Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o doiledau 'Changing Places' yn yr arfaeth ar gyfer Abertawe

Mae cynlluniau tymor hir Cyngor Abertawe i wella cyfleusterau toiled yn Abertawe yn gwneud cynnydd da.

Changing Places Icon

Mae dau doiled 'Changing Places' newydd mewn ardaloedd twristaidd prysur ynghyd â chynlluniau i uwchraddio nifer o'r cyfleusterau a weithredir gan y cyngor a gosod arwyddion modern sy'n addas i ffonau symudol wedi'u cyflwyno neu eu cytuno yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae adroddiad i'r Cabinet yr sy'n adolygu Strategaeth Toiledau'r cyngor hefyd yn amlygu sut mae'r cyngor yn annog busnesau preifat i helpu drwy wneud eu toiledau'n hygyrch i'r cyhoedd.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, "Mae toiledau'n rhan bwysig o'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl yn ein cymunedau, yn enwedig y diamddiffyn a'r anabl.

"Mae'r adborth rydym wedi'i gael wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda phobl yn dweud eu bod nhw a'u teuluoedd yn fwy hyderus i fynd o amgylch y lle, gan wybod na fyddant yn bell o gyfleuster Changing Place os oes angen un arnynt."

Ychwanegodd y Cyng. Anderson, "Rydym hefyd wedi adnewyddu'r toiledau cymunedol yng Nghlydach ac yn y Gerddi Botaneg ym Mharc Singleton ac mae rhagor o waith yn yr arfaeth ar gyfer cyfleusterau eraill hefyd.

Ychwanegodd, "Mae toiledau cyhoeddus yn bwysig i ni i gyd. Mae'r cyngor yn buddsoddi'n drwm mewn gwella cyfleusterau yn ogystal â'u glanhau a'u cynnal a chadw. Ond rydym yn nwylo'r cyhoedd ac mae angen i bawb chwarae eu rhan wrth drin toiledau gyda pharch a dweud wrthym yn brydlon am unrhyw ddiffygion neu bryderon.

"Mae'n hawdd gwneud hyn drwy ffôn clyfar. Ewch i'r wefan yn https://www.abertawe.gov.uk/toiledaucyhoeddus "

Mae'r strategaeth toiledau'n rhan o addewidion ymrwymiad polisi a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn y llynedd.

Mae rhestr a map rhyngweithiol o fwy na 30 o doiledau cyhoeddus o gwmpas Abertawe i'w chael yma: https://www.abertawe.gov.uk/toiledaucyhoeddus

 

Close Dewis iaith