Strategaeth Diwylliant Abertawe - Cyfle i ddweud eich dweud 2025
Mae gan Abertawe asedau diwylliannol anhygoel. Er mwyn gwneud y mwyaf o'r rhain i bawb, penodwyd Counterculture gan Gyngor Abertawe i helpu i greu Strategaeth Diwylliant newydd i ddinas a sir Abertawe.
Os oes angen yr arolwg hwn arnoch mewn fformat arall - er enghraifft, print bras - a wnewch chi e-bostio: contact@counterculturellp.com
Nod y strategaeth yw hybu balchder lleol, ymgysylltu â chymunedau, cefnogi twf a gwella cynhwysiad, iechyd a lles. Bydd yn pennu cynllun i ddatblygu a hyrwyddo diwylliant Abertawe - gan gynnwys y celfyddydau ac artistiaid, diwydiannau creadigol, digwyddiadau a gwyliau, chwaraeon, llyfrgelloedd a threftadaeth - ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr. Er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cynnwys pawb, rydym yn gofyn i breswylwyr a busnesau rannu eu meddyliau a'u syniadau.
A wnewch chi lenwi'r arolwg byr hwn i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.
Dylai gymryd 10 munud ar y mwyaf.
Dyddiad cau: 11.59pm, 16 Mawrth 2025