Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n dychwelyd yn 2024

Dathlu Rhagoriaeth yn Niwydiant Twristiaeth Bae Abertawe

Bydd Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n dychwelyd yn 2024, gan gynnig cyfle i ddathlu sector twristiaeth bywiog y rhanbarth. Fel rhan o Wythnos Twristiaeth Cymru, mae'r cyhoeddiad ar 15 Gorffennaf yn dangos ymrwymiad newydd i gydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth yn y diwydiant twristiaeth.

Bydd Twristiaeth Bae Abertawe, drwy gymorth Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru, yn cynnal y gwobrau. Mae'r cydweithrediad hwn yn tanlinellu ymrwymiad ar y cyd i hyrwyddo a dathlu'r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth.

"Rydym yn falch bod Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe yn dychwelyd yn 2024," meddai Roy Church, Cyfarwyddwr Twristiaeth Bae Abertawe. "Mae'r gwobrau hyn yn dangos cadernid, creadigrwydd a rhagoriaeth yn ein diwydiant twristiaeth. Maent yn tanlinellu ymroddiad busnesau ac unigolion sy'n mynd gam ymhellach yn gyson i ddarparu profiadau eithriadol i ymwelwyr."

Bydd enillwyr y gwobrau rhanbarthol eleni'n cael y cyfle uchel ei fri i gynrychioli Bae Abertawe ar lefel genedlaethol yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru yng ngwanwyn 2025.

Bydd y gwobrau'n cynnwys 12 o gategorïau, gan ddarparu llwyfan cynhwysfawr i arlwy twristiaeth amrywiol a rhagorol y rhanbarth. Dyma'r categorïau:

  • Gwesty Gorau
  • Llety Gwely a Brecwast, Tafarn a Thŷ Llety Gorau
  • Llety Hunanarlwyo Gorau
  • Safle Carafanio, Gwersylla, Glampio Gorau
  • Atyniad Gorau
  • Gweithgaredd, Taith neu Brofiad Gorau
  • Bro a Byd (y rhai hynny sy'n mynd gam ymhellach o ran cynaliadwyedd amgylcheddol)
  • Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol
  • Lle Gorau i Fwyta
  • Seren Newydd
  • Digwyddiad Gorau
  • Busnes Gorau sy'n Croesawu Cŵn

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe, Robert Francis-Davies, "Rydym yn falch o gynnal Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe 2024 yn Neuadd y Ddinas. Mae'r gwobrau hyn yn dathlu'r busnesau lleol sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n heconomi a'n cymuned. Mae eu gwaith caled a'u hymroddiad yn amhrisiadwy i lwyddiant ein rhanbarth.

"Mae twristiaeth yn ddiwydiant hollbwysig i Fae Abertawe, gan greu cannoedd o filiynau o bunnoedd i'r economi a sicrhau miloedd o swyddi. Bydd y diwydiant yn mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd i ddod o ganlyniad i'r cynlluniau i adfywio canol y ddinas."

Ychwanegodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Natur, Twristiaeth a Lles, "Mae Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n gyfle ardderchog i arddangos ymroddiad ein busnesau twristiaeth lleol. Yn ogystal â dathlu llwyddiant, mae'r gwobrau hyn yn ysbrydoli gwelliant ac arloesedd parhaus ar draws y diwydiant."

Nod Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe, a gynhelir am yr wythfed tro, yw cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth, gosod meincnodau ar gyfer arferion gorau a chodi safonau yn y diwydiant yn barhaus. Maent yn gwella profiadau ymwelwyr, yn amlygu gwerth y sector twristiaeth ac yn cynnig llwyfan eilflwydd ar gyfer cyfleoedd dathlu a rhwydweithio i weithredwyr a chefnogwyr.

Mae Twristiaeth Bae Abertawe'n gwahodd pob busnes i gyflwyno cais i'w ystyried. "Rydym yn annog busnesau bach a mawr yn y sector twristiaeth i gyflwyno cais a chael eu cydnabod am y gwaith y maent yn ei wneud i sicrhau bod twristiaid yn teimlo'n arbennig pan fyddant yn ymweld â de Cymru.

"Profwyd bod ennill gwobr o fudd i fusnes, felly os oes gennych gynnyrch, gwasanaeth, tîm neu unigolion sy'n haeddu cydnabyddiaeth, rydym am glywed gennych. Achubwch ar y cyfle hwn i ganiatáu i'ch busnes ddisgleirio!"

Bydd modd cyflwyno ceisiadau tan 17 Awst.

Eleni, bydd y gwobrau'n dilyn fformat gwahanol, gyda seremoni gyflwyno, gan gynnwys lluniaeth a chyfle i rwydweithio. Bydd Gwobrau Twristiaeth Bae Abertawe'n dychwelyd i fformat cinio tei du yn 2026, a fydd yn ddathliad mwy nodedig byth. 

Ceir rhagor o wybodaeth am Wobrau Twristiaeth Bae Abertawe a sut i gyflwyno cais drwy fynd i swanseabaytourismawards.org neu drwy gysylltu â Thwristiaeth Bae Abertawe

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Gorffenaf 2024