Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Mae hawl gan unrhyw un i gyflwyno sylwadau am gais cynllunio.
Gallwch wneud sylw ar gais cynllunio drwy'r ddolen chwilio am gais cynllunio. Chwliwch am rif y cais a chliciwch ar y ddolen 'gwneud sylw'.
Fel arfer rydym yn caniatáu 21 diwrnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o'r dyddiad y caiff y cais ei gyhoeddi.
Gellir cyflwyno sylwadau'n ysgrifenedig i'r tîm rheolaeth cynllunio.
Dylid cyflwyno sylwadau yn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad safle/i'r wasg.
Sylwer nad yw'r cyngor yn derbyn sylwadau dienw am geisiadau cynllunio. Ni chaiff sylwadau dienw a dderbynnir eu hystyried wrth werthuso'r cais.
Wrth asesu ceisiadau cynllunio, yr unig sylwadau y gallwn eu hystyried yw'r rhai sy'n ymwneud ag ystyriaethau cynllunio perthnasol ac nid y rhai sy'n seiliedig ar bethau nad yw pobl yn eu hoffi, cwynion, materion nad ydynt yn ymwneud â chynllunio sy'n gysylltiedig â hawliadau niwsans neu anghydfodau cyfreithiol etc.
Gall enghreifftiau o ystyriaethau materol gynnwys:
- lleoliad, dyluniad a golwg allanol y datblygiad arfaethedig (e.e. uchder neu faint mewn perthynas ag eiddo cyfagos)
- colli golau'r haul neu olau dydd
- colli preifatrwydd
- tebygolrwydd o sŵn gormodol, neu fygdarthau
- digonolrwydd trefniadau parcio a mynediad arfaethedig
- effaith traffig ychwanegol
- effaith ar goed
- tirweddu a chynigion ar gyfer triniaeth i ffiniau (waliau a ffensys)
Mae gwrthwynebiadau, nad ydynt yn ymwneud â chynllunio'n gyffredinol ac na ellir eu hystyried, fel arfer yn cynnwys:
- effaith ar werth eiddo
- effaith ar sefydlogrwydd adeileddol (gall hyn gael ei gynnwys yn y Rheoliadau Adeiladu)
- sŵn, aflonyddwch neu anghyfleustra o ganlyniad i waith adeiladu (cynhwysir hyn yn y Ddeddf Rheoli Llygredd)
- anghydfodau'n ymwneud â ffiniau (gan gynnwys problemau cytundebau waliau cydrannol)
- cyfamodau cyfyngu (gan gynnwys hawliau i oleuni)
- gwrthwynebiad i gystadleuaeth fusnes
- amgylchiadau personol yr ymgeisydd (oni bai y gellir dangos eu bod yn berthnasol o ran termau cynllunio e.e. darparu cyfleusterau i'r anabl)
- gwrthwynebiad i egwyddor datblygiad y mae caniatâd cynllunio amlinellol wedi'i roi iddo eisoes.
Protocolau hawliau siarad - dweud eich dweud ym Mhwyllgor Cynllunio Cyngor Abertawe
Mae gwrando ar farn pobl yn rhan bwysig o waith Cyngor Abertawe. Mae'r Pwyllgor Cynllunio'n croesawu sylwadau gan bobl leol am geisiadau cynllunio sy'n effeithio arnynt.
Y Pwyllgor Cynllunio sy'n penderfynu ar y ceisiadau cynllunio mwyaf, cymhleth neu fwy dadleuol yn y ddinas.
Gellir cynnal cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio o bell neu fel cyfarfod aml-leoliad, h.y. wyneb yn wyneb ac ar-lein. Darperir manylion lleoliad pob cyfarfod unwaith y bydd yr agenda wedi'i chwblhau.
Caiff unrhyw sylwadau a gyflwynir eu crynhoi yn Adroddiad y Pwyllgor a'u hystyried wrth baratoi'r argymhelliad.
Os bydd gennych unrhyw sylwadau ychwanegol i'w gwneud, dylech gyflwyno'r rhain yn ysgrifenedig i cynllunio@abertawe.gov.uk erbyn canol dydd y diwrnod gwaith cyn y Pwyllgor. Ni ddylai'r sylwadau hyn fod yn fwy na 500 o eiriau a dylid eu cyfyngu i faterion newydd yn unig.
Bydd y sylwadau ar gael i Aelodau'r Pwyllgor.Ni fydd y cyngor yn ystyried unrhyw sylwadau sarhaus neu a allai fod yn enllibus.
Mae gan unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ar y cais yn flaenorol yr hawl i wneud datganiad i'r pwyllgor, ar yr amod ei fod yn rhoi rhybudd ymlaen llaw erbyn canol dydd y diwrnod gwaith cyn y Pwyllgor. Cysylltwch â'r Gwasanaethau Democrataidd drwy ffonio 01792 636923 neu e-bostio gwasanaethau.democrataidd@abertawe.gov.uk i gofrestru. Caiff unrhyw gyflwyniad llafar ei gyfyngu i gyfanswm o 5 munud felly efallai bydd angen i chi gysylltu â siaradwyr eraill i drefnu amseroedd.
Gellir gweld cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio drwy'r ddolen ganlynol: Gwylio cyfarfodydd ar-lein