'r hyn y byddwn ni'n ei wneud os ydym yn cael ein Strategaeth Atal yn gywir. Mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio i sicrhau bod yr ymagwedd hon yn ddealladwy ar draws y gorfforaeth a chyda'n partneriaid er mwyn gwreiddio egwyddorion atal a dulliau cyflwyno. 
 
Dyma'r egwyddorion y byddwn yn gweithio tuag atynt fel model optimwm atal Abertawe; 

  • Ymagwedd gyfan gan y Bwrdd Gwasanaethau Lleol a'r cyngor; 
  • Rhoi pwys i bob sgwrs; 
  • Gwasanaethau cyfannol, cyffredinol ac ymyriad cynnar; 
  • Diwylliant lle mae'r holl wasanaethau yn gweithredu ar bob cam i ddatblygu cryfderau a lliniaru angen; 
  • Mabwysiadu ymagweddau ar sail cryfder gan ddefnyddio cryfderau unigolion, teuluoedd a chymunedau; 
  • Cefnogi annibyniaeth ar bob cam, gan gynnig gwahanol lefelau o ymyriadau yn ôl yr angen; 
  • Cynyddu cadernid, cyfalaf cymdeithasol a rhwydweithiau cymdeithasol; 
  • Sicrhau bod gan y partneriaid hyder yn yr ymagwedd; 
  • Gwneud penderfyniadau buddsoddi ar sail tystiolaeth o'r hyn sy'n lleihau galw; 
  • Mae dysgu am "yr hyn sy'n gweithio" yn sylfaenol er mwyn cyflwyno gwasanaethau'r dyfodol. 

Byddai'r model optimwm atal yn cynnwys yr elfennau canlynol: 

  • Asesiad o anghenion sy'n darparu data tueddiadau a rhagamcanion ar gyfer y dyfodol ar gyfer pob haen; 
  • Gwasanaethau'n mapio gweithgareddau ar y continwwm angen er mwyn gweld yr hyn sydd yn ei le/y gost; 
  • Dadansoddiad bwlch ar draws yr haenau i sefydlu a oes gormod o ddarpariaeth/diffyg darpariaeth yn seiliedig ar ganlyniadau; 
  • Costau uned a chyllideb clir; 
  • Hyfforddiant i staff/aelodau er mwyn atgyfnerthu pwysigrwydd eu rôl mewn ataliaeth; 
  • Cynnwys pobl wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau trwy gydgynhyrchu;
  • Gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill o'r sector gwirfoddol a chymunedol; 
  • Rheolaeth gadarn ac effeithiol wrth gomisiynu gwasanaethau ar draws yr holl haenau. 

5.9 Pwysigrwydd partneriaethau 

Yn y strategaeth hon, rydym wedi dewis cynnwys ein holl weithgareddau atal fel cyngor sy'n helpu i gynnal ansawdd bywyd ac annog cadernid ac annibyniaeth. Rydym yn cydnabod bod ataliaeth yn berthnasol i bawb o fewn y cyngor ac felly dyma ein hymagwedd gorfforaethol. 
 
Gellir ond bodloni'r prif flaenoriaethau hyn drwy ymagweddau corfforaethol a phartneriaeth i ataliaeth a lles ar gyfer Abertawe, gan gynnwys drwy'r BGC a Bae'r 
Gorllewin. Gellir mynd i'r afael â'r materion yr ydym yn eu hwynebu drwy ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys partneriaethau cydgysylltiedig, o ran materion a rennir, sy'n cynyddu cadernid unigolion, teuluoedd a chymunedau ac yn cefnogi pobl i gyflawni canlyniadau drostynt eu hunain. Y brif neges yw bod atal yn berthnasol i bawb - holl staff y cyngor, cyfarwyddiaethau, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid er mwyn annog partneriaeth gynyddol â'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, yn ogystal â chynyddu eu cadernid. 

6. Canlyniadau ar gyfer y strategaeth

Ein Hymagwedd 

Byddwn yn barnu'r strategaeth hon drwy lwyddiannau sy'n arwain y ffordd tuag at ganlyniadau arfaethedig Asesiad Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn y ffordd hon, wrth i ni ddatblygu gweithgareddau ymhellach gyda'n partneriaid BGC, gallwn eu hychwanegu at ein cynllun gweithredu deinamig.

Er mwyn parhau i leihau'r gwariant a'r galw ym mhob un o'r meysydd blaenoriaeth allweddol, mae angen i ni ystyried sail dystiolaeth yr hyn sy'n gweithio. Bydd angen sbarduno nifer o'r mentrau hyn er mwyn iddynt ymddwyn fel catalydd ar gyfer newid ehangach, gyda'r mwyafrif yn ailffocysu gwariant presennol, boed yn arian grant neu'n gyllideb graidd. Mae'r cyngor yn ymrwymo i ymagwedd Buddsoddi i Arbed dros gyfnod o ugain mlynedd. Lle byddwn yn cydnabod angen, caiff achosion busnes unigol ar gyfer ymyriad arfaethedig eu cyflwyno, gan arwain at gynllun gweithredu a buddsoddiad gwybodus sy'n seiliedig ar dystiolaeth am sut i gyflwyno'r strategaeth hon. 

Mae'r cynllun gweithredu atodedig yn amlinellu gweithgareddau mwy manwl - ceir isod rai gweithredoedd trosgynnol a fydd yn cynyddu'r ymrwymiad ac yn arddangos effeithiolrwydd. Mae'r cynllun gweithredu'n cefnogi eu cyflwyniad.

Rhai gweithredoedd cynnar a throsgynnol: 

  1. Gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe, chwilio am ymrwymiadau a dargedir gan bartneriaid BGC; 
  2. Paratoi achosion busnes ar gyfer gweithredu ataliol a nodi ffynonellau cyllid fel y bo'n briodol; 
  3. Datblygu Continwwm Cefnogi Oedolion, dysgu o lwyddiannau'r ymagwedd Cydlynu Ardaloedd Lleol (CALl); 
  4. Gwneud newidiadau diwylliannol er mwyn sicrhau bod pob cyswllt yn cyfrif;
  5. Rhoi negeseuon ataliol trwy wybodaeth, cyngor a chymorth (GCC); 
  6. Cynnwys yr ymagwedd ataliaeth yn y broses adolygiad comisiynu; 
  7. Darparu hyfforddiant i staff ac aelodau ar yr agenda atal; 
  8. Gweithio gyda sector gwirfoddol a chymunedol Abertawe i gefnogi eu hymagwedd ataliol a helpu i ddatblygu eu rôl; 
  9. Mwyafu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddi a grëwyd drwy fuddsoddiad y cyngor, partneriaid a'r sector preifat yn rhanbarth Abertawe, gan dargedu'r cyfleoedd hyn at bobl leol i gynyddu cyfoeth personol. 

Sut byddwn ni'n gwybod os ydym wedi bod yn llwyddiannus? 

Byddwn yn gwybod ein bod wedi bod yn llwyddiannus pan fyddwn yn gweld y mathau canlynol o ganlyniadau (nid yw'r rhain yn gynhwysfawr): 
Gwneir cynnydd allweddol yn erbyn y DPA sy'n gysylltiedig â'n chwe chanlyniad poblogaeth; 

  • Rydym yn nodi gostyngiadau yn yr angen am wasanaethau drud ac ymyriadau cymhleth; 
  • Mae gweithgareddau atal yn cael eu gwreiddio ar draws gwasanaethau'r cyngor ac ar draws gwasanaethau ein partneriaid BGC; 
  • Gallwn ddangos tystiolaeth o osgoi gwariant diangen; 
  • Rydym yn hyderus roedd yr ymyriadau drud yn addas, yn angenrheidiol ac nid oedd modd eu hosgoi. 

7. Llywodraethu

Esboniad 

Bydd cyfarwyddwyr corfforaethol yn cymryd cyfrifoldeb am y gwaith a'r gweithredoedd yn eu maes priodol ac yn eu rheoli drwy gyfarfodydd monitro perfformiad a chyllid rheolaidd a thrwy weithdrefnau adrodd. Adroddir am gynnydd drwy'r Tîm Rheoli Corfforaethol ac i Gabinet Abertawe. Caiff y broses gwneud penderfyniadau ei rheoli trwy gynllun dirprwyo a rheolau sefydlog Abertawe. Bydd adolygiad tymor canolig ar y cynllun yn 2019. 

8. Cynllun Cyflawni 

Atodir Cynllun Cyflawni i'r ddogfen hon sy'n amlinellu gweithgareddau allweddol a chanlyniadau. Lluniwyd y Cynllun Gweithredu i fod yn ddeinamig. Er cysondeb, mae'r gweithredoedd yn cael eu grwpio o dan brif ganlyniadau Asesiad Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Atodiad A 

Fforwm Tlodi Cyngor Abertawe 

Y Prif Weithredwr sy'n cadeirio Fforwm Tlodi Cyngor Abertawe ac mae'r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr gweithredol ac uwch-reolwyr o bob rhan o'r cyngor a'r gwasanaeth iechyd. Mae'r staff gweithredol yn ymddwyn fel hyrwyddwyr tlodi adrannol, gyda chefnogaeth gan eu huwch-reolwr. 

Y fforwm yw'r grŵp arweiniol sy'n dod â holl adrannau'r cyngor at ei gilydd mewn un ymagwedd gan y cyngor at drechu tlodi, gan flaenoriaethu adnoddau i drechu a lliniaru tlodi o fewn adrannau a rhyngddynt. Mae'r fforwm yn hyrwyddo ac yn olrhain cynnydd cyflwyno'r Strategaeth Trechu Tlodi a'r Cynllun Cyflawni ar ran Cyngor Abertawe.

Fforwm Tlodi Partneriaeth Abertawe 

Mae aelodaeth Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe'n cynnwys uwch-gynrychiolwyr o sefydliadau aelodau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid ehangach i arwain a chydlynu camau gweithredu er mwyn trechu tlodi yn Abertawe. Mae'r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru, y Bwrdd Iechyd, CGGA, Cymdeithasau Tai, Undebau Credyd, Yr Adran Gwaith a Phensiynau ac elusennau gan gynnwys Crisis, YMCA a Chyngor ar Bopeth. 

Mae'r bartneriaeth yn cefnogi datblygu mentrau a rhaglenni newydd er mwyn trechu tlodi ar draws y sir, ac mae'n rhannu arfer da. Mae'n datblygu prosesau a pholisïau er mwyn canolbwyntio adnoddau, creu adnoddau newydd a chydlynu adnoddau presennol er mwyn trechu tlodi. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Rhagfyr 2022