Strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol
Caiff y strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol ei datblygu gan y cyngor i gydbwyso anghenion cymunedau, yr economi a'r amgylchedd.
Pennir y cyfrifoldeb i ni ddatblygu'r strategaeth hon yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, mae angen i ni ddatblygu, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol (strategaeth leol).
Bydd y strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol yn ffurfio'r fframwaith lle bydd gan gymunedau fwy o gyfraniad mewn penderfyniadau rheoli perygl lleol. Ar y cyd â'r Strategaeth Llifogydd Genedlaethol (Llywodraeth Cymru) bydd y strategaethau lleol yn annog rheoli perygl yn fwy effeithiol trwy alluogi pobl, cymunedau, busnes a'r sector cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i:
- sicrhau dealltwriaeth glir o berygl llifogydd ac erydiad, yn genedlaethol ac yn lleol, fel y gellir blaenoriaethu buddsoddiad mewn rheoli perygl yn fwy effeithiol
- pennu cynlluniau clir a chyson ar gyfer rheoli perygl fel y gall cymunedau a busnesau wneud penderfyniadau gwybodus am reoli'r perygl gweddilliol
- annog rheoli perygl llifogydd yn flaengar, ystyried anghenion cymunedau a'r amgylchedd
- ffurfio cysylltiadau rhwng y strategaeth rheoli perygl llifogydd lleol a chynllunio gofodol lleol
- sicrhau bod cynlluniau ac ymatebion brys i lifogydd yn effeithiol ac y gall cymunedau ymateb yn briodol i rybuddion llifogydd
- helpu cymunedau i adfer yn gyflymach ac yn fwy effeithiol ar ôl llifogydd.
Bydd yn gwneud hyn trwy weithredu fel y gronfa dystiolaeth ar gyfer y penderfyniadau a chamau gweithredu angenrheidiol ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Bydd y strategaeth leol a chynlluniau a pholisïau yn y dyfodol yn cael eu datblygu gyda chymunedau i sicrhau dealltwriaeth well o reoli perygl lleol, cynllunio cydlynol a chynaladwyedd. Bydd hefyd yn pwysleisio'r angen i gydbwyso gweithgarwch cenedlaethol a lleol ac arian.
Bydd y strategaeth leol ond yn ymdrin â pherygl llifogydd lleol a ddiffinnir yn y ddeddf fel perygl llifogydd o:
- ddŵr ffo
- dŵr daear, a
- chyrsiau dŵr cyffredin.
Mae Dinas a Sir Abertawe wedi llunio rhai dogfennau'n unol â gofynion y ddeddfwriaeth:
- Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd
- Adroddiad Cwmpasu'r Asesiad Amgylcheddol Strategol
- Adroddiad Amgylchedd yr Asesiad Amgylcheddol Strategol
Y garreg filltir nesaf i Gyngor Dinas a Sir Abertawe, dan ei ddyletswydd statudol, yw datblygu cynllun rheoli perygl llifogydd erbyn diwedd 2015.
I weld ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol, lawrlwythwch Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd (PDF) [1MB]