Pobl â nam meddyliol difrifol - cais i berson gael ei ddiystyru at ddibenion Treth y Cyngor
Nid yw person yn cael ei gynnwys at ddibenion gostyngiadau Treth y Cyngor os yw ei feddyg teulu'n ystyried bod ganddo nam meddyliol difrifol a bod hawl ganddo i dderbyn budd-daliadau cymwys y wladwriaeth (er efallai nad yw'n eu derbyn).
Mae cyflyrau a all arwain at nam meddyliol difrifol, nam gwybyddol difrifol neu salwch meddwl yn cynnwys clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia, clefyd Parkinson, anawsterau dysgu difrifol neu strôc, ond gall sawl un arall fod yn berthnasol hefyd. Nid yw'r cyflyrau hyn yn eu hunain yn golygu y bydd person yn cael diagnosis o nam meddyliol difrifol gan feddyg.
Eithriad/gostyngiad Treth Gyngor:
- os ydych wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol gan feddyg, ac yn byw ar eich pen eich hun neu dim ond gyda phobl eraill sydd â nam meddyliol difrifol, byddwch yn cael eich eithrio rhag talu'r Dreth Gyngor
- os ydych wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol gan feddyg, ac yn byw gydag un oedolyn sy'n gymwys i dalu treth gyngor, bydd eich aelwyd yn cael gostyngiad o 25%
- os ydych wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol gan feddyg, ac yn byw gyda 2 neu ragor o oedolion sy'n gymwys i dalu treth gyngor, ni fydd unrhyw ostyngiad