Toglo gwelededd dewislen symudol

Myfyrwyr yn cael eu hannog i ailgylchu'n iawn yr haf hwn

Mae miloedd o fyfyrwyr sy'n gadael Abertawe'r haf hwn wedi cael cymorth ychwanegol i helpu i sicrhau na fydd sachau du wedi'u gadael yn plagio'u cymunedau ar ddiwedd y tymor.

Mae tîm ailgylchu Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed i roi gwybod i fyfyrwyr pryd mae eu diwrnodau casglu gwastraff yn y cyfnod cyn diwedd y flwyddyn academaidd.

Fel rhan o ymgyrch 'Sortiwch e' y Cyngor, mae dros 1,400 o gartrefi myfyrwyr cofrestredig yn Brynmill, Uplands, Mount Pleasant a Sandfields wedi derbyn pecynnau gwybodaeth a llythyrau, sy'n darparu argymhellion a chyngor o ran yr hyn y dylid ei wneud gyda'u gwastraff cartref yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae'r llythyrau'n cynnwys rhestr lawn o ddyddiadau casglu gwastraff drwy gydol mis Mai a mis Mehefin ac mae hefyd yn atgoffa myfyrwyr o'r math o ailgylchu sy'n cael ei gasglu bob wythnos.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma: Sortwch e' - arweiniad ailgylchu a gwastraff i fyfyrwyr

 

Close Dewis iaith