Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefniadau derbyn i'r chweched dosbarth 2025 / 2026

Meini prawf ar gyfer mynediad.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Gall disgyblion wneud cais am le mewn chweched dosbarth yn un o ysgolion Abertawe yn nhymor y gwanwyn ar gyfer y mis Medi canlynol. Pennir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau gan ysgolion unigol.

Cynnig amodol

Cynigir lle amodol i ddisgyblion yr ysgol. Bydd y lle dros dro hwn yn amodol ar gyflawni cymwysterau mynediad penodol fel a gyhoeddir gan bob ysgol unigol. Am ragor o wybodaeth am gymwysterau mynediad penodol, cysylltwch yn uniongyrchol â'r ysgol.

Canlyniadau TGAU/cyfwerth

Pan cyhoeddir canlyniadau TGAU, h.y. y trydydd dydd Iau ym mis Awst fel arfer, bydd angen i ddisgyblion unigol gysylltu â'r ysgol o'u dewis i gadarnhau eu canlyniadau TGAU neu gyfwerth.

Dewis pynciau

Mae'n bosib y bydd myfyrwyr sydd wedi cyflawni graddau boddhaol mewn arholiadau TGAU neu gyfwerth yn derbyn cynnig cadarnhaol o le yn yr ysgol o'u dewis os bydd lleoedd ar gael. Fodd bynnag, dylid nodi efallai na fydd yn bosib astudio pob un o'r pynciau a ddewiswyd yn yr ysgol a ddewiswyd. Efallai y bydd angen i ddisgyblion wneud cysylltiad â chweched dosbarth mewn ysgol arall er mwyn astudio rhai pynciau. 

Mae'n bosib y bydd myfyrwyr sydd wedi cyflawni graddau boddhaol mewn arholiadau TGAU neu gyfwerth ond nid ydynt yn gallu astudio'r holl bynciau o'u dewis yn yr ysgol o'u dewis yn cael cynnig dewis arall o'r pynciau sy'n cael eu haddysgu yn y lleoliad hwnnw. Fel arall, gall y disgyblion hynny chwilio am le mewn lleoliad arall, h.y. chweched dosbarth mewn ysgol arall yn Abertawe neu yng Ngholeg Gŵyr..

Ni fydd gofyn i ddisgyblion gael cyfweliad mynediad.

Terfynau mynediad - chweched dosbarth

Gall pob ysgol â chweched dosbarth dderbyn hyd at ei uchafswm derbyn, yn amodol ar fyfyrwyr yn cyflawni'r gofynion mynediad penodol a nodwyd gan yr ysgol (ceir manylion gan ysgolion unigol). Mae'n rhaid rhoi hawl apelio i rieni a disgyblion y mae eu cais am le yn chweched dosbarth yr ysgol yn cael ei wrthod.

Trefniadau derbyn

Rhoddir y cyfrifoldeb am y trefniadau ar gyfer blynyddoedd 12 a 13 mewn ysgolion cymunedol a gynhelir i'r sefydliadau'n uniongyrchol. Gellir gofyn am fanylion trefniadau derbyn ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol yn uniongyrchol gan y sefydliadau perthnasol a bydd y rhain yn rhan o'u polisïau derbyn.

Rhestr aros

Os bydd gorysgrifio am leoedd mewn chweched dosbarth ac ni all yr ysgol fodloni'r galw am gyrsiau, caiff rhestr aros ei chynnal. Bydd ymgeiswyr sydd wedi bodloni'r meini prawf mynediad (gweler uchod) ond y mae eu cais am le wedi cael ei wrthod oherwydd prinder lle yn cael cyfle i roi eu henwau ar restr aros. Os daw lle/lleoedd ar gael, bydd disgyblion y mae eu henwau ar y rhestr aros yn cael cynnig lle yn unol â'r meini prawf gorymgeisio (gweler isod).

Meini prawf gorymgeisio

I ddisgyblion sy'n cyflawni'r cymwysterau mynediad penodol pan fo mwy o geisiadau wedi cael eu derbyn ar gyfer unrhyw chweched dosbarth na'r lleoedd sydd ar gael, caiff y drefn flaenoriaeth ganlynol ei dilyn:

  1. Disgyblion y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt (PDG) neu a oedd yn arfer derbyn gofal*.
  2. Disgyblion sy'n byw o fewn dalgylch diffiniedig yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.
  3. Disgyblion y mae ganddynt frawd neu chwaer o oedran ysgol statudol** sy'n mynd i'r ysgol adeg eu derbyn ***. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.
  4. Disgyblion a aeth i'r ysgol ym Mlwyddyn 11 ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol honno. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.
  5. Plant eraill y gwnaed cais am le drostynt nad yw meini prawf 1 i 4 uchod yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth**.

*Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

**Mesurir pob llwybr gan gyfrifiadur gan ystyried y pellter o'r cartref i'r ysgol ar hyd y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Cymerir y mesuriadau o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol.

***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad. Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r disgyblion cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.)

Sylwer: Efallai y bydd disgyblion a chanddynt Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU) lle mae'r ALl wedi enwi ysgol yn adran 2D.1 y CDU neu Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn trosglwyddo i ddosbarthiadau'r chweched yn ysgolion Abertawe. Gwneir y penderfyniad ar drosglwyddo gan yr awdurdod lleol mewn ymgynghoriad â'r ysgol berthnasol. Roedd yr wybodaeth yn y cyhoeddiad hwn yn gywir pan gafodd ei chyhoeddi, ond gellir ei newid, yn seiliedig ar gyngor/ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gyhoeddi nad oedd ar gael pan gyhoeddwyd y ddogfen.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Medi 2024