Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg Abertawe'n bwriadu datgelu rhagor ynghylch bywyd cudd gwylanod

Bydd ymdrechion newydd i ddeall bywyd cudd gwylanod yn well yn dechrau gwneud cynnydd gydag ychydig o help oddi wrth adar sy'n nythu ar do Canolfan Ddinesig Cyngor Abertawe.

gull being ringed

Mae poblogaethau gwylan y penwaig a'r wylan gefnddu leiaf, sy'n cael bai ar gam yn aml am fod yn blâu parhaus ar lan y môr, yn gostwng ar draws y DU.

Fodd bynnag, mae prosiect tymor hir â'r nod o gofnodi ffyrdd o fyw a gweithgareddau mudo'r adar yn bwriadu datgelu rhagor o wybodaeth.

Trwy weithio gyda Peter Rock, sef arbenigwr gwylanod trefol, a gwirfoddolwyr Grŵp Modrwyo Adar Gŵyr, mae tîm cadwraeth natur y cyngor wedi modrwyo dros 75 o nythgywion - sef gwylanod bach nad ydyn nhw'n gallu hedfan eto - sydd ar do'r Ganolfan Ddinesig yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae'r gwaith yn rhan o arolwg ehangach o aber afon Hafren sydd eisoes wedi darganfod bod gwylanod sy'n mudo'n amrywio'n fawr ar ochr Cymru ac ochr Lloegr o'r afon ac maen nhw hyd yn oed wedi bod mewn gwledydd pell, gan gynnwys Morocco yng ngogledd Affrica.

Mae staff tîm cadwraeth natur y cyngor ymhlith y rheini sydd wedi helpu i fodrwyo'r adar. Maent yn dweud y byddai pobl yn synnu i ddysgu bod poblogaeth gwylanod yn gostwng, ond mae'r gostyngiad wedi dod yn fwy amlwg i gadwraethwyr.

Meddai'r Cynghorydd Hopkins, "Mae astudiaethau monitro tymor hir yn dangos bod maint poblogaeth gwylanod y penwaig wedi gostwng mwy na 50% ers 1970, ac mae'r gostyngiadau mwyaf wedi digwydd mewn ardaloedd arfordirol. Rydym yn gobeithio bydd yr astudiaeth rydym wedi ymuno â hi'n ein helpu ni i ddeall pam mae hyn yn digwydd."

"Mae'r sefyllfa'n debyg ar gyfer yr wylan gefnddu leiaf, lle mae niferoedd dros y gaeaf ar draws y DU wedi gostwng mwy na 22% dros yr 20 blynedd diwethaf."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Tachwedd 2023