Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i ddweud eich dweud ar sut mae Cyngor Abertawe'n gweithio ac yn pennu blaenoriaethau

Ydych chi erioed wedi dymuno cael cyfle i ddweud wrth y cyngor beth ddylai ei flaenoriaethau fod yn y blynyddoedd i ddod?

Swansea at night

Neu rannu'ch barn â ni am yr hyn rydym yn ei wneud yn dda neu'r hyn y gallem ei wneud yn well? Os felly, manteisiwch ar y cyfle nawr a chymerwch ran yn ein harolwg.

Rydym yn cynnal arolwg i ddarganfod mwy am farn pobl am yr hyn rydyn ni'n ei wneud, yr hyn rydyn ni'n ei wneud a'r ffordd rydyn ni'n ei wneud.

Pasiwyd deddf newydd yn 2021 - Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  Mae hyn yn newid y ffordd y mae cynghorau yng Nghymru'n mesur ac yn gwella eu perfformiad. Mae'n golygu y byddwn yn adolygu'n gyson sut mae pob agwedd ar y cyngor yn gweithio gyda'i gilydd fel sefydliad ac yn ei wella.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ei gwneud hi'n ofynnol i Gyngor Abertawe bennu amcanion lles (Darllenwch amdanynt yn ein Cynllun Corfforaethol 2017-2022 diwethaf). Mae angen i ni adolygu a diweddaru'n hamcanion lles yn awr i flaenoriaethu camau ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022.

Os hoffech rannu'ch barn â ni, mae'n hawdd ac yn gyflym i'w wneud. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma     https://www.abertawe.gov.uk/ArolwgLLE ac os hoffech gael yr arolwg mewn fformat arall, cysylltwch â ni yn:improvement@abertawe.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer rhoi eich barn i ni yn yr arolwg hwn yw: 11.59pm, nos Iau 3 Mawrth 2022.

Close Dewis iaith