Taliadau Costau Byw ar gael
Mae taliadau ar gael gan lywodraethau Cymru a'r DU i helpu gyda chostau byw.
Cymorth Llywodraeth y DU ar gyfer costau byw
Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan Llywodraeth y DU. Gellir dod o hyd i fanylion taliadau costau byw yn yr adran costau cartref.
Cymorth costau byw Llywodraeth Cymru
Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan Llywodraeth Cymru.
Taliad costau byw - cynllun dewisol
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol i bob awdurdod lleol i'w galluogi i ddarparu cymorth dan gynllun dewisol, i helpu aelwydydd yr ystyrir bod angen cymorth arnynt gyda'u costau byw.
Cynlluniau cymorth ynni amgen
Ar 19 Rhagfyr 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau pellach i ddarparu rhagor o gymorth i aelwydydd penodol tuag at eu costau ynni. Caiff y cynlluniau hyn eu cyflwyno yn y flwyddyn newydd.
Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru 2022/23
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r Cynllun Cymorth Tanwydd er mwyn rhoi cymorth i aelwydydd cymwys sy'n byw yn ardal Cyngor Abertawe i dalu eu biliau tanwydd.
Cymorth Tanwydd Gaeaf Brys ar gyfer costau tanwydd sydd oddi ar y grid
Gall y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) gynnig cymorth unwaith eto'r gaeaf hwn ar gyfer costau tanwydd oddi ar y grid.