Toglo gwelededd dewislen symudol

Talu

Gwnewch daliadau'n uniongyrchol ac yn ddiogel i'r cyngor 24 awr y dydd 7 niwrnod yr wythnos.

Talwch eich biliau cyngor ar lein

Erbyn hyn, prosesir taliadau'r cyngor gan Civica DU. Wrth dalu, cewch eich trosglwyddo i wefan taliadau diogel Civica.

Wrth wneud eich taliad dylech sicrhau eich bod chi'n nodi'r un cyfeiriad a chôd post sydd gan eich darparwr cerdyn talu ar eich cyfer er mwyn osgoi bod eich taliad yn cael ei wrthod. Os caiff eich taliad ei wrthod, peidiwch â cheisio talu eto. 

Ffoniwch y rhif ffôn ar eich anfoneb neu fil i drafod y mater cyn gynted â phosib. Mae hyn yn ofynnol i sicrhau y safonau diogelwch uchaf gyda'r holl drafodion a gwneir â cherdyn gyda ni.

Os ydych am dalu hysbysiad o gosb benodol am dramgwyddau amgylcheddol, megis dirwy am daflu sbwriel neu adael baw ci, ffoniwch 01792 635600.

Pa wasanaethau galla i dalu amdanynt?

Treth y Cyngor
Trethi Busnes (NNDR)
Prosiectau/Mentrau Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe (BID)
Tâl Cosb Barcio - Dirwy Barcio
Rhent y Cyngor
Rhent Ystâd
Anfonebau gofal cymdeithasol
Gor-dâl Budd-dal Tai Preifat (Anfonebau sy'n dechrau â 39)
Gor-dâl Budd-dal Tai'r Cyngor (Anfonebau sy'n dechrau â 40)
Anfonebau'r Cyngor
Cronfa Elusen yr Arglwydd Faer 2023-2024
Talu am ffïoedd darlledu a chyhoeddi
Talu am chwilio sydyn
Gwneud cais a thalu am ymchwil llyfrgell ar-lein
Basgedi crog
Talu am seremoni
Prynu cofeb
Ffi am lety gwely a brecwast dros dro Opsiynau Tai
Taliad cynllunio ar-lein
Ffurflen talu ar-lein am hysbysiad o gosb addysg
Cais i brynu sedd wag ar fws contract cludiant ysgol
Talu am wiriad GDG
Rhoi tocyn bws ysgol newydd
Paratoadau graeanu ffyrdd ar gyfer mangreoedd

Pa gardiau credyd/debyd galla i eu defnyddio?

Rydym yn derbyn y cardiau debyd a chredyd canlynol yn unig:

Payment cards accepted by the council

Visa
Mastercard
Maestro
Electron

Ffyrdd eraill o dalu'ch biliau cyngor

Debyd Uniongyrchol

Debyd Uniongyrchol yw'r ffordd hawsaf a diogelaf i dalu'ch biliau rheolaidd. Gweler isod y rhestr wasanaethau y gallwch dalu amdanynt trwy ddebyd unionyrchol. Cesglir taliadau'n fisol fel arfer ac mae rhai gwasanaethau'n cynnig amrywiaeth o ddyddiadau casglu.

Gwybodaeth am ddebyd uniongyrchol Treth y Cyngor

Gallwch ddewis talu dros 10 neu 12 mis, a cheir pedwar dyddiad talu sef  1af, 8fed, 15fed neu'r 22ain, neu gallwch ddewis talu bob chwe mis neu'n flynyddol.

Gwybodaeth am ddebyd uniongyrchol Ardrethi Busnes (NNDR) - Lawrlwytho Mandad Debyd Uniongyrchol

Gwybodaeth am ddebyd uniongyrchol Rhent Tai'r Cyngor

I dalu am ffioedd Gofal Cymdeithasol trwy Ddebyd Uniongyrchol, ffoniwch 01792 636380 am ffioedd Preswyl neu 01792 636160 am ffioedd Gofal Cymdeithasol

I dalu Rhent Stâd drwy Ddebyd Uniongyrchol, ffoniwch 01792 637655

Gwasanaeth taliadau ffôn awtomataidd
Y rhif ffôn cyfradd leol yw 0300 456 2775, a dylai fod gennych eich rhif cyfrif/cyfeirnod, ynghyd â'ch dull talu, a all fod yn gerdyn debyd na chredyd.

Trosglwyddiad banc

Gallwch dalu'ch bil yn uniongyrchol i gyfrif banc y cyngor, ond cofiwch ddyfynnu'ch rhif cyfeirnod/rhif eich cyfrif yn gywir er mwyn i ni ddyrannu'ch taliad i'ch cyfrif. Nodwch ei fod yn cymryd o leiaf 3 diwrnod gwaith i ddyrannu'ch taliad i gyfeirnod eich cyfrif neu rif yr anfoneb felly sicrhewch eich bod yn caniatáu amser ychwanegol os oes angen gwneud taliad er mwyn osgoi derbyn nodyn atgoffa.

Lloyds Bank PLC, 802 Stryd Rhydychen, Abertawe, SA1 3AF.

Côd didoli  30-00-00
Rhif y cyfrif 00283290

Yn bersonol
Gallwch alw yn y Canolfan Ddinesig neu unrhyw Swyddfa Dai Ranbarthol (ac eithrio Gorseinon) i dalu biliau yn y ffordd arferol. Sicrhewch fod y bil gennych fel y gall ein staff gymryd y manylion angenrheidiol. Sylwer - os ydych yn talu bil Dwr Cymru, ni dderbynnir cardiau debyd neu gredyd. 

Diogelwch

Bydd ein cyfleuster talu ar-lein yn mynd â chi i wefan ddiogel gyda Civica, ein darparwr taliadau. Mae ein meddalwedd gweinydd diogel yn defnyddio cysylltiad SSL ac yn amgryptio'ch holl wybodaeth bersonol, gan gynnwys rhif cerdyn credyd neu ddebyd ac enw a chyfeiriad. Mae'r broses amgryptio'n mynd â'r nodau a nodwch ac yn eu trosi'n ddarnau o gôd sydd wedyn yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel dros y rhyngrwyd. 

Mae system dalu ar-lein y cyngor hefyd yn cefnogi MasterCard SecureCode® ac mae gwasanaeth Visa® 3D Secure'n ei gwirio i roi lefel ychwanegol o ddiogelwch wrth wneud taliadau dros y rhyngrwyd. Er mwyn manteisio ar y diogelwch ychwanegol a gynigir gan y cynlluniau hyn, bydd yn rhaid i chi gofrestru gyda'r banc a roddodd eich cerdyn talu.

Bydd defnyddwyr cofrestredig yn gweld sgrîn ychwanegol yn ymddangos wrth wneud eu taliad. Bydd cwestiynau diogelwch ar y sgrîn a fydd yn gwirio'r defnyddiwr cyn prosesu'r tâl.

Os na fyddwch wedi cofrestru, efallai y cewch eich gwahodd i gofrestru'ch cerdyn cyn parhau i dalu (yn dibynnu ar roddwr eich cerdyn). Os dymunwch, gallwch ddewis peidio â chofrestru'ch cerdyn ar yr adeg hon, byddwn yn dal i brosesu'ch tâl.

Cysylltwch â rhoddwr eich cerdyn i gael mwy o fanylion am y gwasanaethau hyn a sut mae cofrestru'ch cerdyn gyda chyfrinair.

Sut i dalu yn yr iaith o'ch dewis

Os ydych yn gweld fersiwn Saesneg gwefan Civica pan rydych am weld y fersiwn Gymraeg (neu i'r gwrthwyneb), cliriwch hanes eich porwr a'r cwcis yn eich porwr gwe cyn rhoi cynnig ar y ddolen unwaith eto.

Problem gyda gwneud taliad ar-lein?

Os ydych chi'n cael problem wrth geisio talu am rywbeth ar-lein drwy ein system dalu, mae rhai pethau y gallwch roi cynnig arnynt cyn cysylltu â ni i roi gwybod amdano.