Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheoli diogelwch bwyd

Yn ogystal â gorfod sicrhau bod y bwyd rydych chi'n ei gynhyrchu yn ddiogel i'w fwyta, dan reoliadau mae'n rhaid i'ch busnes bwyd hefyd ddangos beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod bwyd yn ddiogel. Dylech gadw cofnodion ysgrifenedig o hyn.

Fel rhan o archwiliadau rheolaidd, bydd y swyddog gorfodi'n gwirio bod gan eich busnes system rheoli diogelwch bwyd briodol ar waith yn seiliedig ar HACCP (Pwynt Rheoli Critigol Dadansoddi Peryglon).

Mae HACCP yn system a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer rheoli diogelwch bwyd. Mae'n canolbwyntio ar nodi'r pwyntiau allweddol mewn proses lle gallai problemau (neu beryglon) diogelwch bwyd godi a chymryd camau i atal pethau rhag mynd o chwith. Cyfeirir at hyn weithiau fel 'rheoli peryglon'. Mae cadw cofnodion yn rhan hanfodol o'r systemau HACCP.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn darparu gwybodaeth ychwanegol am sut i ddatblygu system rheoli diogelwch bwyd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Mehefin 2021