Rôl a chyfansoddiad CYSAG
Pwrpas CYSAG yw cynghori'r awdurdod lleol ar faterion sy'n ymwneud ag addysg grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth.
Cyfansoddiad CYSAG
Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am gyfansoddiad CYSAG.
Mae tri grŵp yn rhan o CYSAG:
- Cynrychiolwyr enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill i adlewyrchu'n fras gryfder cyfathebol yr enwadau neu'r crefyddau hynny yn yr ardal.
- Cymdeithasau sy'n cynrychioli athrawon.
- Cynrychiolwyr awdurdodau lleol.
Gall CYSAG gyfethol aelodau ychwanegol heb bleidlais yn unol â'r cyfansoddiad.
Rôl CYSAG
Cynghori'r awdurdod ynghylch addysg grefyddol a chyd-addoli.
- bodloni a monitro gofynion statudol
- y ffordd orau o gyflwyno'r maes llafur cytunedig ar gyfer addysg grefyddol
- dulliau addysgu
- adnoddau i'w defyddio
- hyffordi athrawon.
Gofyn i'r awdurdod lleol adolygu ei faes llafur cytunedig ar gyfer addysg grefyddol.
- Gofyniad cyfreithiol i bob awdurdod lleol adolygu ei faes llafur cytunedig o fewn pum mlynedd o'r adolygiad diwethaf.
- Bydd pob maes llafur cytûn yn 'adlewyrchu'r ffaith bod traddodiadau crefyddol Prydain, ar y cyfan, yn rhai Cristnogol ond bydd yn rhoi sylw i ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir ym Mhrydain Fawr'.
Ystyried ceisiadau gan ysgolion ar gyfer dyfarniadau
- Ceisiadau i gael eu heithrio o 'addoli Cristnogol ar y cyfan' yw dyfarniadau.
Ystyried cwynion am ddarpariaeth a chyflwyniad addysg grefyddol a chyd-addoli.
- Chwarae rhan yn y broses gwynion statudol leol, lle caiff achosion eu cyfeirio i CYSAG gan yr awdurdod lleol.
Cyhoeddi adroddiad blynyddol am ei waith
- Cyflwynir hwn i AdAS Llywodraeth Cymru erbyn 31 Rhagfyr bob blwyddyn.
Cyfrifoldebau'r awdurdod lleol mewn perthynas â CYSAG
- Sefydlu ac ariannu CYSAG.
- Penodi aelodau CYSAG a'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig.
- Nodi a darparu'r cyngor a'r gefnogaeth y mae eu hangen ar CYSAG.
- hysbysu CYSAG ynghylch materion sy'n berthnasol i addysg grefyddol a chyd-addoli.
- Darparu gwybodaeth am arolygiadau ysgolion ac/neu adroddiadau hunanwerthuso.
- Ymateb i gyngor a gynigir gan CYSAG.
- Sefydlu a chynnal cynadleddau maes llafur cytunedig pan gofynnir amdanynt gan CYSAG.
- Hysbysu'r Gweinidog Addysg pan cytunir ar faes llafur newydd.
- Ystyried cwynion am gwricwlwm addysg grefyddol a chyd-addoli.
Acronymau
CYSAG (Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol)
CCYSAGC (Cymdeithas CYSAGau Cymru)
AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau)
Estyn (Gwasanaeth Arolygu Ysgolion Cymru)
PYCAG (Y Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol)