Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymunwch â ni am ddigwyddiad Abertawe'n Cofio

Bydd Sgwâr y Castell yn ein dinas yn cynnal dwy funud o dawelwch ddydd Sadwrn wrth i'r genedl gofio'r aberthau a wnaed gan y lluoedd arfog mewn gwrthdaro ar draws y byd.

Field poppy

Bydd prif Senotaff Abertawe ar lan y môr a llawer o fusnesau, cartrefi a chofebau eraill hefyd yn mynd yn dawel ar gyfer coffadwriaethau ar 11 Tachwedd.

Mae Cyngor Abertawe'n trefnu digwyddiad Abertawe'n Cofio yn St. David's Place, ger siop Iceland yng nghanol y ddinas. Cynhelir y digwyddiad yn lle Distawrwydd yn y Sgwâr, a gynhaliwyd yn Sgwâr y Castell dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y Dirprwy Arweinydd ar y cyd, y Cyng. David Hopkins, ymhlith y rheini a fydd yn talu teyrnged yn ystod y digwyddiad.

Bydd y rheini a fydd yn bresennol ger Senotaff Abertawe ar 11 Tachwedd yn cynnwys Arglwydd Faer Abertawe, y Cyng. Graham Thomas, Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart ac Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a Diwylliant, Elliott King. Bydd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog y cyngor, y Cyng. Wendy Lewis, ac arweinwyr eraill yno hefyd i gynrychioli pobl Abertawe.

Meddai'r Cyng. Thomas, "Mae dwy funud o fyfyrio'n dawel yn symbol o'n diolchgarwch i'r rheini a wynebodd perygl i amddiffyn ein rhyddid, a'r rheini sy'n dal i wneud hynny heddiw.

"Mae'r ddwy funud hyn sy'n cael eu rhannu gan bobl ar draws Abertawe a gweddill y DU ar yr un pryd hefyd yn ein hatgoffa o'n treftadaeth o aberth ac ymdrech a rennir."

Mae'r digwyddiadau coffa a gynhelir cyn penwythnos 11 a 12 Tachwedd a dros y penwythnos ei hun yn cynnwys y canlynol:

·       9 Tachwedd, 11am - seremoni yn yr Ardd Goffa ar Oystermouth Road, lle bydd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd ar y cyd, Andrea Lewis, yn bresennol

·       10 Tachwedd, 6.30am - Seremoni anfon pabïau i Paddington yng Ngorsaf Drenau Abertawe, lle bydd yr Arweinydd a'r Cyng. Wendy Lewis yn bresennol

·       Bydd adeiladau dinesig ar draws Abertawe'n cynnal cyfnod o dawelwch ar 11 Tachwedd am 11am ar gyfer y distawrwydd dwy funud cenedlaethol.

·       Bydd Neuadd y Ddinas wedi'i goleuo'n goch ar nosweithiau 11 a 12 Tachwedd.

·       Bydd Gŵyl y Cofio'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn dychwelyd eleni ar 11 Tachwedd am 7pm yn Neuadd Brangwyn. Digwyddiad am ddim yw hwn ac ni fydd angen prynu tocynnau. Bydd y Cyng. Hopkins a'r Cyng. King yn bresennol yn y digwyddiad.

·       Cynhelir y Gwasanaeth Coffa ger y Senotaff ar 12 Tachwedd am 11am a bydd y Cyng. Thomas ac Arweinydd y Cyngor yn bresennol wrth i'r ddinas ymuno â gweddill y DU yn y digwyddiad coffa blynyddol. Bydd y Dirprwy Arweinydd ar y cyd, y Cyng. Andrea Lewis yn bresennol ger Senotaff Treforys a bydd y Cyng. Wendy Lewis a chynghorwyr eraill yn bresennol mewn digwyddiadau yn eu wardiau.

·       Cynhelir Gorymdaith Goffa Abertawe ar Stryd Rhydychen am 2pm ddydd Sul 12 Tachwedd. Bydd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, yn bresennol yno.

·       Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol, fel bob tro, wedi trefnu digwyddiad blynyddol y Gwasanaeth Coffa yn Eglwys y Santes Fair ar 12 Tachwedd a bydd y gwesteion gwadd a fydd yn bresennol yn cynnwys yr Arglwydd Faer, yr Arweinydd, y dirprwy arweinwyr ar y cyd, y Cyng. King a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cyng. Wendy Lewis.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae'n fraint i ni fel cynghorwyr i fod yn rhan o benwythnos o goffadwriaethau sy'n adrodd hanes yr aberthau a gwasanaeth ein Lluoedd Arfog.

"Byddwn ni'n bresennol mewn digwyddiadau ar draws Abertawe fel cynrychiolwyr lleol er mwyn mynegi diolchgarwch ein cymunedau i gyn-filwyr ac aelodau presennol y Lluoedd Arfog a'r hyn y maent yn ei wneud drosom.

"Rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl eraill yn ymuno â ni yn nigwyddiadau ar draws y ddinas ar gyfer un o ddigwyddiadau blynyddol pwysicaf a mwyaf teimladwy'r flwyddyn. Os gallwch fynd i ddigwyddiad yn agos atoch chi, ewch."

Mae pabïau ar werth mewn nifer o leoliadau'r cyngor o gwmpas y ddinas, gan gynnwys sawl llyfrgell, Neuadd y Ddinas a'r Ganolfan Ddinesig.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Tachwedd 2023