Toglo gwelededd dewislen symudol

Talu gyda cherdyn ar-lein am sachau ailgylchu masnachol a sticeri

Gallwch archebu sachau a sticeri newydd ar gyfer ailgylchu, a thalu amdanynt gyda cherdyn credyd neu ddebyd, gan ddefnyddio'r ffurflen gais hon.

Sylwer ein bod ond yn gallu darparu sachau a sticeri i gwsmeriaid presennol sydd wedi derbyn casgliadau'n flaenorol. Peidiwch â gosod archeb os nad ydych wedi trafod casgliad oherwydd mae'n bosib na fyddwn yn gallu darparu gwasanaeth i chi. Os oes diddordeb gennych mewn cael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau cysylltwch â ni.

Sachau rhagdaledig ar gyfer gwastraff cyffredinol

Cesglir gwastraff cyffredinol mewn sachau gwyn. Os hoffech chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi lofnodi'r cytundeb isafswm, sef o leiaf un sach wen yr wythnos ar gyfradd o £4.00 am bob sach. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.