Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynegwch eich barn am gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu ymgynghori â phreswylwyr lleol ar gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.

swansea from the air1

Diddymwyd Budd-dal Treth y Cyngor ar 31 Mawrth 2013 fel rhan o raglen Diwygio Lles Llywodraeth y DU a gosodwyd cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor yn ei le.

Datganolwyd cyfrifoldeb am y cynllun yng Nghymru i Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae cynllun cenedlaethol yn berthnasol i bob awdurdod lleol yng Nghymru gydag ardaloedd cyfyngedig â dewis lleol. Bob blwyddyn ariannol mae gofyn i'r cyngor ystyried a ddylent greu elfennau dewisol newydd neu adolygu'r rhai presennol ac fel rhan o'r broses hon rydym am ymgynghori ar elfennau dewisol y cynllun a fydd ar waith o 1 Ebrill 2024.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi bod o fudd i filoedd o breswylwyr dros y blynyddoedd ac yn ystod yr argyfwng costau byw mae'n bwysig iawn bod y rhan dewisol y mae'r cyngor yn gyfrifol amdano mor deg â phosib. 


Bydd peth cyfle i addasu rhannau o'r cynllun a dyna pam mae'r cyngor yn cynnal ymgynghoriad ar y mater ac rydym yn annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan."

Ymysg y materion i'w trafod yn yr ymgynghoriad mae hawliadau ôl-ddyddiedig, effaith pensiynau rhyfel a phensiynau rhyfel gwraig weddw ar lefel hawliau a pha mor hir y gall gostyngiad barhau ar ôl i hawliwr ddechrau gwaith. Caiff unrhyw newidiadau i'r cynllun eu cyflwyno ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.


Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 6 Tachwedd 2023 a 3 Rhagfyr 2023

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i:

www.abertawe.gov.uk/ymgynghoriadGTC 

neu llenwch ffurflen ymgynghori sydd ar gael yn y ganolfan gyswllt, mewn llyfrgelloedd ac mewn swyddfeydd tai ardal, neu gallwch ofyn am un drwy e-bostio ymgynghoriad.gtc@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 636767.

Close Dewis iaith