Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant gweithgareddau newydd COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) yn helpu pawb i gael hwyl yr haf hwn ac wedi hynny.

Mae grwpiau a sefydliadau cymunedol ar draws Abertawe'n cael eu hannog i helpu i sicrhau bod plant, pobl ifanc, teuluoedd a phobl hŷn yn ein cymunedau'n cael haf o hwyl.

Summer of fun

Mae arian grant gweithgareddau COAST Cyngor Abertawe, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn darparu grantiau o hyd at £10,000 i grwpiau gwirfoddol a chymunedol a sefydliadau eraill wedi'u targedu at blant, pobl ifanc a'u teuluoedd a phobl hŷn (50+), sydd â syniadau da i ddarparu gweithgareddau a chyfleoedd ar draws cyfnodau'r gwyliau o'r haf tan fis Mawrth nesaf.

Ond y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 30 Mehefin, a rhaid i'r holl weithgareddau, nwyddau neu wasanaethau gael eu cyflwyno erbyn 8 Medi 2023.

Mae COAST yn ceisio ariannu darpariaeth wedi'i thargedu i'n haelodau cymunedol, ac mae'n unigryw i Abertawe, gan adeiladu ar lwyddiant rhaglenni blaenorol Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles, i ddarparu ystod o weithgareddau chwarae, hamdden, adloniant, chwaraeon a diwylliannol.

Meddai Alyson Pugh, Aelod y Cabinet dros Les, "Bydd gweithgareddau a ariennir drwy COAST yn darparu cyfleoedd i gefnogi iechyd a lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol y genhedlaeth iau a'u teuluoedd yn ogystal ag aelodau hŷn y gymuned. Croesewir ceisiadau grant yn arbennig gan grwpiau sy'n gweithio gyda phobl i ddarparu gweithgareddau sydd â'r nod o leihau unigedd a chynyddu cynhwysiad".

Gall ceisiadau gael eu gwneud gan grwpiau neu sefydliadau sydd am ehangu eu rhaglenni cyfredol neu i fod o fudd i aelodau newydd.

I wneud cais, cliciwch ar y ddolen: https://www.abertawe.gov.uk/cronfaCOAST

Rhagor o wybodaeth:   GrantiauPaCh@abertawe.gov.uk

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Mehefin 2023