Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau arweiniol ar gyfer gwneud cais am drwydded bersonol a datgeliad

Bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i gwblhau'r ffurflen gais ar gyfer trwydded bersonol. Dylech ddarllen hwn cyn cwblhau'r ffurflen gais.

Nodiadau ar gyfer y ffurflen gwneud cais am drwydded bersonol

Mae gwybodaeth am Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gael yn legislation.gov.uk neu gan eich awdurdod trwyddedu lleol.

1. Cymwysterau trwyddedu

Ymdrinnir â chymwysterau trwyddedu yn adran 120(8) a (9) o Ddeddf Trwyddedu 2003 (Yn agor ffenestr newydd).

2. Hawl i weithio/statws mewnfudo:

Mae'n bosib na roddir trwydded bersonol i unigolyn neu unigolyn sydd mewn partneriaeth nad yw'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy'n breswylydd yn y DU:

  • nad oes ganddo'r hawl i fyw ac i wiethio yn y DU; neu
  • os yw'n destun amod sy'n ei atal ef/hi rhag cyflawni gwaith sy'n ymwneud â gweithgaredd trwyddedig.

Bydd unrhyw drwydded bersonol a roddir mewn perthynas â chais a wnaed ar 6 Ebrill 2017 neu wedi hynny yn annilys os bydd hawl y deiliad i weithio yn y DU yn dod i ben.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU ac nad ydynt yn destun amod sy'n eu hatal rhag cyflawni gwaith sy'n ymwneud â gweithgaredd trwyddedig. Maent yn gwneud hyn drwy ddarparu, gyda'r cais hwn, gopïau neu gopïau wedi'u sganio o'r dogfennau canlynol (nid oes rhaid iddynt fod wedi'u hardystio).

Dogfennay sy'n dangos yr hawl i weithio yn y DU

  • Pasbort cyfoes neu sydd wedi dod i ben sy'n dangos bod y deiliad, neu berson a enwir ar y pasbort fel plentyn y deiliad, yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd y DU a'r trefedigaethau sydd â'r hawl i breswylio yn y DU [gweler y nodyn isod am adrannau'r pasbort sy'n berthnasol].
  • Pasbort cyfoes neu sydd wedi dod i ben neu gerdyn hunaniaeth genedlaethol sy'n dangos bod y deiliad, neu berson a enwir ar y pasbort fel plentyn y deiliad, yn ddinesydd gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu'r Swistir.
  • Tystysgrif Cofrestru neu ddogfen yn ardystio preswyliad parhaol a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i ddinesydd gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir.
  • Cerdyn preswylio parhaol a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i aelod teulu dinesydd gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir.
  • Dogfen Mewnfudo Biometrig (Hawlen Preswylio Biometrig)gyfoes a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad, sy'n nodi bod gan y person a enwir hawl benagored i aros yn y DU, neu nad oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU.
  • Pasbort cyfoessy'n ardystio bod y deiliad wedi'i eithrio rhag rheolaeth fewnfudo, bod hawl benagored ganddo i aros yn y DU, bod yr hawl i breswylio yn y DU ganddo neu nad oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU.
  • Dogfen Statws Mewnfudo gyfoes a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad gydag ardystiad yn nodi bod gan y person a enwir hawl benagored i aros yn y DU neu nid oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU pan gyflwynir ar y cyd â dogfen swyddogol sy'n dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Tystysgrif geni neu fabwysiadu lawn a gyflwynwyd yn y DU sy'n cynnwys enw(au) o leiaf un o rieni'r deiliad neu ei rieni mabwysiadol, pan gyflwynir ar y cyd â dogfen swyddogol sy'n dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Tystysgrif geni neu fabwysiadu a gyflwynwyd yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Iwerddon pan gyflwynir ar y cyd â dogfen swyddogol yn dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Tystysgrif cofrestru neu ddinasyddio fel dinesydd Prydeinig pan gyflwynir ar y cyd â dogfen swyddogol yn dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Pasbort cyfoes sy'n ardystio bod hawl gan y deiliad i aros yn y DU a bod ganddo'r hawl i weithio ar hyn o bryd ac nad yw'n destun amod sy'n gwahardd y deiliad rhag gwneud gwaith sy'n ymwneud â gweithgaredd trwyddedig.
  • Dogfen Mewnfudo Biometrig (Hawlen Preswylio Biometrig) gyfoes a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad, sy'n nodi bod gan y person a enwir hawl benagored i aros yn y DU ar hyn o bryd a bod ganddo hawl i weithio mewn perthynas â chynnal gweithgaredd trwyddedadwy.
  • Cerdyn Preswylio cyfoes a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i berson nad yw'n ddinesydd gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ond sy'n perthyn i ddinesydd o'r fath neu sydd â hawliau deilliadol i breswylio.
  • Dogfen Statws Mewnfudo gyfoes â ffotograff a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad gydag ardystiad yn nodi bod hawl gan y person a enwir i aros yn y DU, a bod ganddo'r hawl i weithio ac nad yw'n destun amod sy'n atal y deiliad rhag gwneud gwaith sy'n ymwneud â gweithgaredd trwyddedig pan gyflwynir ar y cyd âdogfen swyddogol sy'n dangos rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw llawn a gyflwynwyd gan asiantaeth y Llywodraeth neu gan gyflogwr blaenorol.
  • Tystysgrif cais, sy'n llai na 6 mis oed, a gyflwynwyd gan y Swyddfa Gartref dan reoliad 17(3) neu 18A (2) Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006, i berson nad yw'n ddinesydd gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ond sy'n perthyn i ddinesydd o'r fath neu sydd â hawliau deilliadol i breswylio.
  • Tystiolaeth resymol fod gan y person gais sy'n weddill gyda'r Swyddfa Gartref i amrywio ei ganiatâd i fod yn y DU megis llythyr cydnabod gan y Swyddfa Gartref neu dystiolaeth o brawf postio, neu dystiolaeth resymol fod gan y person apêl neu adolygiad gweinyddol ar waith mewn perthynas â phenderfyniad mewnfudo, megis rhif cyfeirnod apêl neu rif cyfeirnod adolygiad gweinyddol.
  • Tystiolaeth resymol fod person, nad yw'n ddinesydd gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ond sy'n perthyn i ddinesydd o'r fath neu sydd â hawliau deilliadol i breswylio drwy hawliau cytundebol yn y DU gan gynnwys:
    • tystiolaeth o hunaniaeth yr ymgeisydd - megis pasbort,
    • tystiolaeth o'i berthynas â'r aelod teulu o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd - e.e. tystysgrif priodas, tystysgrif partneriaeth sifil neu dystysgrif geni, a
    • thystiolaeth fod gan y dinesydd Ardal Economaidd Ewropeaidd yr hawl i aros yn y DU yn barhaol neu ei fod yn gwneud un o'r canlynol os yw wedi bod yn y DU am dros 3 mis:
      • gweithio e.e. contract cyflogaeth, slipiau tâl, llythyr oddi wrth y cyflogwr,
      • hunangyflogedig e.e. contractau, anfonebau neu gyfrifon banc archwiliedig,
      • astudio e.e. llythyr oddi wrth yr ysgol, coleg neu brifysgol a thystiolaeth o gyllid digonol; neu
      • hunangynhaliol, e.e. cyfriflenni banc.

Bydd angen i aelodau teulu dinasyddion Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n astudio neu'n ariannol annibynnol hefyd ddarparu tystiolaeth fod gan y dinesydd Ardal Economaidd Ewropeaidd ac unrhyw aelodau'r teulu yswiriant salwch cynhwysfawr yn y DU. Gall hyn gynnwys polisi meddygol preifat, cerdyn EHIC neu ffurflen S1, S2 neu S3.

Ni ddylid anfon dogfennau gwreiddiol i awdurdodau trwyddedu. 

Os mai pasbort yw'r ddogfen a gopïwyd, copïwch y tudalennau canlynol:

(i). unrhyw dudalen sy'n cynnwys manylion personol y deiliad gan gynnwys ei genedl;

(ii) unrhyw dudalen sy'n cynnwys ffotograff o'r deiliad;

(iii) unrhyw dudalen sy'n cynnwys llofnod y deiliad;

(iv) unrhyw dudalen sy'n cynnwys y dyddiad dod i ben; ac

(v) unrhyw dudalen sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n nodi bod gan y deiliad yr hawl i ddod i'r DU neu aros yma a bod hawl ganddo i weithio.

Os nad pasbort yw'r ddogfen, dylid copïo'r ddogfen lawn.

Bydd eich hawl i weithio'n cael ei gwirio fel rhan o'ch cais am drwydded a gallwn wirio eich statws mewnfudo gyda'r Swyddfa Gartref. Fel arall gallwn rannu gwybodaeth â'r Swyddfa Gartref. Ni cheir penderfyniadau ar eich cais am drwydded hyd nes eich bod wedi cydymffurfio â'r arweiniad hwn.

Nodiadau ar gyfer y ffurflen datgeliad euogfarnau a chosbau mewnfudo sifil a datganiadau

1. Troseddau perthnasol neu dramor

Troseddau perthnasol yw'r troseddau a restrir yn Atodlen 4 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (Yn agor ffenestr newydd).

Ymdrinnir ag ystyr trosedd tramor yn adran 113 o Ddeddf Troseddu 2003 (Yn agor ffenestr newydd).

Os ydych chi'n meddu ar drwydded ynadon ac rydych yn gwneud cais am drwydded bersonol o dan Reoliad 8 Rheoliadau Deddf Trwyddedu (Trwyddedau Personol) 2005 gweler paragraffau 23 a 28 yn Rhan 3 o Atodlen 8 Deddf Trwyddedu 2003 am yr wybodaeth mae'n ofynnol i chi ei rhoi.

Os ydych wedi eich cael yn euog o unrhyw drosedd berthnasol neu dramor yn ystod y cyfnod rhwng pryd y gwneir eich cais a phan gaiff eich cais ei benderfynu neu ei dynnu'n ôl, rhaid i chi hysbysu'r awdurdod y gwnaed eich cais iddo. Gallai methu â gwneud hynny heb esgus rhesymol arwain at erlyniad a dirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol. 

2. Cosb mewnfudo sifil

Mae cosb mewnfudo yn golygu cosb o dan adran 15 o Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 neu adran 23 o Ddeddf Mewnfudo 2014.

Close Dewis iaith