Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth Mynd i'r Afael â Thlodi

Mae'r strategaeth yn rhan o ymrwymiadau polisi'r cyngor a'i nod yw amlinellu ein hymagwedd arfaethedig at leihau a lliniaru effeithiau tlodi.

Tackling Poverty Strategy (PDF, 646 KB)

Yn Abertawe, rydym yn diffinio tlodi fel:

  • Incwm dan y Safon Isafswm Incwm.
  • Diffyg mynediad at wasanaethau hanfodol o safon.
  • Diffyg cyfleoedd neu adnoddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a hamdden ac wrth wneud penderfyniadau.

Mae Cyngor Abertawe'n ymroddedig i leihau tlodi ac effeithiau tlodi ar ei ddinasyddion.  Mae tlodi'n cyfyngu ar ddyheadau, yn amharu ar berthnasoedd ac yn sicrhau bod cyfleoedd bywyd yn cael eu colli.

Ein Gweledigaeth i Abertawe

Nod y cyngor yw creu Abertawe sy'n bodloni'r amcanion canlynol:

  • Nid yw tlodi incwm yn rhwystr i fod yn llwyddiannus yn yr ysgol, cael bywyd iach a bywiog, datblygu sgiliau a chymwysterau a chael swydd foddhaus.
  • Eir i'r afael â thlodi gwasanaethau drwy glustnodi adnoddau lle gallant gael yr effaith fwyaf, gyda phenderfyniadau ar hynny'n cael eu gwneud ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau.
  • Mae ein holl breswylwyr yn mwynhau cyfranogi ac mae ganddynt y cyfle a'r adnoddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a hamdden ac wrth wneud penderfyniadau.
  • Mae preswylwyr yn mwyafu eu hincwmac yn gwneud y mwyaf o'r arian sydd ganddynt.
  • Mae preswylwyr yn osgoi talu'r 'Premiwm Tlodi', sef y costau ychwanegol y mae'n rhaid i bobl ar incwm isel eu talu am hanfodion megis tanwydd a chludiant.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Medi 2021