Diffoddiaduron tân awtomatig (taenellwyr)
Mae rheoliadau adeiladu yng Nghymru'n nodi bod yn rhaid gosod system diffoddiaduron tân awtomatig (a adwaenir yn gyffredinol fel system taenellu dŵr) mewn cartrefi newydd a chartrefi a addaswyd.
Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i bob cartref a fflat sydd newydd ei adeiladu neu sydd wedi cael newid sylweddol i ddefnydd ers 1 Ionawr 2016. Mae hyn yn cynnwys:
- tai a fflatiau newydd
- cartrefi gofal
- ystafelloedd at ddibenion preswyl (heblaw am ystafelloedd mewn gwesty, ysbyty, carchar neu hostel hamdden arhosiad byr)
- cartrefi grŵp cofrestredig neu dai lloches / gyfadeiladau byw'n annibynnol
Rhaid penodi person cymwys i ddylunio a gosod y system. Dylid derbyn tystysgrif gydymffurfio gan y gosodwr cymwys.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 13 Chwefror 2023